Archwiliwch Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, 400 erw o gefn gwlad hardd o fewn Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Chwiliwch am godau QR i gael mynediad i’r llwybr llafar am ddim hwn a fydd yn mynd â chi ar daith i ddarganfod mwy am hanes cyfoethog a bioamrywiaeth y dirwedd.
Mae’r map isod yn dangos lle mae codau QR wedi’u lleoli o fewn y dirwedd i gael mynediad i benodau sy’n ymwneud â phob lleoliad. Gellir gwrando ar benodau mewn unrhyw drefn wrth i chi grwydro Waun Las.

Mae pob pennod a thrawsgrifiadau ar gael ar Spotify:
Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.
