Cacynen Gynffon Goch

Bombus lapidarius

Mae’r Gacynen Gynffon Goch yn gyffredin ledled y DU, a gellir ei gweld mewn sawl amgylchedd gwahanol.

Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, caiff ei nodweddu gan ei chynffon goch. Tra bo’r breninesau a’r gweithwyr yn hollol ddu, ac eithrio’r gynffon goch, mae gan wrywod ddau fand melyn a wyneb melyn.

Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt ar hyd a lled yr Ardd.