Gardd yr Apothecari

Clustnodir yr ardd hon ar gyfer planhigion meddyginaethol

Bydd planhigion yn cynhyrchu cannoedd o gyfansoddion cemegol i’w hamddiffyn rhag pryfed, ffyngau, clefydau a mamaliaid sy’n pori. Gall yr un cemegion effeithio’r corff dynol hefyd.

Am filoedd o flynyddoedd, planhigion oedd prif ffynhonnell meddyginiaeth i’r rhan fwyaf o bobloedd y byd.  Yn Neuadd yr Apothecari drws nesaf, fe welwch sut oedd hen siopau fferyllydd yn
llawn o foddion a ffisig wedi eu gwneud o blanhigion.

Hyd yn oed heddiw mae tua 50% o feddyginiaethau y diwydiant fferyllol naill ai’n defnyddio planhigion neu’n cael eu hysbrydoli gan sylweddau naturiol.

Ym mhob gwely blodau mae planhigion sydd wedi eu defnyddio ar ryw adeg i drin afiechyd system benodol o’r corff.

Ychwanegwyd un gwely i ddangos planhigion a ddefnyddiwyd gan Feddygon Myddfai, y meddygon llysiau enwog o Gymru.