Oddi ar fis Gorffennaf 2023, rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous tair blynedd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddigideiddio ein casgliad hanesyddol o fflora Prydain ac Iwerddon. Oherwydd breuder cynyddol sbesimenau llysieufeydd am fod lleithder a phlâu yn tueddu i effeithio arnynt, mae’n bwysicach nag erioed digideiddio’r casgliadau pwysig hyn, a chyda thechnoleg esblygol gallwn wneud hynny!
Mae gan bob sbesimen yn y llysieufa label sy’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol i ddeall y casgliad. Mae’n cynnwys:
- Enw’r rhywogaeth planhigyn
- Lle cafodd ei chasglu
- Pryd y cafodd ei chasglu
- Pwy a’i casglodd


Yn rhan o’r broses ddigideiddio, rydym yn cipio’r wybodaeth hon trwy’r broses trawsgrifio (nid yw mor frawychus ag y mae’n swnio). Mae gennym wirfoddolwyr mewnol gwych sydd wedi bod yn ein helpu am y flwyddyn a hanner ddiwethaf i oresgyn y llwyth trawsgrifio, ond gydag 20,000 o sbesimenau i weithio trwyddynt, mae arnom angen help!
Dyma lle rydych chi yn bwysig. Rydym wedi ymuno â DigiVol, llwyfan digideiddio casgliadau amgueddfeydd sy’n cael ei gynnal gan Atlas of Living Australia a’i bweru gan wirfoddolwyr. Yma rydym yn lanlwytho swp o’n sbesimenau ac yn cael pobl o bob cwr o’r byd i’n helpu i ddehongli’r labeli Fictoraidd a ysgrifennwyd â llaw. Does dim rhaid i chi feddu ar unrhyw brofiad botanegol, dim ond brwdfrydedd ac ysgogiad i ddysgu a chyfrannu at y gwaith o’n helpu i agosáu at ein targed o wneud y casgliad gwych hwn yn hygyrch i bawb.


Gall trawsgrifio sbesimenau llysieufeydd fod yn ddiddorol, yn heriol, ac yn waith sy’n cydio yn rhywun. Gallwch eich ystyried eich hun yn dditectif bron. Mae’r Clwb Cyfnewid Botanegol, y gallwch ddarllen mwy amdano yn y blog hwn, wedi golygu bod gennym amrywiaeth o gasglwyr yn y casgliad hwn. Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i dros 200 o gasglwyr hyd yn hyn, o bob cwr o’r DU. Gall fod yn gipolwg diddorol ar fyd casglu botanegol y 19eg ganrif.
Trwy ddigideiddio’r casgliadau yma yn y llysieufa, rydym yn helpu i ddeall y poblogaethau planhigion hyn ac i ddiogelu ein treftadaeth fotanegol. Bydd yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd ac ymchwilwyr fel ei gilydd.
“Mae fy mhrofiad gyda DigiVol wedi bod mor ddiddorol nes fy mod wedi trawsgrifio dros 20,000 o sbesimenau llysieufeydd a gedwir yn ein gerddi botaneg cenedlaethol yn Kew, Caeredin a Chymru. Mae tiwtorial ar-lein DigiVol yn darparu’r holl gyfarwyddyd gofynnol i ddechrau heb unrhyw wybodaeth flaenorol am fotaneg.
Un elfen hwylus o ran DigiVol yw’r gallu i fewngofnodi ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos a thrawsgrifio faint bynnag o sbesimenau a ddymunwch. Mae sesiwn hanner awr yn fy ngalluogi i adnabod patrymau yn nata casgliadau ac yn cyflymu fy nhrawsgrifiadau.
Treuliais fy ngyrfa gyfan yn gweithio ym maes gwyddoniaeth, a ‘nawr fy mod yn fy saithdegau, mae DigiVol yn fy ngalluogi i barhau i gyfrannu at wybodaeth wyddonol. Mae Llysieufa James Cosmo Melvill yn arbennig o ddiddorol gan iddo gasglu ystod eang o blanhigion blodeuol gwyllt o bob cwr o’r DU ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, gan gynnwys rhai o ddyfnderoedd ei ardd ei hun yn Amwythig. Mae archwilio casgliad o blanhigion yn rhoi cipolwg ar fywyd ac amseroedd casglwyr planhigion. Roedd Melvill yn cynnwys aelodau o’i deulu yn ei ymgyrchoedd casglu, felly mae ei gart achau helaeth yn helpu i nodi pwy sydd wedi’u henwi ar ei labeli.”
Dyfyniad a ddarparwyd gan wirfoddolwr DigiVol
Mae yna ddau gam syml iawn i gychwyn eich taith DigiVol. Y cam cyntaf yw creu eich cyfrif, a gallwch wneud hynny yma:
Yna gallwch ddod o hyd i’n teithiau yma:
Cofiwch ddarllen y tiwtorial a ddarperir cyn i chi gychwyn fel y gallwch ddechrau heb unrhyw ddryswch!
Os cewch unrhyw broblemau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu â Gwyddoniaeth, El James:
Elinor.james@gardenofwales.org.uk
Diolch i chi am fod yn rhan o’n taith ddigideiddio. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau trawsgrifio’r sbesimenau rhyfeddol hyn gymaint ag yr ydym ni!
Mae prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yn digido ein llysieufa ac yn cael ei ariannu gan fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
