Brownis, Geidiaid, Cybiau a Sgowtiaid

Sgroliwch trwy’r posteri hyn i weld pa gyrsiau yr ydym yn eu cynnig ar gyfer brownis, geidiaid, cybiau a sgowtiaid

Dewisiadau ar gyfer Cysgu Yma Dros Nos

Ry’n ni’n argymell fel arfer i chi gysgu yma ar Nos Wener neu yn ystod gwyliau’r ysgol, pan fydd aelod o’r Adran Addysg ar y safle i’ch croesawu chi.

Y Tŷ Gwydr Mawr

Y’ch chi eisiau treulio noson mewn lle anarferol?    Y Tŷ Gwydr un-bwa mwyaf yn y Byd yw’r lle i chi!

Yr Awyr Agored

Codwch eich pabell mewn safle penodedig yn yr Ardd, ar gyfer profiad dilys yn yr awyr agored.

Dewisiadau ar gyfer Gweithgareddau

Drannoeth ar ôl i chi gysgu yma dros nos, mae croeso i chi ddefnyddio cyfleusterau’r Ardd i weithio tuag at fathodynnau gwahanol.

Bathodynnau y gallwn ni eich helpu eu cyrraedd

Mae amrywiaeth o fathodynnau y gallwn ni gynnig gweithdai arnynt, fel y Naturiaethwr, Archwiliwr Bywyd Gwyllt, Bod yn yr Awyr Agored, neu Faterion Rhyngwladol.

Bathodynnau y gallwch eu gwneud yma eich hun

Mae’r Ardd yn cynnig safle delfrydol i chi a’ch grŵp weithio tuag at eich bathodynnau, fel Awdur a Ffotograffydd.

Sut i Archebu Lle

Cysylltwch â Elin yn yr Adran Addysg er mwyn holi am ymweliad neu archebu lle, os gwelwch yn dda – sarah.williams@gardenofwales.org.uk