Banc Hadau Cenedlaethol Cymru

O fewn ein Canolfan Wyddoniaeth mae Banc Hadau Cenedlaethol Cymru.

Mae gan y labordai yma’r offer i sychu, glanhau a phrofi hadau yn broffesiynol, ac i storio hadau yn y tymor hir. Mae ein cyfleusterau a’n prosesau yn bodloni Safonau Cadwraeth Hadau Partneriaeth Banc Hadau’r Mileniwm.

Ein canolbwynt yw fflora Cymru. Mae Rhestr Data Coch ar gyfer Cymru yn amcangyfrif bod tua un rhan o chwech o blanhigion Cymru dan fygythiad o ddifodiant. Canfu prosiect Atlas Planhigion Cymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon 2020 fod 40% o rywogaethau planhigion yng Nghymru wedi dirywio yn eu dosbarthiad ers 1950.

Mae bancio hadau yn allweddol i helpu i ddiogelu planhigion a’u hamrywiaeth genetig ar gyfer y dyfodol. Trwy storio hadau yn y tymor hir, mae banciau hadau yn gweithredu fel polisi yswiriant a all atal difodiant planhigion.

Fel sefydliad partner swyddogol o Bartneriaeth Banc Hadau’r Mileniwm, rydym wedi bod yn gwneud casgliadau hadau wedi’u targedu o rywogaethau sydd dan fygythiad ac yn prinhau yng Nghymru. Yn 2022 a 2023, wedi ei wneud trwy Brosiect Planhigion Dan Fygythiad y DU, menter sy’n samplu hadau o boblogaethau lluosog o rywogaethau dan fygythiad i ddal amrywiadau genetig ledled y DU.

Rydym yn storio hanner o bob casgliad hadau yn ein banc hadau, ac yn anfon yr hanner arall i Fanc Hadau’r Mileniwm. Bydd y casgliadau yma yn sicrhau bod deunydd o ystod eang o wreiddiau ar gael ar gyfer gweithredu cadwraeth yn y dyfodol, tra hefyd yn darparu adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil.

Mae hefyd gyfleusterau ar gyfer egino yn y labordy, gan gefnogi ein gweithgareddau garddwriaeth cadwraeth.


McGinn, K. (2022). Establishing the National Seed Bank of Wales: Collecting, Conserving and Restoring the Welsh Flora. Sibbaldia: The International Journal of Botanic Garden Horticulture, (21), 137–154. https://doi.org/10.24823/Sibbaldia.2022.1889