Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i helpu cynnal bioamrywiaeth, ac i wneud hynny trwy ymchwil a chadwraeth. Rydym yn cyfrannu’n rhynglwadol i’r bar-godio o DNA planhigion ac rydym yn ased cenedlaethol o safbwynt ymchwil i blanhigion, ffyngau a pheillwyr.



Mae’r Ardd yn adnodd cyffrous i ymchwilwyr oherwydd y 9,000 o ddosbarthiadau o blanhigion, sy’n cynnwys casgliad o’r planhigion yng Nghymru sydd dan fygythiad, ac amrywiaeth hynod werthfawr o gynefinoedd glaswelltir o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.
Mae ein Canolfan Wyddoniaeth yn cynnwys labordy moleciwlaidd, sy’n ymrwymedig i bennu codau bar DNA ac ymchwil geneteg cadwraeth, Banc Hadau Cenedlaethol, yn ogystal â’n llyfrgell, ein harchifau a’n llysieufa.
Rydym yn gweithio yn yr Ardd, yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, mewn cynefinoedd sydd dan fygythiad yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae bioamrywiaeth yn bodoli ar draws tair lefel, o enynnau, i rywogaethau, i ecosystemau – ac rydym yn gweithio ar yr holl lefelau hyn i helpu tuag at gadwraeth.
Mae cydweithrediad yn hanfodol: rydym yn gweithio efo prifysgolion, sefydliadau ymchwil, gerddi botaneg, elusennau cadwraeth planhigion a chyrff llywodraeth i ddatblygu partenriaethau effeithiol ar gyfer ymchwil ar fioamrywiaeth.