Addysg

Mae’r Ardd yn lle ardderchog i ddod i ddysgu.  Mae ein cyfleoedd dysgu amrywiol yn canolbwyntio ar gysylltu pobl â’u hamgylchfyd naturiol, a dysgu am gynaliadwyedd, ac y mae’r ddau, ry’n ni’n credu, yn gysylltiedig.

Mae pob un o’n rhaglenni’n cysylltu â’r cwricwlwm newydd a’r pedwar diben

Mae gennym

  • Ardaloedd dysgu ardderchog dan do ac yn yr awyr agored, dros 160 o erwau o erddi addurniadol, ynghyd â 400 o erwau o fferm weithiol organig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
  • Tîm cyfeillgar o athrawon, arweinwyr cyrsiau a phobl broffesiynol medrus.
  • Amrywiaeth o raglenni sy’n gysylltedig â’r cwricwlwm ar gyfer ysgolion a cholegau, a chefnogaeth i athrawon
  • Ystod o gyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes ar gyfer pob oedran a gallu.

Edrychwch trwy ein llyfryn Rhaglenni Addysg Gynradd i gael gwybod am y costau a sut i archebu, ac i gael rhagor o wybodaeth (i’w argraffu: cefn wrth gefn, troi ar yr ymyl fer).

Rydym hefyd yn sylweddoli bod gan lawer o’n hymwelwyr iau ofynion addysgol gwahanol, felly gellir addasu ein gweithgareddau ar eu cyfer.

Cysylltwch â’r Adran Addysg trwy anfon neges e-bost at sarah.williams@gardenofwales.org.uk neu drwy ffonio 01558 667150 i drafod sut y gallwn addasu rhaglenni i weddu i anghenion eich grŵp.

Neu gallwch ddewis categori grŵp oedran isod i edrych ar y rhaglenni dysgu ffurfiol yr ydym wedi’u datblygu.