Dewch i’n Gweld


Gardd Dim Biniau – Rydym bellach yn ‘Gardd Dim Biniau’. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

‘Dyddiau i Chi a’r Ci’ – Caniateir cŵn yn yr Ardd bob dydd Llun, dydd Gwener a phenwythnos cyntaf pob mis. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

  • Y Ty Gwydr Mawr

    Mae’n gwarchod rhai o’r planhigion sydd fwyaf dan fygythiad ar y blaned, sy’n hannu o chwe ardal sydd ag hinsawdd Ganoldirol, sef Califfornia, Awstralia, yr Ynysoedd Dedwydd, Chile, De Affrica a Basn y Canoldir, a rhannwyd y Tŷ Gwydr Mawr yn adrannau gwahanol i adlewyrchu hyn. Darllenwch fwy
  • Darganfod

    Gyda dros 500 erw mae digon i'w weld a'i wneud. Archwiliwch y parcdir a adferwyd yn ddiweddar, a’n Gwarchodfa Natur Waun Las. Rydym yn cynnig amrywiaeth o lwybrau ac apiau i’ch helpu i gynllunio a gwneud y gorau o’ch ymweliad. Darllenwch fwy
  • Llwybr y Gryffalo

    Archwiliwch y coetir hudol, dwfn, tywyll a darganfyddwch ein cerfiadau anhygoel a grëwyd â llaw o gymeriadau’r Gryffalo.

Mae'r ardd yn llawn bywyd

Dyma flas o'r hyn y gallwch ei weld y mis hwn

Archwilio mwy o'r hyn sydd gennym i'w gynnig

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi'i lleoli 10 munud o'r M4 a 2 funud o'r A48 yn Sir Gaerfyrddin, hanner ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin

Amserau agor
30 Mawrth - 25 Hydref 10yb - 6yh
26 Hydref - 28 Mawrth 10yb - 4yh

Cynlluniwch eich ymweliad â'r Ardd gyda'n tudalennau defnyddiol yn llawn awgrymiadau a gwybodaeth, neu cysylltwch â ni am ymholiadau pellach. Mae'r Ardd wedi'i lleoli 10 munud o'r M4 a 2 funud o'r A48 yn Sir Gaerfyrddin, hanner ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin.

Prisiau mynediad yn cynnwys Cymorth Rhodd heb Gymorth Rhodd
Mae mynediad olaf awr cyn cau
Oedolyn £21.00 £18.85
Plant (2-17) £11.00 £9.65
Plant dan 2 oed AM DDIM AM DDIM
Teulu Dau Oedolyn (2 oedolyn a hyd at 4 o blant) £59.00 £53.50
Teulu Un Oedolyn (1 oedolyn a hyd at 4 o blant) £45.00 £39.00
Gofalwyr + Gofalwyr Di-Dâl AM DDIM AM DDIM