Y Fantell Paun

Aglais io

Mae’r Fantell Paun yn löyn byw mawr, cyffredin, a chanddo smotiau llygaid lliwgar a nodedig iawn, sydd i fod i atal ysglyfaethwyr.

Mae ochr isaf yr adenydd yn lliw dwl, brown, sy’n golygu ei fod yn cael ei guddliwio pan fydd ei adenydd ynghau.

Os yw’n ddigon cynnes iddynt hedfan, gellir gweld oedolion y Fantell Paun yn ystod sawl mis o’r flwyddyn ac mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwahanol, a gellir gweld ei lindys ar ddanadl poethion.

Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt ar hyd a lled yr Ardd.

  • Yr Ardd Wyllt

    Gwelir llawer o blanhigion brodorol Cymreig yma, fel tegeiriau a llygaid-llo mawr