19 Tach 2020

Banc hadau newydd i Gymru

Kevin McGinn

Yn ôl ym mis Medi 2018, fe gyrhaeddais ym Manc Hadau’r Mileniwm yn Sussex gyda gwir ymdeimlad o gyffro.

Roeddwn yno ar gyfer cwrs preswyl ar Dechnegau Cadwraeth Hadau. Roedd yr 13 o unigolion eraill a oedd yno ar gyfer y cwrs wedi teithio o bedwar ban byd, gan gynnwys Gwlad Pwyl, Oman, Singapôr, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a Colombia. Roeddwn yn teimlo’n ffodus iawn i fod yno, ac roeddwn wrth fy modd i fod yng nghwmni pobl mor angerddol am warchod planhigion.

Partneriaeth Banc Hadau’r Mileniwm, sy’n cael ei rhedeg gan y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew, yw banc hadau mwyaf y byd ar gyfer planhigion gwyllt. Mae’n gwarchod 2.4 biliwn o hadau, sy’n deillio o fwy na 39,000 o rywogaethau o blanhigion.

Yn ystod y cwrs tair wythnos, cawsom ddysgu popeth gan yr arbenigwyr ynglŷn â gwyddoniaeth hadau a gwarchod hadau. Cawsom gyfle i feithrin sgiliau, profiad, cydweithrediadau, a chyfeillgarwch newydd ac, ers hynny, rydym i gyd wedi gweithio ar ddatblygu banciau hadau yn ôl adref yn ein gwledydd ein hunain.

Roedd banc hadau ar gyfer fflora Cymru wedi bod yn weledigaeth hirdymor yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac, yn 2018, dechreuwyd ar y daith i wneud i hynny ddigwydd.

Diogelu planhigion mewn banciau hadau

Mae amcangyfrifon byd-eang diweddar yn awgrymu bod hyd at 40% o rywogaethau planhigion dan fygythiad o ddiflannu. Mae hyn nid yn unig yn bryderus o ran y planhigion hynny, ond hefyd o ran yr holl fioamrywiaeth, er enghraifft gloÿnnod byw, gwenyn a ffyngau, sy’n dibynnu arnynt.

Mae banciau hadau yn offeryn allweddol er mwyn helpu i warchod planhigion ar gyfer y dyfodol. Trwy storio hadau dros yr hirdymor, maent yn gweithredu fel polisi yswiriant i atal planhigion rhag diflannu – os bydd poblogaeth planhigyn mewn argyfwng, gellir tynnu hadau allan o’r storfa, a’u tyfu i gynhyrchu planhigion i’w hailgyflwyno neu i adfer cynefinoedd. Mae casgliadau o hadau hefyd yn adnoddau defnyddiol ar gyfer ymchwil, megis nodi gofynion egino.

Mae Banc Hadau’r Mileniwm yn storio hadau o bedwar ban byd, ac mae hyn yn cynnwys hadau o bron pob un o fflora’r Deyrnas Unedig, ac o leiaf un boblogaeth fesul rhywogaeth. Efallai y byddwch yn meddwl felly ‘pam yr ydym yn sefydlu banc hadau yng Nghymru?’ Y rheswm yw helpu i ddiogelu amrywiaeth genetig.

Amrywiaeth genetig yw’r allwedd o ran gwytnwch rhywogaethau a’u gallu i addasu yn wyneb newidiadau amgylcheddol. Po fwyaf o amrywiaeth enetig sydd gan boblogaeth, y mwyaf tebygol yw hi o oroesi heriau megis newid yn yr hinsawdd neu ymosodiad gan blâu a chlefydau newydd.

Mae hyd yn oed poblogaethau sy’n crebachu neu ddifodiant lleol yn bryder gan fod hyn yn erydu amrywiaeth enetig yn raddol. Dyma a ddigwyddodd yn achos saets y waun (Salvia pratensis), a ddiflannodd yn y gwyllt yng Nghymru oherwydd mewnfridio ar ei unig safle yng Nghymru. Aeth yr Ardd Fotaneg ati i gydweithio ar brosiect i ailgyflwyno’r planhigyn prin hwn i’w hen gartref yn 2016, trwy groesbeillio hadau o Gymru â hadau o boblogaethau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Po fwyaf o gasgliadau hadau sy’n cael eu bancio ar gyfer rhywogaeth a’r ardal ddaearyddol ehangach y mae’n deillio ohoni y mwyaf o amrywiaeth enetig sy’n cael ei dal, a gorau oll y bydd rhywogaeth yn cael ei gwarchod ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn canolbwyntio ar rywogaethau nad oes ganddynt gasgliadau sy’n tarddu o Gymru eto ym Manc Hadau’r Mileniwm – yn 2018, roedd hynny’n oddeutu 75% o rywogaethau planhigion Cymru.

Hyd yn hyn, rydym wedi bancio hadau o 34 o rywogaethau gwahanol – mae’r blog hwn gan Elliot Waters, Cynorthwyydd Cadwraeth Caru Natur Cymru yn cyflwyno rhai uchafbwyntiau.

