29 Tach 2023

Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Cyflwyno prosiect tair bl­ynedd newydd cyffrous.

Mae ystafell yng Nghanolfan Wyddoniaeth yr Ardd Fotaneg yn gartref i’n Llysieufa – casgliad o tua 30,000 o blanhigion gwasgedig.

Archifdai botanegol yw llysieufeydd. Maent wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd i gofnodi ac astudio amrywiaeth planhigion o gwmpas y byd. Mae pob sbesimen sy’n cael ei gadw yn gofnod parhaol, wedi’i labelu ag enw’r planhigyn, lle a phryd y cafodd ei gasglu, a chan bwy.

© Caroline Vitzthum

Mae llawer o sbesimenau llysieufa’r Ardd Fotaneg yn ymwneud â’n hymchwil wyddonol, ac wedi cael eu defnyddio i echdynnu DNA. Mae sbesimenau newydd o Gymru hefyd yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn trwy ein gwaith bancio hadau cadwraethol.

Yn ogystal â sbesimenau modern, mae ein llysieufa hefyd yn gartref i nifer sylweddol o sbesimenau hanesyddol o Brydain ac Iwerddon, sydd rhwng cant a dau gant oed, sy’n cynnwys planhigion, mwsoglau, gwymon a chennau. Cafodd y casgliad hwn, a oedd yn rhodd garedig gan Ysgol Harrow yn 2011, ei gronni gan James Cosmo Melvill (1845-1929).

Mae natur sensitif sbesimenau llysieufeydd yn golygu eu bod yn cael eu storio’n ofalus mewn cabinetau i’w cadw’n ddiogel rhag dirywiad a difrod gan blâu. Fodd bynnag, mae technoleg ddelweddu fodern bellach yn caniatáu i sbesimenau gael eu cofnodi a’u storio’n ddigidol i gyd-fynd â chasgliadau ffisegol. Mae hyn yn golygu nid yn unig y gellir storio’r wybodaeth a gedwir am y sbesimenau cain, bregus hyn yn fwy effeithiol, ond hefyd y gall pawb fwynhau’r casgliadau digidol ac elwa ohonynt trwy eu gwneud ar gael yn gyhoeddus ar-lein.

Wedi’i ariannu gan fenter Casgliadau DynamigCronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd ein prosiect newydd ‘Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol’ yn digido cyfran fawr o lysieufa’r Ardd Fotaneg. Gan weithio gyda gwirfoddolwyr, bydd lluniau o ansawdd uchel yn cael eu tynnu o bob sbesimen, bydd yr wybodaeth ar y labeli yn cael ei theipio, a bydd hyn oll yn cael ei ddarparu mewn cronfa ddata mynediad agored ar-lein.

Bydd archwilio’r casgliadau yn rhoi dirnadaeth newydd o’r hanes diwylliannol sy’n ymwneud â chasglu planhigion – hobi cyffredin yn y 19eg ganrif — a ddaw yn fyw trwy ddarganfyddiadau achlysurol o gyfnewidiadau mewn llawysgrifen rhwng casglwyr.

Mae rhai o’r rhywogaethau sydd gennym hefyd yn debygol o fod wedi diflannu yn yr ardaloedd y cawsant eu casglu ohonynt yr holl flynyddoedd yn ôl. Tan y degawdau diwethaf, roedd y weithred o gasglu bywyd gwyllt yn aml yn ansensitif o ran gwarchod rhywogaethau – yn achos rhai rhywogaethau yng Nghymru, megis Creigafal y Gogarth – Cambricus cotoneaster y mae ein garddwriaethwyr yn ei dyfu, gor-gasglu hanesyddol yw un o’r rhesymau ei fod bellach dan fygythiad.

Roedd James Cosmo Melvill yn gasglwr bywyd gwyllt brwd, nid yn unig planhigion o bedwar ban byd oedd yn mynd â’i fryd, ond hefyd molysgiaid a gloÿnnod byw, gwenyn meirch, clêr a gweision y neidr. Roedd casglu bywyd gwyllt yn un o hoff weithgareddau’r cyfoethog a’r breintiedig yn y 1800au. Roedd James Cosmo Melvill yn nodweddiadol o’r sector hwn o gymdeithas y 19eg ganrif – bu’n gweithio fel cyfarwyddwr masnachwr cotwm am flynyddoedd lawer, ac roedd ganddo gysylltiadau teuluol ehangach â rheolaeth drefedigaethol yn India. Roedd ei dad, a oedd o’r un enw ag ef, yn Is-ysgrifennydd Gwladol India, a’i dad-cu, a oedd hefyd o’r un enw â nhw, yn Brif Ysgrifennydd yr East India Company.

Fodd bynnag, mewn rhai mannau yn y 1800au, roedd casglu planhigion hefyd yn un o ddiddordebau’r rhai llai breintiedig mewn cymdeithas. Bu Bruce Langridge, Pennaeth Dehongli yr Ardd Fotaneg, yn gweithio’n flaenorol mewn amgueddfa yn Oldham, ac mae’n cofio bod llawer o wehyddion dosbarth gweithiol lleol y cyfnod hwn yn fotanegwyr ac yn gasglwyr brwd, a bod y llysieufeydd lleol yn cynnwys sbesimenau a gasglwyd gan y ‘gwehydd-fotanegwyr’ hyn. Mae cyfnodolion naturiaethol yr ardal yn manylu ar eu tripiau casglu, a chynhelid eu cyfarfodydd, o reidrwydd, mewn tafarndai gan fod eu tai eu hunain yn rhy fach i ymgynnull ynddynt.

Heddiw, mae llysieufeydd yn adnodd gwyddonol pwysig a gwyddom y bydd archwilio’r casgliadau yn rhoi straeon diddorol a dirnadaethau i ni, ac yn amlygu cyfleoedd ymchwil newydd. Bydd y casgliadau yn ffynhonnell ysbrydoliaeth hynod ddiddorol ar gyfer ymgysylltu ynghylch ein treftadaeth naturiol a diwylliannol, gan gysylltu â gwaith cyfredol yr Ardd Fotaneg i warchod planhigion a chynefinoedd Cymru.

Trwy gydol y prosiect newydd cyffrous hwn, byddwn yn dod â’r daith yn fyw trwy weithdai blasu, teithiau y tu ôl i’r llenni, ymweliadau ag ysgolion, blogiau, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau cyhoeddus. Bydd ‘BioBlitz’ cyhoeddus cyffrous dros gyfnod o benwythnos, lle byddwn yn cofnodi bioamrywiaeth yng ngwarchodfa natur yr Ardd Fotaneg, yn ysbrydoli diddordeb pobl ac yn helpu i feithrin sgiliau newydd ym myd natur. Yn nhrydedd flwyddyn y prosiect, sef y flwyddyn olaf, byddwn yn ychwanegu gorsaf ddehongli ddigidol newydd yn yr Ardd Fotaneg fel y gall ymwelwyr archwilio’r sbesimenau a ddigidwyd hyd yma, a dysgu rhagor am y gwaith yr ydym yn ei wneud i warchod fflora a chynefinoedd Cymru.

Ariennir prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol gan fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac sy’n rhedeg tan fis Mehefin 2026.

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: Kevin.McGinn@gardenofwales.org.uk


Kevin McGinn, Curadur y Banc Hadau a’r Llysieufa

Helen Whitear, Swyddog Treftadaeth