Ein Gwaith

Agorodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Mai 2000 – sy’n golygu mai hi yw’r ardd fotaneg genedlaethol gyntaf i gael ei chreu yn y mileniwm newydd.

Y Tŷ Gwydr Mawr o’r awyr, Gorffennaf 2023

Ymhen dim o dro, daeth yr Ardd i gydnabyddedig fel:

  • Yr ardd yr ymwelir â hi fwyaf yng Nghymru – dros 2.5 miliwn yn barod
  • Y cynllun tirwedd mwyaf dylanwadol yng Nghymru yn ystod y 75 mlynedd diwethaf yn ôl y Landscape Institute
  • Yr ‘Ardd Orau i Ymweld â hi yng Nghymru’ yn ôl pleidlais BBC Gardeners’ World
  • Rhif 1 ‘Rhyfeddod Cymru’, ‘Yr Ardd Fwyaf Rhamantus’, ‘Yr Ardd Orau i Blant’ a’r ‘Te Prynhawn Gorau’ gan y Western Mail
  • ‘Hoff Beth yr Ymwelwyr’ gan Gymdeithas Dwristiaeth Sir Gaerfyrddin
  • Enillydd Gwobr Aur gan Groeso Cymru

Pam?

Mae ein bwriad i ysbrydoli, addysgu a gwarchod nid yn unig wedi ein gwneud yn lle hardd i ymwelwyr ond yn fan diddorol a pherthnasol hefyd.

Byddwch yn dod o hyd i gasgliad syfrdanol o dros 5000 o wahanol fathau o blanhigion, wedi’u gwasgaru dros 560 erw o gefn gwlad hardd.

Mae ystod drawiadol o erddi â themâu sy’n apelio at bob math o ymwelwyr, o’r rhai sy’n gwirioni ar edrych ar flodau a’u harogli i’r rhai sydd eisiau gwybod am blanhigion meddyginiaethol neu’r ymchwil DNA ddiweddaraf i esblygiad planhigion.

Mae’n ardd gyfeillgar iawn i deuluoedd. Mae digonedd o weithgareddau i deuluoedd eu gwneud yn ystod gwyliau’r ysgol a gwyliau banc, a rhaglen amrywiol drwy gydol y flwyddyn sy’n apelio at ystod eang o ymwelwyr.

Mae gan yr Ardd dŷ gwydr sydd â’r rhychwant mwyaf yn y byd, a gafodd ei gynllunio gan yr Arglwydd Foster, ac ynddo mae’r arddangosfa orau o blanhigion o barth hinsawdd y Canoldir a welwch unrhyw le yn Hemisffer y Gogledd.

Gallem ni ddweud llawer mwy, er enghraifft, am y ffaith ein bod yn helpu i warchod rhai o blanhigion mwyaf prin y byd, ond efallai ein prisiau cystadleuol a’n pecyn Aelodaeth deniadol yw’r rhesymau pam ein bod mor boblogaidd.

Rydym yn elusen sy’n derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.