Banc hadau newydd ar gyfer planhigion gwyllt o Gymru

Mae dau labordy yn y Ganolfan Wyddoniaeth yn yr Ardd Fotaneg bellach yn gartref i Fanc Hadau Cenedlaethol Cymru. Rydym wedi sefydlu’r labordai’n raddol i’n galluogi i warchod hadau i safonau rhyngwladol. Os ydych wedi bod ar gwrs Tyfu’r Dyfodol, rydych wedi helpu! Mae elw’r cwrs wedi helpu i ariannu’r cyfarpar arbenigol.

Beth y mae bancio hadau yn ei olygu?

Mae bancio hadau yn dechrau gyda rhywfaint o ymchwil ddesg – nodi rhywogaethau i’w targedu, safleoedd y caeau, yr amseroedd hadu a sicrhau caniatâd i gasglu.

Yna byddwn yn ymweld â safleoedd yng Nghymru i ddod o hyd i’r rhywogaeth, gyda’r nod o gasglu 10,000 o hadau fesul poblogaeth. Mae hyn yn haws ar gyfer rhai rhywogaethau nag eraill! Mae bob amser o gymorth mawr pan fyddwn yn cysylltu ag arbenigwyr lleol, er enghraifft ceidwaid cadwraeth lleol neu recordwyr o Gymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon.

Ar ôl dod o hyd i leoliad rhywogaeth darged, byddwn yn asesu maint y boblogaeth, aeddfedrwydd yr hadau ac ansawdd yr hadau. Yna, y gobaith yw, casglu’r hadau a chofnodi data’r caeau. Er mwyn sicrhau nad ydym yn niweidio poblogaethau wrth gasglu hadau, byddwn yn mynd ati i gasglu mewn modd sensitif – uchafswm o 20% o’r hadau sydd ar gael, sy’n gostwng i 10% ar gyfer rhywogaethau sydd dan fygythiad.

Yn ôl yng Nghanolfan Wyddoniaeth yr Ardd Fotaneg, mae’r hadau’n cael eu cludo i’r labordy prosesu hadau. Yno, maent yn cael eu glanhau a’u sychu’n ofalus. Mae’r technegau glanhau yn amrywio yn dibynnu ar y rhywogaeth, ond mae’n tueddu i gynnwys dulliau syml iawn megis rhidyllu, ac mae gennym hefyd bympiau allsugno sy’n defnyddio ceryntau aer i wahanu’r hadau oddi wrth y mân us.

Yna, caiff yr hadau eu sychu mewn deoryddion i leithder cymharol o 15%. Mae’r cam sychu hwn yn lleihau’r risg y bydd crisialau iâ yn ffurfio y tu mewn i’r hadau wrth eu storio, ond gan gadw digon o leithder i’w cadw’n fyw.

Yna caiff yr hadau sych eu cludo i’r labordy storio hadau, lle y cânt eu selio mewn pecynnau ffoil aer-dynn arbennig, a’u storio mewn rhewgelloedd ar dymheredd o -20oC. Mae’r tymheredd isel hwn yn arafu’r broses resbiradu ac yn gostwng y gyfradd heneiddio.

Mae hanner yr hadau ym mhob casgliad yn cael eu storio yn ein cyfleuster banc hadau newydd, ac mae’r hanner arall yn cael eu hanfon i Fanc Hadau’r Mileniwm.

Gan fod bancio hadau yn wyddor sy’n esblygu, ni wyddys eto am ba hyd y gall hadau aros yn hyfyw. Bydd hyn yn dibynnu ar y rhywogaeth, ond gallai hadau llawer ohonynt aros yn hyfyw am gannoedd o flynyddoedd. I wirio sut y mae’r hadau’n storio, cynhelir profion egino yn rheolaidd

Gan weithio gyda chyd-weithwyr, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd ar fwy o deithiau i gasglu hadau, gwarchod mwy o blanhigion o Gymru, a gweld y gwahanol ffyrdd y bydd yr hadau hyn yn cael eu defnyddio at ddiben cadwraeth yn y dyfodol. Rydym wrth ein bodd bod rhywfaint o’n hadau a gasglwyd yn ddiweddar eisoes yn cyfrannu at brosiect cadwraeth ar lawr gwlad – cafodd swp bach o hadau gold y môr (Galatella linosyris) a gasglwyd ar y Gogarth, ei anfon yng ngwanwyn 2020 i helpu prosiect ailgyflwyno yn Cumbria.

Yn chwilio am hadau blodau gwyllt ar gyfer eich gardd?

Am lwc! Mae hadau a gynaeafwyd yn gynaliadwy o’n fferm organig yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las bellach ar gael i’w prynu. Mae pob dim sy’n cael ei werthu yn helpu i ariannu gwaith elusennol yr Ardd Fotaneg, er enghraifft y banc hadau. I gael canllawiau ar achub a storio hadau gartref, gwelwch yma ac yma.

Mae’r banc hadau yn brosiect cydweithredol rhwng prosiectau Tyfu’r Dyfodol a Caru Natur Cymru a Thimau Garddwriaeth a Gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Hadau’r Mileniwm am ddarparu hyfforddiant a chymorth ac arweiniad technegol parhaus.