Mae gan yr Ardd gasgliad llyfrgell o dros 7,000 o lyfrau botanegol a mycolegol.
Diolch i gefnogaeth ein rhoddwyr a’n gwirfoddolwyr, mae gan yr Ardd lyfrgell ac archif arbenigol sydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan Wyddoniaeth. Fel casgliad o lyfrau cyfeiriol arbenigol, maen nhw’n delio â phynciau sy’n berthnasol i ymchwil a dysgu yn yr Ardd, ac fe’u defnyddir yn bennaf gan staff, myfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n ymweld â ni.
Mae tîm brwdfrydig o wirfoddolwyr wedi trefnu a didoli cannoedd o lyfrau a chyfnodolion a roddwyd gan aelodau a chefnogwyr. Mae gan y gwirfoddolwyr gefndiroedd gwahanol, ond maen nhw’n unedig yn eu hymdrech i ddarparu casgliad a gwasanaeth gwybodaeth o’r radd flaenaf. Mae’r profiad hwn yn rhan o ddysgu gydol oes i nifer ohonynt, wrth iddyn nhw ymgymryd â phrosiectau ymchwil, ac ymdrechu i ddeall y pynciau gwahanol sy’n rhan o waith gardd fotaneg yn y 21fed ganrif.
Mae ein hadnoddau yn cynnwys tua 2,000 o lyfrau a monograffau yn y prif gasgliad sy’n delio â blodau Cymru a’r byd, botaneg, cadwraeth bio-amrywiaethol, garddwriaeth, a darlunio botanegol, ynghyd â rhai ar bynciau penodol megis ethno-botaneg a thraddodiadau llysieuol Cymreig. Mae gennym gasgliad o lyfrau am Gymru, ei phobl, ei diwylliant a’i hanes.
Mae’r llyfrgell yn gartref i sawl casgliad arbennig:
- Casgliad Mycolegol Stanley J Hughes – dros 1,000 o lyfrau ac adargraffiadau a roddwyd o gasgliad personol y mycolegwr dosbarthu byd-enwog. Mae gwirfoddolwyr wrthi’n sganio peth o’r casgliad er mwyn ei gael mewn fformat digidol.
- Llyfrgell y Gymdeithas Cennau Prydeinig, gyda dros 300 o lyfrau a 8,500 o adargraffiadau, a arolygir gan ei llyfrgellydd anrhydeddus, Theresa Greenaway.
- Casgliad Mycolegol Roy Watling sy’n cynnwys llyfrau, papurau a chylchgronau gwyddonol a roddwyd gan yr Athro Watling, cyn Bennaeth Mycoleg yng Ngardd Fotaneg Frenhinol Caeredin
- Casgliad D J Mabberley yn cynnwys holl bapurau yr Athro Mabberley a ddefnyddiodd yn ei ymchwil ar gyfer tri argraffiad o’i lyfr ar blanhigion
Os hoffech ddefnyddio’r llyfrgell neu’r archifau, cysylltwch â ni ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
Am fwy o wybodaeth neu ymholiadau ar gyfer helpu, cysylltwch os gwelwch yn dda â: library.user@gardenofwales.org.uk