Pwytho Botanegol

Mae’r grŵp celf tecstilau gwirfoddol hwn ar daith gyffrous a datblygol i greu casgliad parhaol o waith tecstiliau ar gyfer yr Ardd.


Sew Far Sow Good Exhibition


Mae aelodau’r grŵp Pwytho Botanegol, a sefydlwyd ac a hwyluswyd gan Marilyn Caruana yn 2014, yn cwrdd bob mis yn yr Ardd i ddewis ffabrig ac edafedd, i ddylunio a chynllunio prosiectau ac i rannu sgiliau. Mae’r rhan fwyaf o’u gwaith celf tecstilau cain yn cymryd oriau dirifedi i’w creu gartref. Yn ystod y 10 mlynedd ers i’r grwp ddechrau, mae casgliadau arbennig o frodwaith syfrdanol a hudolus wedi’u cynhyrchu. Mae’r rhain yn cynnwys Planhigion Meddyginiaethol Cymru – Clytwaith y Fferyllfa Blanhigion, Ffyngau mewn Ffibr, Cynefinoedd Naturiol Cymru, gwaith gwych yn ymwneud â Phryfed Peillio – yn arbennig Y Wenynen Fêl yn Chwilota, a llawer mwy …

Defnyddir y casgliadau hyn i gyfoethogi digwyddiadau ac arddangosfeydd cyhoeddus, i gynorthwyo’r gwaith o addysgu oedolion a phlant, ac i hyrwyddo Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i gynulleidfa ehangach.

Dau brosiect diweddaraf y grŵp Pwytho Botanegol yw Yr Afonydd Lleol – sef naw panel coeth a gomisiynwyd gan yr Adran Gorfforaethol i wella golwg Tŷ Melin, a Botaneg Fwytadwy (arddangosfa ar gyfer 2024) i ddathlu hanes a dyfodol tyfu llysiau a ffrwythau yn yr Ardd Ddeufur.

Ni cheir addysgu strwythurol yn y sesiynau Pwytho Botanegol, ond mae arweiniad, cyfleoedd i rannu sgiliau a chyflenwad o ddeunyddiau (bron i gyd yn rhoddion) ar gael i’n holl aelodau. Mae’n ferw gwyllt o syniadau, egni a brwdfrydedd sy’n heintus, yn ysgogol ac yn gynhyrchiol. Mae Pwytho Botanegol yn manteisio ar draddodiad hir o waith tecstilau yng Nghymru, ac yn credu mai’r grŵp hwn, o bosibl, yw’r cyntaf o’i fath i weithio mewn gardd fotaneg ar brosiectau a gomisiynir. Cofiwch ddweud wrthym os ydych yn gwybod am grwpiau eraill!

Defnyddir llawer o dechnegau gwahanol, gan gynnwys appliqué, lliwio a thrin ffabrig, brodwaith cain â llaw, brodwaith â pheiriant, clytio ac uno, brodwaith codi, a ffeltio gwlyb a sych.

Mae’r gwirfoddolwyr yn defnyddio’r casgliadau rhagorol yn Llyfrgell yr Ardd, ac mae hyn yn darparu celf fotanegol, cyfeiriadau ffotograffig, a manylion am blanhigion a phryfed – gan gynnwys y defnydd a wneir ohonynt, a’u cynefinoedd. Mae nifer o aelodau’r Ardd wedi rhoddi llyfrau, ffabrig ac edafedd, gan barhau â’r gefnogaeth i Lyfrgell yr Ardd a chelfyddyd tecstilau greadigol gain Pwytho Botanegol.

Gallwch ddilyn hynt y grŵp ar dudalen Stitching Botanical ar Facebook, sy’n dangos yr holl waith a grëwyd, yn ogystal â lluniau o’r sesiynau misol. Yn ystod 2019, dechreuwyd ar y gwaith o lanlwytho delweddau o’r holl greadigaethau tecstilau i wefan Casgliad y Werin Cymru.

Mae croeso bob amser i aelodau newydd, a dylai unrhyw un sydd am ymuno â’r grŵp gysylltu â’r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr, Jane Down, trwy anfon neges e-bost at jane.down@gardenofwales.org.uk neu drwy ffonio 01558 667118 i gael manylion.