GFGC i ddod yn ‘Ardd Dim Biniau’

Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru ar ailgylchu, o Ebrill 6ed, 2024 byddwn yn symud yr holl finiau sbwriel o bob rhan o’r Ardd. Yn ogystal â’n galluogi i fodloni’r rheoliadau newydd hyn, bydd y dull newydd hwn hefyd yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt, cadw’r Ardd yn lanach, a’n helpu i arbed arian, y gellir ei ddefnyddio i’n helpu i gyflawni ein nodau ac amcanion elusennol niferus.

Fel ymwelwyr â’r Ardd, gofynnwn yn garedig am eich cefnogaeth wrth i ni wneud y newid hwn. Felly, gofynnwn i chi fynd ag unrhyw sbwriel a ddygwch i’r Ardd gyda chi pan fyddwch yn gadael a chael gwared arno’n gyfrifol.

Bydd unrhyw fwyd neu ddiod a brynir yn ein hardaloedd caffi yn cael eu casglu a’u gwaredu gan ein staff arlwyo.

Diolchwn ymlaen llaw am eich cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn fuan.