Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi'i lleoli 10 munud o'r M4 a 2 funud o'r A48 yn Sir Gaerfyrddin, hanner ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin
Amserau agor | |
---|---|
1 Ebrill - 31 Hydref | 10yb - 6yh |
1 Tachwedd - 31 Mawrth | 10yb - 4yh |
Cynlluniwch eich ymweliad â'r Ardd gyda'n tudalennau defnyddiol yn llawn awgrymiadau a gwybodaeth, neu cysylltwch â ni am ymholiadau pellach. Mae'r Ardd wedi'i lleoli 10 munud o'r M4 a 2 funud o'r A48 yn Sir Gaerfyrddin, hanner ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin.
Prisiau mynediad | yn cynnwys Cymorth Rhodd | heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
Mae mynediad olaf awr cyn cau | ||
Oedolyn | £19.00 | £16.85 |
Plant (2-17) | £10.00 | £8.65 |
Plant dan 2 oed | AM DDIM | AM DDIM |
Teulu Dau Oedolyn (2 oedolyn a hyd at 4 o blant) | £55.00 | £49.50 |
Teulu Un Oedolyn (1 oedolyn a hyd at 4 o blant) | £41.00 | £37.00 |
Gofalwyr | AM DDIM | AM DDIM |
Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain · Mynediad | Am ddim gyda mynediad | Am ddim gyda mynediad |
Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain · Arddangosfa Hedfan | Tâl ychwanegol | Tâl ychwanegol |
Mae tocynnau mynediad yn ddilys am y 7 diwrnod canlynol ar ôl eich ymweliad, ac maent yn caniatâu mynediad am ddim ac anghyfyngedig am y cyfnod hwn.
Rydym ar agor bob dydd o’r flwyddyn heblaw am Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig. Mae’r mynediad olaf awr cyn i’r Ardd gau. Gweler ein telerau ac amodau os gwelwch yn dda.
Gellir archebu tocynnau ymlaen llaw, ond nid yw hyn yn hanfodol. Os hoffech chi archebu ymlaen llaw, cliciwch isod os gwelwch yn dda.
Mae eich tocyn mynediad yn cynnwys mynediad diderfyn i’r Ardd Fotaneg am saith diwrnod o’r dyddiad y gwnaethoch ymweld â ni.
Mae ymwelwyr anabl yn talu’r gyfradd derbyn safonol ond mae ganddynt hawl i un lle gofalwr am ddim sy’n cyd-fynd â nhw.
Mae ein staff wedi’u hyfforddi i beidio â chymryd yn ganiataol anabledd, felly mae angen prawf wrth gyrraedd.
Mae’r prawf yn cynnwys –
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Bersonol
- Bathodyn glas (angen llun),
- Llythyr wedi’i lofnodi gan Feddyg Teulu (angen llun),
- Cardiau Mynediad.
Dylai’r adroddiad gael ei ddyddio o fewn y 24 mis diwethaf.
A allaf ddod â fy nghi i'r Ardd Fotaneg?
Ni chaiff cŵn fynediad i’r Ardd Fotaneg yn ddyddiol (ac eithrio cŵn cymorth). Serch hynny, mae’n Ddiwrnod i Chi a’r Ci POB dydd Llun a Gwener, ac un penwythnos y mis. Darganfyddwch fwy yma.
Pan fydd croeso i chi ddod â’ch ci am dro o gwmpas yr Ardd Fotaneg (Ni chaniateir cŵn yn y Tŷ Gwydr Mawr nac yn y Tŷ Trofannol.) gofynnwn i berchnogion cŵn i gadw at ein rheolau Diwrnodau i Chi a’r Ci – darllenwch nhw cyn i chi ddod â’ch ci os gwelwch yn dda.
Seiclo
Ni chaniateir beiciau yn yr Ardd. Fodd bynnag, os y’ch chi wedi seiclo i’r Ardd, mae hawl i chi gael mynediad am hanner pris.
Disgowntiau Grŵp
Rydym yn cynnig gostyngiad i grwpiau o 10 neu fwy o bobl, cysylltwch â Thîm y Porthdy ar 01558 667149 neu e-bost gatehouse@gardenofwales.org.uk am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Dewch yn Aelod
Delfrydol ar gyfer y rhai sy’n ymweld yn aml. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddod yn aelod ar gael yma.
Cost Mynediad i Ofalwyr
Mae gofalwyr yn cael mynediad i’r Ardd am ddim gyda’r person(au) y maent yn gofalu amdanynt.