Diogelu planhigion a ffyngau

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn helpu’n weithredol i ddiogelu planhigion gwyllt, ffyngau a’u cynefinoedd, yng Nghymru a thu hwnt.

Ry’n ni’n cyfrannu at oroesiad yn y tymor hir o rai o’r planhigion sydd fwyaf dan fygythiad ledled Cymru ac anelwn at wneud hynny drwy raglen weithredol ac integredig o waith cadwraethol.  Mae ein gwaith yn ystyried pob lefel o fioamrywiaeth, o enynnau i blanhigion cyfan, ac o rywogaethau i ecosystemau. Gan weithio yn yr Ardd ac yng nghynefinoedd naturiol y planhigion dan sylw, ceisiwn ddarparu cyngor effeithiol ac integredig ar ddiogelu’r planhigion prin hyn.

Mae adnoddau cyfunol labordy geneteg cadwraeth, arbenigedd garddwriaethol helaeth, Banc Hadau Cenedlaethol, a Gwarchodfa Natur Genedlaethol, yn ein galluogi i fynd ati mewn modd effeithiol i ddarparu sail dystiolaeth ar gyfer gwarchod y planhigion a ffyngau sydd fwyaf dan fygythiad yng Nghymru, ynghyd â’u cynefinoedd.

Mae barcodio DNA rhywogaethau planhigion yn ganolbwynt ymchwil i’r Ardd, a chydnabyddir arbenigedd ein prosiect barcodio DNA planhigion yn rhyngwladol. Ni sy’n gyfrifol am y ffaith mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i farcodio DNA ei holl blanhigion blodeuol brodorol, gan ddarparu adnodd anhepgor i ymchwilwyr.