Dewch i’n Gweld

Hysbysiad · Byddwch yn ymwybodol rhwng yr 20fed a’r 28ain o Dachwedd, bydd tîm Luminate ar y safle yn gosod Llwybr Golau Gaeaf.

  • L U M I N A T E

    Mwynhewch ein llwybr hudolus, gyda goleuadau, elfennau rhyngweithiol a chwareus, yn ogystal â cherddoriaeth swynol. Darllenwch fwy
  • Darganfod

    Gyda dros 500 erw mae digon i'w weld a'i wneud. Archwiliwch y parcdir a adferwyd yn ddiweddar, a’n Gwarchodfa Natur Waun Las. Rydym yn cynnig amrywiaeth o lwybrau ac apiau i’ch helpu i gynllunio a gwneud y gorau o’ch ymweliad. Darllenwch fwy
  • Y Ty Gwydr Mawr

    Mae’n gwarchod rhai o’r planhigion sydd fwyaf dan fygythiad ar y blaned, sy’n hannu o chwe ardal sydd ag hinsawdd Ganoldirol, sef Califfornia, Awstralia, yr Ynysoedd Dedwydd, Chile, De Affrica a Basn y Canoldir, a rhannwyd y Tŷ Gwydr Mawr yn adrannau gwahanol i adlewyrchu hyn. Darllenwch fwy
  • Llwybr y Gryffalo

    Archwiliwch y coetir hudol, dwfn, tywyll a darganfyddwch ein cerfiadau anhygoel a grëwyd â llaw o gymeriadau’r Gryffalo. Darllenwch fwy
  • Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain

    Yr unig ganolfan adar ysglyfaethus yn y DU sy’n canolbwyntio ar ein rhywogaethau brodorol ein hunain yn unig. Darllenwch fwy

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi'i lleoli 10 munud o'r M4 a 2 funud o'r A48 yn Sir Gaerfyrddin, hanner ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin

Amserau agor
1 Ebrill - 31 Hydref 10yb - 6yh
1 Tachwedd - 31 Mawrth 10yb - 4yh

Cynlluniwch eich ymweliad â'r Ardd gyda'n tudalennau defnyddiol yn llawn awgrymiadau a gwybodaeth, neu cysylltwch â ni am ymholiadau pellach. Mae'r Ardd wedi'i lleoli 10 munud o'r M4 a 2 funud o'r A48 yn Sir Gaerfyrddin, hanner ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin.

Prisiau mynediad yn cynnwys Cymorth Rhodd heb Gymorth Rhodd
Mae mynediad olaf awr cyn cau
Oedolyn £19.00 £16.85
Plant (2-17) £10.00 £8.65
Plant dan 2 oed AM DDIM AM DDIM
Teulu Dau Oedolyn (2 oedolyn a hyd at 4 o blant) £55.00 £49.50
Teulu Un Oedolyn (1 oedolyn a hyd at 4 o blant) £41.00 £37.00
Gofalwyr AM DDIM AM DDIM
Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain · Mynediad Am ddim gyda mynediad Am ddim gyda mynediad
Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain · Arddangosfa Hedfan Tâl ychwanegol Tâl ychwanegol