Archifau

Mae’r archifau yn cynnwys dros 2,000 o ddogfennau a delweddau sy’n berthnasol i ddatblygiad yr Ardd, o ystâd Middleton yn y 18fed ganrif i brosiect y Mileniwm a’r sefydliad cenedlaethol.

Ry’n ni’n parhau i gasglu dogfennau a ffotograffau ac ar hyn o bryd rydym yn casglu hanes ar lafar hefyd gan recordio atgofion pobl a oedd yn gysylltiedig ag ystâd yr Ardd yn y gorffennol.