Planhigion Gwyllt

Mae dros 400 o rywogaethau o blanhigion gwyllt wedi’u cofnodi ar draws 568 erw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae’r rhain nid yn unig wedi’u cofnodi ar y cynefinoedd lled-naturiol amrywiol ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las – ei choetir, dolydd, corsydd, porfeydd, ffosydd, glannau llynnoedd, prysgwydd, ymylon âr a gwrychoedd – ond hefyd ar waliau, meysydd parcio, ymylon ffyrdd a thir diffaith.

Dolydd

Mae ymwelwyr yn cael y cyfle gwefreiddiol i gerdded yn ôl mewn amser a gweld y math o blanhigion gwyllt a fyddai unwaith wedi bod yn gyffredin ar draws cefn gwlad Cymru. Ar draws dros 50 erw o ddolydd gwair wedi’u hadfer gallwch ddod o hyd i gaeau llawn tegeirianau, Cribell Felen, Bwrned Mawr, y Bengaled a Melynydd. Mae’n rhaid gweld y miloedd o Degeirian Llydanwyrdd ym mis Mehefin, mis lle gallwch hefyd weld porfeydd gwlyb yn troi’n wyn gyda blodau’r Carwy Droellennog, blodyn sir Gaerfyrddin a’r Effros Lloegr (Euphrasia anglica) sy’n endemig i Brydain. Ar ymylon corsiog y safle mae amrywiaeth eang o blanhigion ag enwau gwyddonol sy’n gorffen yn uliginosus (llawn lleithder), aquatica (dyfrllyd) neu palustre (corsiog) fel Pumnalen y Gors (Comarum palustre).

Coetiroedd

Mae ein coetiroedd yn nodweddiadol gyfoethog o Dderw, Ffawydd, Cyll ac Oestrwydd, gyda mannau gwlypach yn fwy nodweddiadol gan Wernen a Helyg, a gwrychoedd sy’n gyfoeth o Ddraenen Ddu a Draenen Wen. Mae carpedi hardd o Glychau’r Gog a Blodau’r Gwynt, gyda chlytiau o Marddanhadlen Felen, Bresych y Cŵn a Mwsglys yn dynodi tir a allai fod wedi bod yn goetir ers cannoedd o flynyddoedd. Mae mwsoglau a llysiau’r afu wrth eu bodd â’r hinsawdd gymharol laith yma ac yn gorchuddio llawer o rannau isaf ein boncyffion coed, yn ogystal â waliau, lawntiau a chlogfeini. Mae’r rhain yn cynnwys Cryphaea heteromalla a oedd bron wedi diflannu o ardaloedd trefol a diwydiannol Prydain yn yr 20fed ganrif oherwydd llygredd. Mae’n well gan redyn fannau cysgodol ond maen nhw’n dal y llygad ar ganghennau sy’n hongian dros ein llynnoedd a’n nentydd, sydd wedi’u amglychynu’n nodweddiadol â leinin Llysiau’r-milwr Coch a Gold y Gors.

Mae gennym hefyd rai rhyfeddodau prin rhyfeddol fel Mintys Corsica persawrus rhwng y coblau yn Sgwâr y Mileniwm a ffurf wen o flodau Tegeirian Brych yn ddol Cae Trawscoed.