
Mae cŵn wrth eu bodd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Creative Commons - Attribution (BY): Carl Stringer
Gweler isod am y rhestr llawn o reolau’r diwrnodau dynodedig lle caiff cŵn dod â’u perchennog i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol:
- Cadwch eich perchennog ar dennyn anestynadwy pan fyddwch yn yr Ardd
- Ceisiwch beidio â cherdded ar y gwelyau blodau am fod rhai o’n planhigion yn eithaf prin
- Sicrhewch fod eich perchennog yn glanhau ar eich ôl ac yn mynd â’r baw adref
- Ceisiwch beidio â gadael i’ch perchennog grwydro ar ei ben ei hun heboch
- Ceisiwch beidio â chynhyrfu gormod pan fyddwch yn yr Ardd. Bydd staff yr Ardd yn gofyn i chi fynd â’ch perchennog adref os bydd hyn yn digwydd!
- Peidiwch â gadael i’ch perchennog fynd â chi i mewn i’r Maes Chwarae i Blant, y Plas Pilipala na Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
- Fodd bynnag, gallwch fynd â nhw i mewn i’n Bwyty a’n Siop os byddant am gael rhywbeth i’w fwyta neu brynu rhywbeth arbennig i chi i fynd ag ef adref gyda chi
- Os byddwch yn mynd â’ch perchennog i mewn i’r Tŷ Gwydr Mawr, peidiwch â’i annog i fynd â chi i lawr at y llwybrau isaf. Arhoswch wrth ymyl Caffi’r Canoldir
- Os oes gennych swydd arbennig i’w gwneud fel Ci Cymorth, gallwch ddod â’ch perchennog bob diwrnod o’r flwyddyn
- Ond gofynnwch i’ch perchennog beidio â mynd â chi ar un o’n Bygis Ymwelwyr
- Ac yn olaf, os ydych yn ‘cwna’, peidiwch â dod i’r Ardd heddiw os gwelwch yn dda
Diolch yn fawr
Y Tîm Gwasanaethau Ymwelwyr (a’u cŵn)