Llysieufa

Mae llysieufa’r Ardd yn cynnwys ein hesiamplau o blanhigion gwasgedig, gan gynnwys esiamplau perthnasol i’n gwaith ymchwil gwyddonol.

Mewn llysieufa ceir casgliad o esiamplau o blanhigion wedi eu cadw’n arbennig, ac mae’n gweithredu fel cofnod barhaol o’r rhywogaeth honno.

Mae casgliadau o’r math yn darparu adnoddau hanfodol i ymchwilwyr. Ry’n ni’n eu defnyddio mewn ymchwil dosbarthiadol er mwyn cymharu rhywogaethau gwahanol.  Gallwn ddarganfod mwy am ddosbarthiad planhigion yn y gorffennol drwy edrych ar darddiad y samplau.   Gallwn hefyd echdynnu DNA o’r planhigion sampl hynny i’w defnyddio yn ein codio-bar DNA ac ymchwil cadwraethol.

Mae ein llysieufa yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnwys y sbesimenau planhigion a gasglwyd yn rhan o’n hymchwil a’n proses o greu banc hadau. Mae hefyd yn gartref i lysieufa planhigion Prydeinig James Cosmo Melvill, a roddwyd yn garedig i’r Ardd gan Ysgol Harrow.

Diolch i gyllid gan Fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym wedi bod yn brysur yn cadw ac yn digideiddio’r casgliad. Erbyn mis Mehefin 2026, byddwn yn ei gwneud yn bosibl i gyfran fawr o’r casgliad fod yn hygyrch trwy borth ar-lein chwiliadwy y gall unrhyw un ei archwilio.

Rhan hanfodol o’r gwaith digideiddio yw casglu cymaint o wybodaeth berthnasol ag y gallwn o labeli’r sbesimenau sydd mewn llawysgrifen. Mae gennym dîm mewnol bach o wirfoddolwyr yn ein helpu gyda’r gwaith hwn o drawsgrifio’r labeli, ond gan fod yna fwy nag 20,000 o sbesimenau i’w trawsgrifio, mae arnom angen eich help chi bellach!

Rydym wedi ymuno â DigiVol, llwyfan digido rhyngwladol, i’n helpu i gyrraedd ein targedau ac i rannu llawenydd trawsgrifio.

Os hoffech chi gymryd rhan, y cyfan sydd ei angen yw cofrestru’n gyflym ac yn hawdd ag Atlas of Living Australia:

Unwaith y byddwch wedi creu proffil, gallwch ddechrau eich taith trawsgrifio trwy glicio ar y botwm isod:


Mae prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yn digido ein llysieufa ac yn cael ei ariannu gan fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

This image has an empty alt attribute; its file name is Welsh_stamp_colour_PNG-1024x1024.png