6 Hyd 2025

Blwyddyn ym Mywyd Myfyriwr Lleoliad Gwyddoniaeth

Anysia Padgett

Fy enw i yw Anysia ac rwy’n fyfyriwr archaeoleg israddedig o Brifysgol Bradford. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn Fyfyriwr Lleoliad Gwyddoniaeth yn gweithio yn yr Ardd. Roeddwn wedi fy lleoli yn y Ganolfan Wyddonol ond cefais hefyd gyfle i fod yn rhan o’r gwaith mewn llawer o ardaloedd gwahanol ledled yr Ardd.

Outside the Science Centre

Treuliais y rhan fwyaf o’m lleoliad yn gweithio yn y llysieufa a’r labordy. Am y mwyafswm o’r amser roeddwn yn gweithio gyda’r Tîm Gwyddoniaeth a gwirfoddolwyr ymroddedig ar y prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Nod y prosiect hwn yw digideiddio casgliad hanesyddol Llysieufa’r Ardd, sef rhodd garedig i’r Ardd gan Ysgol Harrow, ac eiddo’r naturiaethwr Fictoraidd, James Cosmo Melvill, yn wreiddiol. Rwyf wedi bod yn ymwneud â phob rhan o’r broses ddigideiddio, sydd wedi cwmpasu curadu, ffotograffiaeth a thrawsgrifio. Roedd rhan o’m rôl yn y llysieufa yn cynnwys trawsgrifio’r llythyrau. Roedd Melvill yn rhan o Glwb Cyfnewid Botanegol Ynysoedd Prydain, sef rhwydwaith o gasglwyr botanegol brwd o bob cwr o’r DU a fyddai’n masnachu sbesimenau o gasgliadau eu llysieufeydd. Cadwodd Melvill lawer o’r llythyrau a anfonwyd ato gan aelodau eraill y Clwb ar y cyd â’r sbesimenau. Mae wedi bod yn hynod o ddiddorol darllen am fywydau ac alldeithiau’r casglwyr hyn

Y Llysieufa

Yn rhan o’m rôl yn y llysieufa, rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect blwyddyn o hyd yn ysgrifennu darn deongliadol ar gyfer Neuadd yr Apothecari, a’r gobaith yw y byddwch yn gallu ei weld yn ystod y misoedd i ddod. Mae’r dehongliad yn adrodd hanes datblygiad meddyginiaeth lysieuol yng Nghymru a’r modd y mae’n cysylltu’r broses o greu llysieufeydd a gerddi botaneg; i gloi mae’n cyflwyno gwybodaeth am beth o’r gwaith ymchwil sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn y Ganolfan Wyddonol.

Mae gweithio yn y llysieufa wedi bod yn un o’r uchafbwyntiau i mi. Mae wedi f’ysbrydoli i chwilio am waith tebyg pan fyddaf yn dychwelyd i Bradford. Byddaf yn gwirfoddoli gyda chasgliad llysieufa Amgueddfeydd Bradford, a gobeithio’n ysgrifennu traethawd hir ar lysieufeydd. Mae’r lleoliad wedi rhoi i mi’r holl sgiliau y mae arnaf eu hangen i ddilyn gyrfa yn y sector hwn yn y dyfodol, gobeithio! Mae brwdfrydedd y Tîm Gwyddoniaeth wedi gwneud f’amser yn brofiad hynod o bleserus a gwerthfawr ar gyfer y byd gwaith


Os hoffech roi cynnig ar drawsgrifio rhai o’r sbesimenau hanesyddol hyn yn yr Ardd, o gysur eich cartref eich hun, yna gallwch gofrestru i wirfoddoli ar DigiVol a helpu’r Ardd i ddigideiddio ei chasgliad!


BIOSCAN

Yn ogystal â’m prosiect, un o’r prif dasgau ar leoliad oedd gweithio yn y labordy ar y prosiect BIOSCAN. Mae BIOSCAN yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Sefydliad Wellcome Sanger, ac mae’n anelu at wella ein dealltwriaeth o boblogaethau pryfed hedegog a’u dirywiad gan ddefnyddio metafargodau DNA.

Bob mis, roeddwn yn gosod dau drap Malaise, un yn yr Ardd Ddeufur a’r llall yng Nghae Trawscoed. Ar ôl 24 awr, byddwn yn casglu’r pryfed oedd wedi’u dal ym mhoteli dal y trapiau ac yn mynd â nhw i’r labordy. Yna byddwn yn rhoi pob pryfyn mewn plât ffynhonnau (well plate) ac yn gwneud fy ngorau i’w hadnabod yn ôl ei lefel yn yr urdd. Yna anfonir y platiau i Sefydliad Wellcome Sanger ar gyfer rhan nesaf y broses. Cesglir DNA o bob pryfyn, a chan ddefnyddio metafargodau DNA defnyddir hwn i adnabod y rhywogaeth. Mae hyn yn darparu data gwerthfawr ar amrywiaeth a dosbarthiad rhywogaethau, a’r modd y mae’r rhain yn newid.

Teithiau Casglu Hadau

Mewn partneriaeth â Banc Hadau’r Mileniwm, mae’r Tîm Gwyddoniaeth yn mynd ar deithiau casglu hadau ar gyfer Banc Hadau Cenedlaethol Cymru yr Ardd. Y nod yw cadw fflora Cymru ar gyfer y dyfodol. Aeth fy nhaith gyntaf â fi i Benrhyn Gŵyr i chwilio am y Ferywen (Juniperus communis).

