8 Awst 2025

Cyfnewidiau Botanegol: Esblygiad Cofnodi Planhigion

Anysia Padgett

Mae cofnodi biolegol yn golygu casglu data ar bresenoldeb a dosbarthiad organebau byw megis planhigion, anifeiliaid, pryfed a ffyngau. Gall unrhyw un greu’r cofnodion hyn, pa un a ydych yn arbenigwr, neu ddim ond â diddordeb ym myd natur. Mae’r cofnodion yn hanfodol ar gyfer cadwraeth gan eu bod yn creu ciplun o’r rhywogaeth mewn ardal y gellir ei ddefnyddio i olrhain newidiadau yn yr amgylchedd ac o ran amrywiaeth dros amser. Gellir cyflawni cofnodi biolegol yn unrhyw le, boed yn eich gardd neu allan ym myd natur.

Heddiw, gallwn ddefnyddio apiau megis iRecord a LERC i lanlwytho a rhannu lluniau, gwybodaeth am rywogaethau, a lleoliadau. Mae’r data cofnodi sydd gan Gymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon (BSBI) yn hanfodol ar gyfer ein dealltwriaeth o fflora Prydain ac Iwerddon ac i olrhain newidiadau.

Yn y 19eg a’r 20fed ganrif, defnyddid casgliadau llysieufeydd, cyfnodolion gwyddonol, a llythyrau i rannu a chofnodi fflora. Byddai sbesimenau’n cael eu casglu a’u disgrifio, ac yna gallai casglwyr anfon copïau at ei gilydd i gadarnhau rhywogaethau neu i rannu gwybodaeth am fflora lle penodol (gweler y llythyr). Mewn gwirionedd, dyma sut y dechreuodd y BSBI.

Llythyr gan aelod o Glwb Cyfnewid Botanegol Ynysoedd Prydain, Edward F. Linton, at Melvill. Mae Linton yn trafod sbesimenau a anfonodd at Melvill o Dorset a’r New Forest, yn ogystal â darn o waith cyhoeddedig diweddar ar helyg gwynion, ac mae’n gofyn am gymorth Melvill i gadarnhau ei hybridiau helyg.


 Yn 1836, aeth Cymdeithas Fotanegol Llundain ati i arloesi’r broses o gyfnewid sbesimenau llysieufeydd; roedd yr aelodau’n cadw casgliadau cyfeirio, yn cyfnewid copïau dyblyg ac yn anelu at gofnodi lleoliadau casglu manwl gywir er mwyn creu fflora sirol a chenedlaethol. Yna yn 1856, datblygodd y gymdeithas i fod yn Glwb Cyfnewid Botanegol Ynysoedd Prydain, a chyhoeddodd gyfnodolion i rannu ei ddarganfyddiadau a’i gofnodion biolegol diweddaraf. Yna, yn yr 1950au, newidiodd ei enw i’r BSBI. Erbyn hyn, y BSBI yw un o sefydliadau cofnodi biolegol mwyaf y byd: gan ddefnyddio ei chofnodion, mae’r gymdeithas yn creu atlasau cenedlaethol o ddosbarthiad planhigion a ddefnyddir mewn ymdrechion cadwraeth.

Mae casgliad hanesyddol ein llysieufa yn cynnwys sbesimenau gan aelod amlwg o Glwb Cyfnewid Botanegol Ynysoedd Prydain, sef James Cosmo Melvill (1845-1929). Mae’r casgliad yn cynnwys dros 30,000 o sbesimenau a gasglwyd gan Melvill a nifer o ddynion a menywod proffesiynol ac amatur eraill a oedd yn frwd dros gofnodi botanegol. Mae gan y sbesimenau hyn yn y llysieufa labeli casglu mewn llawysgrifen, ac maent yn cynnwys enw’r rhywogaeth, y lleoliad casglu, y dyddiad casglu, ac weithiau wybodaeth am y cynefin. Dyma’r union wybodaeth sy’n cael ei chasglu ar apiau heddiw a’i defnyddio gan sefydliadau megis y BSBI

Gan fod Melvill yn aelod o Glwb Cyfnewid Botanegol Ynysoedd Prydain, mae ein casgliad hanesyddol yn cynnwys cofnod cynhwysfawr o fflora brodorol Prydain ac Iwerddon, a gallwn ei ddefnyddio i arolygu ardaloedd â chofnodion o’r rhywogaethau hyn. Un enghraifft yw’r clychlys ymledol (Campanula patula), a gasglodd Melvill ac eraill ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Campanula patula yw un o blanhigion prinnaf Cymru ac mae’n rhywogaeth y mae’r Tîm Gwyddoniaeth wedi gwneud llawer o waith arni i helpu i’w gwarchod, a hynny gan ddefnyddio cofnodion modern a hanesyddol. Mae teithiau casglu hadau ar gyfer ein banc hadau, sef Banc Hadau Cenedlaethol Cymru, wedi golygu y gallwn ‘nawr dyfu’r rhywogaeth hon, sydd mewn perygl difrifol, yma yn yr Ardd, a diogelu’r hadau ar gyfer y dyfodol.

Llyfryddiaeth:

Marsh, L. Crynodeb o hanes y sefydliad(au) a esblygodd i ffurfio’r BSBI. https://bsbi.org/wp-content/uploads/dlm_uploads/2022/03/BSBI-potted-history.pdf

Mae prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yn digido ein llysieufa ac yn cael ei ariannu gan fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

This image has an empty alt attribute; its file name is Welsh_stamp_colour_PNG-1024x1024.png