Dewch i ddarganfod yr Ardd Fotaneg.
Mae’r gwaith atgyweirio ar ein hargaeau yn golygu bod rhai llwybrau yn yr Ardd Fotaneg ar gau.
Mae’r map yma yn dangos yr ardaloedd sydd ar gau.
Mae croeso i chi grwydro ond byddwch yn ymwybodol y bydd yn rhaid i chi ddilyn eich camau yn ôl trwy Goed y Tylwyth Teg ar ôl ymweld â’r dirwedd ehangach.
Bydd traffig adeiladu yn defnyddio rhai llwybrau y tu allan i’r ardal sydd wedi ei gau, felly ewch ymlaen yn ofalus.
Sori am yr anghyfleustra a llawer o ddiolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
O ddod yn Aelod o’r Ardd Fotaneg, fyddwch chi nid yn unig yn cefnogi un o’r gerddi elusennol mwyaf hardd, hanesyddol, diddorol a phwysig yng Nghymru, byddwch hefyd yn helpu i achub a gwarchod rhywogaethau o blanhigion Cymreig sydd mewn perygl, ynghyd â rhywogaethau o blanhigion sydd bellach o dan fygwth o ddiflannu o ranbarthau ar draws y byd.
A hithau wedi’i sefydlu yn brosiect y Mileniwm, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ifanc o’i chymharu â llawer o erddi botaneg ledled y byd. Er hynny, rydym wedi cyflawni llwyth anhygoel o waith, gan olygu ein bod wedi dod yn un o drysorau Cymru ac yn ased cenedlaethol.
Cliciwch yma i ddarganfod fwy ar sut yr ydym yn cyflawni ein hymrwymiad i gadwraeth, addysg ac ysbrydoliaeth, ac ein huchelgeisiau i barhau i drawsnewid y byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gael y newyddion diweddaraf am yr Ardd Fotaneg, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Twitter, Instagram a YouTube.
Darllen rhagor am yr Ardd