Aeth fy nhaith olaf i gasglu hadau â fi i’r Mynydd Du i gasglu’r Tormaen llydandroed (Saxifraga hypnoides) a Llus (Vaccinium myrtillus)! Mae’r teithiau hyn yn hanfodol i ddiogelu fflora ar gyfer y dyfodol. Mae’r hadau a gesglir yn cael eu cludo’n ôl i’r labordai yn y Ganolfan Wyddonol, lle cânt eu glanhau, eu profi trwy eu torri, a’u storio mewn rhewgelloedd.

Trapio Gwyfynod

Un o’m tasgau yn rôl myfyriwr lleoliad oedd gosod y trap gwyfynod bob pythefnos. Roeddem yn defnyddio trap gwyfynod Robinson a bylbiau anwedd mercwri, a byddwn yn eu gosod y tu allan i’r Ganolfan Wyddonol. Y bore wedyn, byddwn yn eistedd gyda grŵp hyfryd o Wirfoddolwyr Cadwraeth, gan eu helpu i weithio trwy’r trap, yn nodi a chofnodi pob rhywogaeth o wyfynod cyn eu rhyddhau i’r awyr agored eto. Doeddwn i erioed wedi trapio gwyfynod o’r blaen, felly roedd hwn yn brofiad newydd cyffrous iawn i mi ac yn gyfle i mi oresgyn f’ofn o wyfynod.

Gŵyl BioBlitz 2025

Cynhaliwyd y cyfarfod cynllunio cyntaf ar gyfer yr Ŵyl BioBlitz gyntaf erioed yn yr Ardd ymhell yn ôl yn ystod ail ddiwrnod fy lleoliad. Gweithiodd y Tîm Gwyddoniaeth yn galed trwy gydol y flwyddyn i drefnu digwyddiad cofnodi biolegol rhagorol, felly roedd yn anhygoel gweld canlyniad y gwaith caled hwn yn ystod penwythnos y BioBlitz ym mis Gorffennaf. Cefais amser gwych yn gweithio ar stondin ymgysylltu’r llysieufa, ac yn cymryd rhan yn y gweithdai a’r dasg o gyfrif ystlumod yn clwydo dros y penwythnos.


Uchafbwyntiau

Cefais gyfleoedd i fynd ar ambell daith gyda’r Tîm Gwyddoniaeth eleni, ac un ohonynt oedd i Wakehurst, Kew i weld Banc Hadau’r Mileniwm. Ar ôl cynorthwyo Ellyn ym Manc Hadau Cenedlaethol Cymru yma yn yr Ardd, roedd yn hynod o ddiddorol gweld y modd y mae banc hadau byd-eang yn gweithio.

Mae’n bosibl mai’r rhan fwyaf annisgwyl o flwyddyn fy lleoliad oedd mynd i Barti Gardd Palas Buckingham ym mis Mai. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy newis i fod yn un o aelodau’r staff a’r gwirfoddolwyr a fyddai’n cynrychioli’r Ardd yn y digwyddiad.

Dysgu’r Cymraeg

Bob dydd Llun, mae’r Ardd yn cynnal bore te o’r enw Paned a Sgwrs. Roedd hwn yn gyfle anffurfiol a hwyliog i ddysgu ychydig o Gymraeg tra oeddwn yn gweithio yn yr Ardd! Mae’r grŵp yn agored i bawb!

Treftadaeth

Fyddwn i ddim yn fyfyriwr archaeoleg da iawn petawn i ddim yn sôn am beth hanes! Mae wedi bod yn hynod o ddiddorol dysgu am dreftadaeth yr Ardd, a hynny trwy weithio gyda gwirfoddolwyr yr Archif a mynd ar y Daith Tirwedd Treftadaeth, sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr unwaith y mis. Cefais gyfle hefyd i ymweld â safleoedd lleol sy’n gysylltiedig â’r Ardd a’r prosiect dehongli, er enghraifft Tŵr Paxton a Chastell Dryslwyn.

Cadw Gwenyn & Cynllun Cofnodi Nythoedd Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO)

Roeddwn yn ymuno â’r gwirfoddolwyr cadw gwenyn bob dydd Iau i ddysgu beth yw gwaith gwenynwr a sut i ofalu am wenyn mêl. Wrth weithio gyda Martin dysgais hefyd sut i echdynnu mêl a gwneud canhwyllau o gŵyr gwenyn!

Yn y gwanwyn bûm yn helpu Ellyn a’r Gwirfoddolwyr Cadwraeth i gofnodi’r blychau nythu o gwmpas yr Ardd. Roeddwn wedi monitro blychau nythu tri Thitw Tomos Las (Cyanistes caeruleus) sawl gwaith yr wythnos dros gyfnod o ryw ddeufis, ac yna euthum gydag Ellyn i fodrwyo’r cywion wedi iddynt ddeor a phan oeddent yn ddigon hen (cafodd pob aderyn ei drin a’i fodrwyo dan drwydded). Mae modrwyo adar yn creu cofnodion pwysig y gellir eu defnyddio wedyn i fonitro eu poblogaeth a’u dirywiad.


Rwyf wedi bod yn byw ar y safle, sy’n golygu fy mod wedi cael teithiau cerdded hyfryd i’r gwaith a chyfle i weld yr Ardd yn newid trwy’r tymhorau. Dyma ddetholiad o rai o fy hoff luniau ar y teithiau cerdded:

Rwyf wedi cael blwyddyn anhygoel gyda’r staff a’r gwirfoddolwyr hyfryd, a gobeithiaf ddychwelyd yn fuan!

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Ardd, yn enwedig i’r Tîm Gwyddoniaeth (Laura, El, Ellyn a Kevin) a’r Tîm Addysg, am y cyfle i fod ar leoliad, ac am holl gymorth pawb eleni!