Brith y Coed

Pararge aegeria

Glöyn byw maint canolig yw Brith y Coed, a gellir ei weld mewn ambell amgylchedd gwahanol, megis gerddi a choetiroedd.

Mae’r oedolion yn bwydo ar felwlith sydd wedi cael ei secretu gan lyslau – nid ydynt bron byth yn yfed neithdar o flodau!

Mae’r benywod sy’n oedolion yn dodwy wyau ar blanhigion megis glaswellt troed y ceiliog a marchwellt cyffredin.

Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt yng Ngardd y Gwanwyn a Choed y Tylwyth Teg.