O ran ei faint, efallai bod gan Gymru’r boblogaeth cen mwyaf amrywiol ar y Ddaear.
Felly, mae’n hanfodol i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru helpu ein hymwelwyr i ddeall a gofalu am y ffurf bywyd anhygoel a chymhleth hon. Rydym yn ffodus o gael amrywiaeth fawr o gen sy’n digwydd yn naturiol yma i’n helpu ni – mae’r aer glân, ac amrywiaeth fawr o goed ac arwynebau creigiau, yn golygu bod mwy na 200 o rywogaethau cen wedi’u cofnodi hyd yma, yn bennaf gan y genhedyddwyr enwog Alan Orange a Ray Woods.
Er mwyn helpu ymwelwyr i archwilio ein fflora cen, rydym wedi cynhyrchu cwpl o lyfrynnau bach ar gennau’r Ardd, a ysgrifennwyd gan Ray Woods a Theresa Greenaway – gweler yr atodiadau ar y dudalen hon.
Mae Cennau’r Coed yn tynnu sylw at y 100+ rhywogaeth o gen sy’n tyfu ar ein coed a’n llwyni.
Mae Cennau’r Cerrig yn canolbwyntio ar y 70+ math o gen sy’n tyfu ar ein harddangosfa awyr agored – Craig yr Oesoedd. Gallwch weld Ray Woods yn sôn am gennau’r cerrig ar dudalen we’r Graig yr Oesoedd.
Mae gan yr Ardd gasgliad llyfrgell Cymdeithas Cen Prydain – mae hwn ar gael i’w weld ar gais drwy cysylltu â library@gardenofwales.org.uk
Mae coeden aeddfed, sydd wedi’i leoli i lawr ger yr Ardd Wyllt, yn cynnwys casgliad prin o Lobaria spp, llysiau’r ysgyfaint a thebyg, sydd wedi’u trawsblannu yma o safleoedd mewn perygl o bob cwr o Gymru ac Iwerddon. Wedi’i dechrau yn 2014, mae hyn wedi profi i fod yn ddull hynod lwyddiannus o helpu i warchod cen prin, a chredwn yr unig un o’i fath mewn unrhyw ardd botaneg Ewropeaidd.
O bryd i’w gilydd, rydym yn cynnal teithiau cerdded tywysedig, neu’n cynnal arddangosfeydd cennau – byddwn yn rhoi manylion o’r rhain yma pan fyddant yn codi.