
Gweledigaeth
Byd sy’n rhoi gwerth ar fioamrywiaeth, yn diogelu planhigion ar blaned.
Cenhadaeth
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ymroi i waith ymchwil a gwarchod bioamrywiaeth, i gynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd.
Gwerthoedd
Byddwn:
- Yn cyfrannu at lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
- Yn eiriol ac yn hyrwyddo cadwraeth amgylcheddol ac arferion cynaliadwy.
- Yn hyrwyddo ac yn datblygu cadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol, drwy bartneriaethau a chan ymgynghori â sefydliadau cenhedlaeth a rhyngwladol.
- Yn ymdrechu i gyfathrebu ac ymwneud ag amrywiaeth eang o sefydliadau.
- Drwy achredu sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol (e.e. BGCI), yn dangos gweithredu’r safonau uchaf mewn arferion ymchwil a chadwraeth.
Amcanion Strategol
- Bod yn ganolfan o fri rhyngwladol ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth ac ymchwil..
- Datblygu a chynnal y casgliadau garddwriaethol ac eraill yn ôl y safonau curadurol uchaf ac wrth gyflwyno.
- Darparu addysg a hyfforddiant ysbrydoledig wedi eu hachredu mewn garddwriaeth, gwyddorau planhigion, cadwraeth, ecoleg, cynaliadwyedd a phynciau STEM i bob oed a gallu, i hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd yn ein dyfodol cynaliadwy.
- Bod yn gyrchfan lwyddiannus i ymwelwyr o fri rhyngwladol sy’n cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
- Fel sefydliad Cymreig eiconig yn cyfrannu at hyrwyddo statws a chydnabyddiaeth o Gymru ar lefel ryngwladol.
- Parhau i adeiladu a diogelu sefydliad sy’n gynaliadwy yn ariannol i wneud y mwyaf o ddarparu gweithgaredd cenhadaeth graidd yr Ardd Fotaneg.
Amcanion i’n Galluogi
Rheoli adnoddau’n effeithiol ac effeithlon i ddatblygu ein pobl, ein hisadeiledd, ein hymchwil wyddonol, ein casgliadau garddwriaethol a’n gweithgaredd masnachol ar sail sy’n gynaliadwy.
