Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Prentisiaeth yng Ngarddwriaeth Fotanegol
Mae prentisiaethau yn ffordd arbennig o ddechrau gyrfa yng ngarddwriaeth. Enillwch arian wrth i chi ddysgu a chyfunwch astudiaeth academaidd gyda hyfforddiant a phrofiad gwaith. Dyma gyfle dwy flynedd o hyd wedi’i seilio yn y gweithle gyda diwrnod o astudiaeth academaidd.
Trosolwg
Mae’r brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi gyda’r nod o gyflwyno’r safon uchaf o sgiliau garddwriaeth broffesiynol. Mae’r brentisiaeth yn cynnig hyfforddiant ymarferol yng ngarddwriaeth fotanegol. Byddwch yn gweithio’n ochr ag ochr a garddwyr yr Ardd, a byddwch hefyd yn ennill gwybodaeth sylfaenol o astudiaeth coleg. Bydd prentisiai’r Ardd yn ein helpu i gyflawni’r safonau uchaf gan hefyd datblygu gyrfa eu hun.
Amcanion y Cwrs
Mae’r brentisiaeth ar lefel mynediad ac wedi’i ddylunio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sy’n dymuno dechrau gyrfa yng ngarddwriaeth. Mae prentisiaid yn cael eu cyflogi ar gyflog a delir yn unol â’r cyfraddau isafswm cyflog cenedlaethol. Caiff costau coleg a lleoliadau cael eu talu gan yr Ardd a’i phartneriaid.
Bydd y prentis yn ennill profiad gwaith ym mhob ardal o arddwriaeth yr Ardd gan gynnwys: garddwriaeth fotanegol, cynhaliaeth yr ardd, gweithio yn y tai gwydr, tai gwydr meithrin a garddwriaeth ar ddangos. Anogir datblygiad personol gyda chyfleoedd i ennill cymwysterau addas o’r Cyngor Profion Hyfedredd Cenedlaethol a’r dewis i gymryd rhan o weithio yng ngerddi eraill.
Beth mae’n cynnwys
- Hyfforddiant ymarferol yn fewnol ym mhob agwedd o arddwriaeth fotanegol, rheolaeth chynhaliaeth yr ardd.
- Diwrnod o astudio gyda Choleg Sir Gâr am Dystysgrif Lefel 2 GAF yn yr Egwyddorion o Arddwriaeth.
- Ennill cymhwyster yn Niploma Lefel 2 ‘City & Guilds’ yn seiliedig ar waith wedi darparu o dan fframwaith prentisiaeth.
- Yn gweithio’n gyfochr â garddwyr, garddwyr dan hyfforddiant a gwirfoddolwyr.
- Cymryd rhan yn hyfforddiant adnabod planhigion.
- Cadw dyddiadur dyddiol o waith.
- Ennill cymwysterau priodol o’r Cyngor o Brofion Medrusrwydd Cenedlaethol.
- Y cyfle i gymryd rhan yn lleoliadau gwaith gyda gerddi sy’n bartner i’r Ardd.
Asesiad y Cwrs
- Er mwyn cwblhau’r brentisiaeth, rhaid i chi:
- Llwyddo yn yr asesiad ymarferol gan gyflawni cymhwyster yn nhasgau garddio wedi’i chefnogi gan eich goruchwyliwr.
- Ymgymryd â’r holl ofynion o hyfforddiant sylfaenol.
- Cymryd rhan yn arolygon cyson.
- Mynychu coleg a llwyddo yn y Dystysgrif Lefel 2 yr RHS yn Egwyddorion Garddwriaeth.
Gofynion Mynediad
Addysg/Cymwysterau: Leiafswm o 2 TGAU o radd A*-C, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.
Gwybodaeth/Profiad: Diddordeb a’r brwdfrydedd i ddysgu, a’r ymrwymiad i ddatblygu gyrfa yng ngarddwriaeth ynghyd a diddordeb yn neges a phwrpas yr Ardd.
Gallu: Tystiolaeth o ddiddordeb, gallu a sgiliau blaenorol yng ngarddio. Gallu trefnus ac ysgogiad i ddilyn amserlen o waith ac astudiaeth. Y gallu corfforol i weithio yn yr awyr agored, ym mhob tymor ac i ymgymryd â thasgau corfforol.
Mae’r meddiant o drwydded gyrru llawn a rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Mae’r gallu i gwrdd ag anghenion i fod yn gymwys am y cynllun prentisiaeth hon yn hanfodol: Prentisiaethau – Canllawiau a Gwasanaethau
Gwneud Cais
Nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau pellach. Gallwch wneud cais y flwyddyn nesaf, 2024, manylion i ddilyn.
Cefnogi’r Cynllun Prentisiaethau
Mae llawer on prentisiaid wedi mynd ymlaen i weithio i gyflogwyr lleol yn ardal Sir Gaerfyrddin, ac mae rhai hyd yn oed wedi aros i weithio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae sgiliau mewn garddwriaeth yn hynod o bwysig, gyda llawer o swyddi yn gofyn am sgiliau a gwybodaeth uwch.
Rydym angen eich cefnogaeth i helpu i sicrhau y gallwn barhau i gynnig lleoliadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Maer cyfleoedd hyn yn bwysig nid yn unig i ni, ond ir bobl ifanc syn dod yma i ddysgu a datblygu.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n Cydlynydd Prentisiaeth, Ayshea Cunniffe-Thomas – ayshea.cunniffethomas@gardenofwales.org.uk
Partneriaid
Patrick Daniell, Coleg Sir Gâr, National Garden Scheme.