Y Gardwenynen Gyffredin

Bombus pascuorum

Mae’r Gardwenynen Gyffredin yn gacynen sinsir gyffredin sydd i’w gweld mewn llawer o amgylcheddau gwahanol, yn cynnwys gerddi, a hynny yn y gwanwyn, yr haf a hyd yn oed ddechrau’r hydref.

A dweud y gwir, dyma’r unig gacynen sinsir sy’n gyffredin.

Mae breninesau, gweithwyr a gwrywod y rhywogaeth hon yn edrych yn debyg iawn i’w gilydd.

Mae’r rhywogaeth yn perthyn i gategori’r cacwn tafod hir, sy’n golygu y gall chwilota ar amrywiaeth o flodau â chorolae o hydoedd gwahanol.

Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt ar hyd a lled yr Ardd.

  • Gardd yr Apothecari

    Gardd brydferth yn llawn o berlysiau meddyginiaethol

  • Gardd Wenyn

    Mae’n gartref i tua hanner miliwn o wenyn mêl ac yn ferw o weithgaredd y medrwch ei wylio trwy ffenestri mawrion