21 Ion 2022

BIOSCAN yn yr Ardd Fotaneg

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Ydych chi wedi sylwi ar un o’r adeileddau pabell anarferol wedi’i sefydlu yng Nghae Trawscoed neu’r Ardd Ddeu-fur? Trapiau Malaise ydynt mewn gwirionedd, sef trapiau fel pabell sydd yn dal pryfed sy’n hedfan. Cafodd y trap Malaise ei ddyfeisio gan entomolegwr Swedaidd René Malaise ar ôl sylweddoli cafodd mwy o bryfed eu dal yn ei babell nag yn ei rwydi. Mae pryfed yn taro’r rhwyd ganol, yna’n hedfan i fyny gan gael eu sianeli i fyny i big y trap. Yna maent yn cael eu dal mewn potel llawn ethanol, sydd yn cadw’r sampl yn ffres. Mae gan y dull arolwg yma nifer o ddefnyddiau gwahanol, gan gynnwys monitro newidiadau tymhorol mewn digonedd a chynnal arolygon safle ar gyfer infertebratau. Yn wir, fe wnaeth y dechneg trapio Malaise effro grŵp o wyddonwyr o’r Almaen i’r disgyniad yn y biomas o bryfed a oedd wedi plymio gan 75% dros cyfnod o 27 mlynedd mewn 63 gwarchodfa natur yn yr Almaen. Yma, rydym yn sefydlu dau drap pob mis trwy gydol y flwyddyn er mwyn casglu pryfed fel rhan o’r prosiect BIOSCAN, sy’n cael ei redeg gan y Wellcome Sanger Institute.

Yma yn y Canolfan Gwyddoniaeth, rydym o hyd yn edrych am ffurf newydd ac arloesol i ddysgu mwy am y byd naturiol. Felly, pan wnaeth y Wellcome Sanger Institute cynnig i ni i gymryd rhan mewn astudiaeth peilot i brofi technegau archwilio infertebratau newydd, fe wnaethon ni neidio ar y cyfle!

Cafodd y Wellcome Sanger Institute ei sefydlu er mwyn cyfresi’r genom dynol, ac mae nawr yn ganolfan ymchwil a chydnabyddir yn fyd-eang, sydd yn ymgymryd â gwyddoniaeth genom graddfa-mawr, ac maent wedi cyfresi genomau cannoedd o rywogaethau am y tro cyntaf. Nawr, maent yn cymryd rhan mewn prosiect newydd byd-eang, o’r enw BIOSCAN, wedi ei lansio gan yr International Barcode of Life, sydd yn anelu i “chwyldroi ein dealltwriaeth o fioamrywiaeth ac ein gallu i’w rheoli,” gan ei wneud yn prosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono!

Mae pryfed yn bwysig iawn yn ecolegol, gan ddarparu nifer o wasanaethau ecosystem, gan gynnwys peilliad, rheolaeth pla a chylchred maetholion. Mae poblogaethau pryfed yn dirywio ar draws y byd, a meddylir bod 40% ohonynt dan fygythiad o fynd yn ddiflanedig, sydd yn peri ofer mawr ar gyfer iechyd dynol ac iechyd ecosystemau. Ond, nid oes system monitro fyd-eang er mwyn asesu digonedd pryfed, gan ei wneud yn anodd tracio dirywiad a dynameg pryfed yn gywir. Yn ogystal, amcangyfrifir bod 5.5 miliwn o rywogaethau o bryfed, gyda 90% ohonynt heb gael eu henwi eto. Gobaith y prosiect newydd yma yw defnyddio technegau DNA hygyrch er mwyn cynorthwyo darganfyddiad rhywogaethau newydd, dysgu mwy am ryngweithiadau rhwng rhywogaethau ac er mwyn archwilio cymunedau biolegol. Bydd hyn yn darparu system monitro effeithiol ar gyfer infertebratau daearol ledled y byd, gan gyflenwi gwybodaeth werthfawr ar eu dosbarthiad a rhyngweithiadau, yn enwedig mewn byd sy’n newid.

Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn un o ddeg safle yn y DU sydd wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y prosiect byd-eang yma, ac yr unig safle yng Nghymru! Caiff un trap ei sefydlu yn yr Ardd Ddeu-fur, a’r llall yng Nghae Trawscoed, yn yr un safle pob mis am gyfnod 24 awr. Ar ôl casglu’r sampl, rydym yn dechrau adnabod y sbesimenau, gan eu trosglwyddo i blât, lle mae pob pryfyn yn cael ei gadw ar wahân. Nid ydym yn entomolegwyr arbenigol, felly rydym yn gwneud ein gorau i adnabod bod pryfyn i lefel Urdd. Yr hawsaf i adnabod yw’r Diptera, oherwydd mae ganddynt bâr o halteri siâp pastwn, sef adenydd cefn wedi’u haddasu i sefydlogi’r pryfyn wrth hedfan. Ar ôl i bob pryfyn cael ei sortio mewn i dyllau ar wahân yn y plât (sydd yn ymddangos fel tasg ddiwedd yn yr haf pan mae yna gannoedd o bryfed i sortio), caiff y platiau eu danfon i Sanger ar gyfer prosesu.

Bydd Sanger yn casglu’r DNA o’r samplau yma a’u hadnabod gan ddefnyddio technegau metabarcodio, sydd yn defnyddio darnau genetig byr, safonedig sy’n ymddwyn fel ‘cod bar’ er mwyn adnabod y rhywogaeth o gronfa data cyfeirnod. Defnyddir y dull yma yn lle, yn ogystal â’r, dull traddodiadol o adnabod y rhywogaeth wrth edrych o dan ficrosgop, sydd angen entomolegwr arbenigol ac yn cymryd amser hir iawn i wneud. Mae DNA metabarcodio yn ddull cyfarwydd i’r Tîm Gwyddoniaeth yn yr Ardd, gan fod ymchwilwyr wedi bod yn defnyddio’r dechneg yma er mwyn adnabod rhywogaethau planhigion o samplau paill wedi’u casglu o wenyn a pheillwyr eraill er mwyn deall mwy am eu defnydd o adnoddau blodeuol. Bydd y dechneg yma o adnabod pryfed yn galluogi canfyddiad cyfansoddiad rhywogaethau mewn casgliadau mawr o bryfed, gyda dadansoddiad tacsonomaidd gwell, gan roi gwybodaeth am amrywiaeth a dosbarthiad rhywogaethau.

Mae’r prosiect uchelgeisiol yma yn aneli i fetabarcodio cydosodiadau o 2,000 o safleoedd gwahanol, a bydd yn cynnwys oleiaf 100 miliwn o sbesimenau, gyda miliynau o rywogaethau a disgwylir i gael eu darganfod. Yma yn yr Ardd, rydym yn lwcus iawn i fod yn rhan o BIOSCAN, gan osod sylfeini ar gyfer system biogwyliadwriaeth byd-eang a fydd yn tracio newidiadau biotig yn fyd-eang!

 

Cyfeirnodau

BIOSCAN, International Barcode of Life, Ar gael: https://ibol.org/programs/bioscan/

Hallmann et al. (2017) More than 75 percent decline over 27 years in total flying insect biomass in protected areas, PLoS ONE, Ar gael: https://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0185809&_ga=2.42103269.1751527880.1531267200-635596102.1531267200

van der Slujis (2020) Insect decline, an emerging global environmental risk, Current Opinion in Environmental Sustainability, Ar gael: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S1877343520300671

Sánchez-Bayo & Wyckhuysbcd (2019) Worldwide decline of the entomofauna: A review of its drivers, Biological Conservation, Ar gael: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0006320718313636