Casgliadau

Mae gerddi botaneg yn adnabyddus am eu casgliadau o blanhigion, a chyda dros 5,000 o dacsonau planhigion yma, hoffem eich annog i ddod i weld ac adnabod ein holl gasgliadau arbenigol.

Ond mae gennym fwy na dim ond casgliadau garddwriaethol.

Rydym yn rheoli ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol, sef Waun Las, i annog bioamrywiaeth, ac rydym yn ystyried popeth byw ar ein safle yn rhan o’n casgliad bioamrywiaeth.

Gan ei fod yn safle o ddiddordeb hanesyddol, mae gennym hefyd gasgliad o hen adeiladau, nodweddion tirwedd cyfnod y Rhaglywiaeth, ac ymchwil am y bobl a fu’n byw yma ar un adeg. Mae hyn yn ategu ein casgliadau dan do o hadau, ffyngau a phlanhigion sych, a’n llyfrgell. Y tu allan, mae gennym gasgliadau o gelf a cherfluniau, ac ar ein fferm, mae gennym fridiau o wartheg a defaid Cymreig.