Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las

Mosäig hardd o ddolau a phorfeydd sy’n gyfoethog mewn blodau gwyllt

Lleolir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las gerllaw ochr ogleddol a dwyreiniol yr Ardd.

Yma fe ddewch i o hyd i blanhigion gwyllt, ffyngau a bywyd gwyllt sydd wedi diflannu o lawer o’n cefn gwlad.

Mae hyn o ganlyniad i’r modd y rheolir y tir i annog bioamrywiaeth tra’n cynnal fferm fasnachol lwyddiannus ar yr un pryd.

Mae’n gorchuddio dros 150 hectar o gefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac mae wedi cael ei rhedeg fel fferm organig ers yr 1990au. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd gwerthfawr yn cynnwys rhostir pori, coetir gwlyb a dolydd ar dir isel, sef blaenoriaethau cadwraeth yn y DU a gweddill Ewrop. Mae hefyd yn dirlun gyda’i chyfrinachau hanesyddol – mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las wedi’i lleoli ar Ystâd Middleton o ddiwedd y 18fed ganrif, ac adeiladwyd  honno ar ben olion ystâd o’r 17eg ganrif.

Yn 2014, mabwysiadwyd cytundeb Glastir gyda Llywodraeth Cymru er mwyn rheoli tir yn gynaliadwy.

Ar ôl creu dwy ddôl wair yn gyfoethog mewn rhywogaethau dros 15-20 mlynedd, fe symudon ni cynhaeaf o wair gwyrdd o’r dolydd hyn i ddau arall yn 2017. Fe wnaeth hyn cyflymu’r broses o greu dolydd gwair newydd sydd wedi bod yn llwyddiant aruthrol – darllenwch y blogiau i gael gwybod mwy.

Sut mae dod o hyd iddi?

Mae’r fynedfa trwy brif Borthdy’r Ardd.  Tua deng munud o waith cerdded sydd, ar hyd ymyl y llynnoedd a adferwyd gennym, at fan cychwyn y Warchodfa Natur Genedlaethol .

Ry’n ni wedi creu rhwydwaith o lwybrau ar draws y warchodfa gyfan.

Ar hyd y llwybrau, dewch chi ar draws arwyddion a fydd yn dweud wrthych sut ry’n ni’n ffermio a rheoli coetir er mwyn annog bio-amrywiaeth.