Bioamrywiaeth

Ar draws ein brithwaith o lynnoedd, nentydd, corsydd, coetiroedd lled-naturiol, dolydd a gerddi ffurfiol, rydyn ni’n rhoi cartref i dros 1000 o rywogaethau. Mae’r rhain yn cynnwys

  • dros 500 math o bili-palod a gwyfynod
  • 70 rhywogaeth o wenyn
  • 80 rhywogaeth o bryfed hofran
  • cannoedd o rywogaethau o blanhigion brodorol
  • dros 100 rhywogaeth o adar
  • frogaod, llyffantod a madfallod palmwyddog
  • madfallod cyffredin, nadroedd y gwair a nadroedd defaid
  • ugain rhywogaeth o famaliaid, gan gynnwys pathewod, dyfrgwn ac ystlumod

Rydyn ni hefyd yn falch i roi cartref i dros 180 math o gennau, llawer o fathau prin o ffyngau a 100+ rhywogaeth o fwsogl. Rydyn ni hyd yn oed yn gwybod am 26 math o falwoden.

Felly pam mae yna gymaint o fioamrywiaeth?

Mae’r tir yma’n dir ffrwythlon. Mae clai clogfaen, a ollyngwyd wrth i rewlifoedd gilio tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi cyfuno gyda’r priddoedd tywodlyd a siltiog a ddeilliodd o greigwely’r Hen Dywodfaen Coch islaw.

Mae’r hinsawdd yn fwy gwlyb a chynnes na llawer o Brydain, a chedwir yr aer yn lân gan y gwyntoedd sy’n chwythu fel arfer o’r Iwerydd.
Ond efallai mai’r prif reswm yw bod rhannau mawr o’n ffermdir wedi osgoi’r math o reolaeth or-ddwys a ddifethodd planhigion brodorol mewn sawl rhan o gefn gwlad Prydain yn ystod yr 20fed ganrif. Rhoddwyd cartref diogel i blanhigion a ffyngau prin, fel y tegeirian llydanwyrdd mawr, carwy droellenog a ffwng capiau cŵyr y ddôl, ac ar ein dolydd gwelwyd amrywiaeth sylweddol o anifeiliaid di-asgwrn cefn fel criciaid, chwilod, pili-palod a gwyfynod.

Gadawyd i’r moch daear chwilio’r glaswelltir mwsoglyd am eu prif ymborth, sef mwydod, a’r dyfrgi i hela ar y dolydd gwlyb am amffibiaid y gwanwyn. Mae natur twmpathog rhai o’n glaswelltiroedd yn denu llygod y gwair, sydd yn eu tro yn bwydo tylluanod gwyn, ac adar ysglyfaethus eraill fel y barcud coch, yr aderyn sy’n enghraifft o gadwraeth natur hynod lwyddiannus yng Nghymru.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las hefyd wedi cadw pocedi o goetiroedd lled-naturiol amrywiol. Yn y coetir corsiog ger y Porthdy ceir ffyn gwern, tra yn nhir sychach Pont Felin Gât yn yr ochr ogleddol, ceir coed derw ac oestrwydd, ac yn y Gwanwyn fe welwch glychau’r gog, anemoni a thormeini euraidd yn garped ar y llawr. Mae’r rhain, a choedlannau cyll bach, yn gyfoeth o adar, rhedyn, mwsoglau, cennau a ffyngau. Maen nhw hefyd yn gartref i’r pathew, un o’r mamaliaid  sydd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain.