22 Rhag 2021

Mae ein Dolydd Blodeuog yn Ffynnu

Bruce Langridge

Am flwyddyn wych y mae wedi bod i’n dolydd llawn tegeirianau yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Erbyn hyn mae gennym oddeutu 40 erw o ddolydd gwair sy’n cynnwys yr ystod o blanhigion a fyddai, hyd at 100 mlynedd yn ôl, wedi bod yn frith ledled Cymru. Ond dros y 100 mlynedd ddiwethaf, rydym wedi colli dros 97% o’r dolydd hyn, a’r holl adar, gloÿnnod byw, planhigion, ffyngau a bioamrywiaeth gysylltiedig arall a fyddai wedi dibynnu arnynt.

Roedd y golled enfawr hon nid yn unig wedi difa bywyd gwyllt ond hefyd wedi effeithio ar y newid yn yr hinsawdd. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gallai dolydd llawn rhywogaethau ddal cymaint o garbon â choetir aeddfed.  Mae colli dolydd sy’n dal dŵr glaw ger trefi a phentrefi hefyd wedi cyfrannu at y cynnydd mewn achosion o lifogydd, rhywbeth yn debyg i gyfnewid sbwng am blât llyfn.

OND. Bellach mae yna dswnami gynyddol o brosiectau adfer dolydd i wyrdroi’r golled hon, ac rydym yn helpu i sicrhau’r newid hwn.

Yn 2020 dechreuom gasglu a gwerthu hadau blodau gwyllt o Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Dim ond hyn a hyn ydoedd ond gwerthodd y cyfan yn gyflym. Felly eleni roeddem wedi cynyddu’n sylweddol faint o hadau blodau gwyllt a gynaeafwyd, diolch i gydymdrech tîm gwych o staff yr Ardd Fotaneg.

Gan ddefnyddio cynaeafwr brwsio a ariannwyd gan brosiect Caru Natur Cymru Kathryn Thomas, rhagorodd ein tîm ystadau, dan ofal Tom Campbell, yn sylweddol ar ein hamcangyfrifon ynghylch faint o hadau y gallem eu casglu. Gyda chymorth y ddau John, Luke, a’r prentisiaid Roawn, El, Ellie-May, Glenn, Dan ac Osian, cynaeafodd y tîm 210 kg o hadau llawn cribellau melyn, effros, bwrned mawr a thegeirianau o’n pum dôl wair – Cae Trawscoed, Cae Tegerianau, Cae Gwair, Cae Derwen a Chae Waun. Edrychwch ar ddelwedd y map i weld lle y maent.

Yna aeth ein Swyddog Prosiectau Garddwriaeth, Katie Bennalick, a’n Swyddog Gwyddoniaeth, Dr. Kevin McGinn, ati i helpu Tom a’i dîm i sychu a rhidyllu’r hadau blodau gwyllt a gynaeafwyd yn nhai gwydr yr Ardd ac yn siediau gwartheg Fferm Pantwgan. Yn ddiweddarach yn yr haf trefnodd ein ffermwr, Huw Jones, i dorri gwair gwyrdd o rannau heb eu cynaeafu o’n dolydd gwair, a’i daenu ar gaeau sawl ffermwr cyfagos yn Llanarthne ac ar ddolydd y gorlifdiroedd ym Mhalas yr Esgob yng Nghaerfyrddin. Talwyd am hyn gan ein prosiect Dyffryn Tywi sy’n cael ei redeg gan Helen Whitear a Kellie Cridand.

Cawsom gymorth ein cyn-Bennaeth Garddwriaeth, Laura Davies.

Ar hyn o bryd mae Laura yn astudio ar gyfer MSc mewn Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Treuliodd Laura lawer o ddiwrnodau yn cynnal arolygon botanegol ar ein dolydd gwair ac ar y cae o amgylch Tŵr Paxton yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanarthne, sef safle arall i gael ein gwair gwyrdd o dan brosiect Gweunydd Godidog Plantlife. Bydd gwaith arolygu Laura yn ein helpu’n fawr nid yn unig i fonitro’r newidiadau i’n dolydd gwair ein hunain wrth iddynt barhau i aeddfedu, ond hefyd effaith gwair gwyrdd ar safle adfer dôl newydd. Un o arsylwadau mwyaf cyffrous Laura oedd bod y tegeirian llydanwyrdd mawr Platanthera chlorantha wedi cymryd dwy flynedd yn unig i sefydlu ar un o’n dolydd y dechreuom ei hadfer yn 2019 – Cae Gwair. Ar yr un ddôl, daethom o hyd i galdrist lydanddail Epipactis helleborine yn ddiweddarach am y tro cyntaf, ac ar ddiwedd yr hydref, daeth y mycolegydd, Emma Williams, o hyd i sawl rhywogaeth cap cwyr a ffyngau glaswelltir eraill, darganfyddiad rhyfeddol, ond yn un sy’n dangos bod ein polisi ffermio organig dros yr 21 mlynedd ddiwethaf yn dda iawn i’n pridd.

Roedd hwn hefyd yn dymor gwych o ran ffyngau yn ein dolydd gwair eraill, a gwelwyd dros gant o gapiau cwyr pinc Porpolomopsis calyptriformis yn ffrwytho ar Gae Tegerianau, a llond gwlad o gapiau cwyr lemon Hygrocybe citrinovirens, sydd ar y rhestr goch ryngwladol, yng Nghae Trawscoed.

Dangoswyd y rhain i ddirprwyaeth o Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, yr oeddem yn falch iawn o glywed ei bod yn brysur yn troi llawer o’i hochrau ffyrdd yn ddolydd. O ganlyniad i’w hymweliad, mae ein hadau blodau gwyllt wedi’u hau ar ochrau’r M4 yn arwain at Bont Tywysog Cymru.

Dim ond un o lawer o sefydliadau ac unigolion i brynu ein holl hadau blodau gwyllt oedd Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru. Pob 210 kg ohonynt. Mae’n fy ngwneud yn falch iawn i feddwl y bydd ein hadau blodau gwyllt yn egino’n fuan i mewn i blanhigion a fydd yn dal carbon, yn amsugno dŵr glaw, ac yn darparu cysgod a bwyd ar gyfer amrywiaeth enfawr o fioamrywiaeth yn y parciau cyhoeddus, ar diroedd ysgolion, mewn perllannau, ar randiroedd, ar ochrau ffyrdd, ac ar ffermydd yn Rhydaman, Llanbedr Pont Steffan, Porthcawl, Caerdydd, Abertawe, Powys ac wrth gwrs, ger Pont Tywysog Cymru.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i fonitro ein caeau i sicrhau nad yw cynaeafu hadau yn eu niweidio. Os gwelwn arwyddion o hyn, rydym yn bwriadu cylchdroi ein cynaeafu, gan adael llonydd i ddôl bob pedair blynedd.

Ond byddwn hefyd yn cynaeafu eto. Rydym yn disgwyl i’r galw fod yn uchel, felly rydym yn bwriadu cymryd archebion ymlaen llaw cyn i ni ddechrau cnydio fis Gorffennaf nesaf yn 2022. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu hadau blodau gwyllt ymlaen llaw, gallwch naill ai ysgrifennu ataf i bruce.langrdige@gardenofwales.org.uk neu fy nghyd-weithiwr Huw huw.jones@gardenofwales.org.uk /07500 897574.