Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r ffotograffydd arobryn Joann Randles i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle bydd ei harddangosfa o’r enw ‘Hiraeth’ i’w gweld y Pasg hwn.
Mae ‘Hiraeth’ yn ddathliad o waith parhaus Joann yn dogfennu bywyd diwylliannol Cymru. Rydym yn freintiedig bod Joann wedi dewis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i arddangos y corff o waith hwn sydd ond wedi’i arddangos unwaith o’r blaen yng Ngŵyl enwog Interceltique y llynedd yn Lorient, Llydaw, lle cynrychiolodd Joann Gymru.
Mae portreadau Joann yn mynegi traddodiadau, hunaniaethau a chymunedau ei chenedl yn fywiog, gan wneud diwylliant Cymru yn hygyrch i gynulleidfaoedd byd-eang trwy iaith gyffredinol adrodd straeon gweledol.
Manylion yr arddangosfa:
Pryd: 1–12 Ebrill | 10am – 6pm | Am Ddim – Gyda Mynediad
Ble: Yr Oriel, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Pryd: 1–12 Ebrill | 10am – 6pm | Am Ddim – Gyda Mynediad
Ble: Yr Oriel, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Dewch i weld y gweledigaeth personol hwn ar bortreadau a diwylliant Cymru a ddaliwyd ar gamera.