Mae Cardwenynen y Gwlân yn rhywogaeth o wenyn unig sy’n nythu ar y ddaear.
Mae’n eithaf mawr, ac mae ganddi smotiau melyn nodedig ar ei habdomen.
Yn aml, gwelir benywod yn casglu ffibr o blanhigion megis clust yr oen (Stachys byzantina), ac yna’n ei ddefnyddio i leinio celloedd eu nythod, sy’n cynnwys wy, neithdar a phaill. Dyma o le y daw’r enw ‘cardwenynen y gwlân’!
Mae gwrywod yn diriogaethol iawn ac yn patrolio’r planhigyn hwn ar gyfer darpar gymheiriaid ac i atal unrhyw dresmaswyr.
Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt ar y planhigion Clust yr Oen ar hyd y Rhodfa ac yn yr Ardd Glogfeini.