Y Fantell Goch

Vanessa atalanta

Mae’r Fantell Goch yn rhywogaeth glöyn byw fawr a chyffredin, a chanddi farciau nodedig iawn.

Mae ochr isaf adenydd y glöyn byw yn fwy di-liw, i’w guddliwio rhag ysglyfaethwyr.

Mae’n löyn byw mudol, ac mae’r oedolion yn hedfan o dir mawr Ewrop a Gogledd Affrica.Mae’r benywod mudol hyn yn dodwy eu hwyau pan fyddant wedi cyrraedd y DU, sy’n golygu bod mwy o loÿnnod byw sy’n oedolion yn dod i’r amlwg yn yr haf.

Os yw’r tywydd yn ddigon cynnes, gellir gweld y Fantell Goch mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwahanol yn ystod mwyafrif misoedd y flwyddyn, a gellir gweld ei lindys ar ddanadl poethion.

Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt ar ffrwythau sy’n pydru – maent yn hoff iawn ohonynt!

Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt ar hyd a lled yr Ardd, ond edrychwch a allwch eu gweld ar yr iorwg blodeuol o amgylch waliau’r Ardd Furiog Ddwbl ym mis Hydref.