Celf

Mae gennym rai cerfluniau syfrdanol yn yr awyr agored gan artistiaid sy’n enwog yn rhyngwladol.

Ger y Porthdy mae ‘Tri Deg Tri o Filoedd Saith Cant a Naw Deg Wyth’ gan Marion Kalmus, côn enfawr â’i wyneb i waered wedi’i wneud o ddalennau gwydr, lle mae dŵr rhedegog yn tywallt yn barhaol ar yr ochr fewnol, wedi’i oleuo gan olau a gyfeirir uchod.  Mae ei geinder syml yn cyflwyno rhybudd plaen i bawb ohonom – mae’r nifer o amrywiaethau o blanhigion sydd mewn perygl o ddifodiant yn y flwyddyn 2000 wedi’i ysgythru ar y gwydr.

Wrth symud i fyny’r Rhodfa mae ‘Scaladaqua Tonda’ a grëwyd gan William Pye.  Ystyr enw’r cerflun dŵr hwn yw ‘cylch o gamau dŵr’.  Comisiynwyd y cerflun hwn, a gwaith Marion Klamus, trwy gyllid a ddarparwyd yn garedig gan Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Wrth symud i lawr y Rhodfa o gyfeiriad y Pwll Drych hyfryd mae’r Ffrwd fach yn ymlwybro.   Ysbrydolwyd ei siâp gan lwybr troellog Afon Tywi, sy’n llifo i’r gogledd o’r Ardd. Yn ymyl arddangosfa ddaearegol Craig yr Oesoedd y mae Cylch Iacháu y Garreg Las gan Darren Yeadon, a luniwyd o’r un garreg las o’r Preseli â’r garreg las sydd yng nghylch mewnol Côr y Cewri yn Wiltshire.

Draw ar Olwg Paxton, lleolwyd ‘PI’ gan Rawleigh Clay i gynnwys cylch trawiadol y medrwch edrych ar Dŵr Paxton trwyddo.  Rhoddwyd ‘PI’ yn garedig i’r Ardd gan Gymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru.

Oddi tanom, yn ein ‘Gardd Wyllt’, mae ‘Tarw’, y tarw Du Cymreig, gan Sally Matthews.   Comisiynwyd y cerflun hwn ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru (CCCC).