Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn lle ardderchog i weld a chwilio am ffyngau gwyllt.
Gallwch ddarganfod pob math o gynefinoedd ar gyfer ffyngau yma – coed, caeau, lawntiau, a gwelyau blodau. Mae rhai o’n ffyngau’n arbennig iawn. Mae gennym fadarch gwylltion na ellir eu gweld yn unman arall yng Nghymru, ffyngau sy’n brin iawn ar draws y DU, ac ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cymru Waun Las mae gennym ddôl sydd â chasgliad rhyngwladol bwysig o ffyngau capiau cŵyr amryliw. Mae gennym hefyd rai o’r ffyngau mwyaf prydferth a rhyfedd ar y Ddaear.
Ein gwaith ni yw helpu pobl i ddeall pam y ceir ffyngau mor ddiddorol yma.
Mae’n rhannol oherwydd ein dull organig o ffermio, ein harfer o wneud ein gwrtaith a’n tomwellt ein hunain, y ffordd ry’n ni’n gadael i goed marw bydru yn ein coedwigoedd, ac, mae’n debyg, oherwydd ein bod ni’n chwilio amdanynt. Mae gennym nifer cynyddol o fycolegwyr profiadol a newydd yn dod i chwilio am ffyngau yma, ac ry’n ni wedi ymrwymo i helpu Cymru ddatblygu cymunedau mycolegol brwd a gwybodus sy’n mynd o nerth i nerth.
Ry’n ni’n chwilota am ffyngau bob hydref, yn cynnal cyfarfodydd o fycolegwyr Cymreig yn y gwanwyn, ac yn hyrwyddo cadwraeth ffyngau yn weithredol yn enwedig ffyngau’r glaswelltir. Ry’n ni’n annog dehongliadau artistig o ffyngau drwy arddangosfeydd a digwyddiadau, er mwyn helpu sgiliau adnabod ymhlith selogion ffyngau. Mae gennym lyfrgell mycolegol sy’n datblygu yn sgil rhoddion caredig gan Stan Hughes a Roy Watling, ac ry’n ni’n hyrwyddo ffyngau trwy deledu, radio a chyfryngau printiedig.
Mae ein Diwrnod Ffwng Cymru, a sylfaenwyd yn 2011, wedi datblygu’n Ddiwrnod Ffwng y DU a drefnir gan y Gymdeithas Fycolegaidd Brydeinig ar yr ail Ddydd Sul ym mis Hydref. Mae’r digwyddiad aml-ddisgyblaethol hwn yn denu cannoedd o ymwelwyr i’r Ardd bob blwyddyn, a llawer ohonynt yn darganfod hadau gwybodaeth ac ysbrydoliaeth sy’n tyfu’n ddiddordeb oes mewn ffyngau.