20 Rhag 2018

Cyfri’r nifer o sbesimenau yn ein llysieufa

Kevin McGinn

Ar ddydd glawog yn Rhagfyr, gwnaeth Abi a Kevin creu cyfanswm. Bu cyfri bob sbesimen llysieufa yn waith caled felly yn lle ni, rhifwn faint o sbesimenau ar silff canolig a lluosi i fyny i cael amcangyfrif o’r rhif gyfan.

Daeth y cwbl i 30,188!

Mae nifer o’n sbesimenau wedi cael eu casglu fel rhan o’n hymchwil gwyddoniaeth gyfredol. Yn 2012, arweinir yr Ardd ymchwil a wnaeth Cymru i fod y wlad gyntaf i greu llyfrgell cod-bar DNA o’u planhigion blodeuol a chonifferau brodorol, sydd nawr wedi cael eu hymestyn i gynnwys planhigion a chonifferau’r DU I gyd. Mae ein llysieufa yn rhan hanfodol o’r fath o ymchwil hyn, gan fod pob cod-bar DNA yn cael ei ategu gyda copi caled (yn cael ei alw yn tocyn herbariwm), rhag ofn bod eisiau gwirio’r adnabyddiaeth ac enw o blanhigyn. Hefyd, mae gennym lawer o sbesimenau o ymhellach i ffwrdd, er enghraifft o’n prosiect bar-codio DNA ym Morneo.

Mae ein llysieufa hefyd yn gartref i gasgliadau hanesyddol pwysig sydd wedi cael eu gadael mewn ewyllys. Roedd James Cosmo Melvill (1845-1929) yn fotanegwr amlwg ac yn gasglwyr eiddgar. Mae ei gasgliad o blanhigion y DU, a gaiff ei roi’n garedig gan Ysgol Harrow, yn ffurfio rhan fwyaf o’n casgliad llysieufa, gyda thua 23,600 o sbesimenau. Rydym hefyd yn gofalu am tua 1,500 o sbesimenau a gasglwyd o Gymru gan botanegwraig proffesiynol, Ann Connolly (1917-2010).