Wrth i’r tymor casglu hadau ddod i ben, mae hwn yn amser perffaith i fyfyrio ar y gwaith bancio hadau y mae Tîm Gwyddoniaeth yr Ardd wedi’i gyflawni eleni. Bellach yn ei bumed flwyddyn, mae Banc Hadau Cenedlaethol Cymru yn tyfu’n gyson, gyda hadau’n cael eu cadw o amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion cyffredin a than fygythiad o bob cwr o Gymru.
Rydym hefyd wedi bod yn cyfrannu at brosiectau ailgyflwyno a chadwraeth cyffrous eleni – daliwch ati i ddarllen i ddysgu rhagor!
Casglu Hadau
Yn ôl ein harfer, rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Banc Hadau’r Mileniwm (MSB), ac wedi bod yn rhan weithredol o ddau o’u prosiectau eleni: Prosiect Casglu Hadau Coed y DU a’r fenter Perthnasau Gwyllt Cnydau. Mae’r ddau brosiect yn hanfodol i ddiogelu amrywiaeth enetig rhywogaethau planhigion brodorol gan eu bod yn sicrhau argaeledd hadau ar gyfer ymchwil a chadwraeth, ac i adfer rhywogaethau am ddegawdau i ddod.
Prosiect Casglu Hadau Coed y DU
Gan adeiladu ar lwyddiant Prosiect Hadau Coed Cenedlaethol y DU, nod menter eleni yw i gasglu hadau coed i lenwi bylchau o ran rhywogaethau a bylchau daearyddol mewn casgliadau sydd yn y banc. Mae’r prosiect hwn yn targedu cymysgedd o rywogaethau cyffredin, megis y Ddraenen Wen (Crataegus monogyna), y Ddraenen Ddu (Prunus spinosa), a’r Wernen (Alnus glutinosa), yn ogystal â rhai darganfyddiadau prinnach, megis y Gerddinen Wyllt (Sorbus torminalis) – dangosydd allweddol o goetir hynafol ac yn un sy’n fwyfwy prin yng Nghymru.
Un o’r heriau fu dod o hyd i safleoedd hyfyw sy’n bodloni canllawiau’r MSB; mae’r MSB yn argymell bod hadau’n cael eu casglu o goed sydd mewn coetir hynafol neu’n agos ato. Diolch i’r drefn, cawsom gymorth amhrisiadwy gan gysylltiadau lleol a botanegwyr o Gymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon, a bu iddynt ein tywys i safleoedd addawol.
Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, llwyddasom i gasglu hadau’r Ddraenen Wen, y Ddraenen Ddu, y Wernen a’r Llwyfen Lydanddail (Ulmus glabra) o safleoedd o amgylch Cilgerran a Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi.
Gan fentro ymhellach, bu i ni ymweld ag ardal Aber Mawddach yng Ngogledd Cymru, lle llwyddwyd i gasglu hadau Gwifwrnwydden y Gors (Viburnum opulus), y Ddraenen Wen, y Wernen a’r Gerddinen Wyllt o wahanol safleoedd.
Bu i ni hefyd archwilio arfordir Gŵyr am y Ferywen (Juniperus communis), a daethom o hyd i boblogaeth dda ohoni mewn mannau ar y clogwyni creigiog. Eto, er bod y llwyni’n bresennol, bu casglu hadau’r rhywogaeth yn her; oherwydd prinder conau a hadau isel eu hyfywedd, gorfu i ni ymatal rhag casglu oddi ar y Ferywen y tymor hwn. Dyna yw hynt a helynt casglu hadau – does dim modd gwybod yn iawn byth beth fydd canlyniad pob ymweliad maes. Gobeithiwn y bydd y set hadau’n gwella yn y blynyddoedd i ddod, gan alluogi i rai gael eu casglu.
At ei gilydd, bu i ni lwyddo i gywain naw casgliad o hadau coed y tymor hwn, a hynny o chwe rhywogaeth wahanol ac mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru.



Perthnasau Gwyllt Cnydau
Mae ein gwaith ar y prosiect Perthnasau Gwyllt Cnydau eleni wedi bod yn llwyddiant mawr gan i ni gywain 21 o gasgliadau a rhagori ar ein targed o 15 rhywogaeth!
Mae perthnasau gwyllt cnydau yn blanhigion gwyllt sy’n perthyn yn enetig i gnydau trin, ac maent yn cynnwys rhywogaethau porfa. Gan eu bod yn wyllt, maent yn cadw amrywiaeth enetig lawer iawn mwy, sy’n golygu eu bod yn werthfawr ar gyfer bridio cnydau gwydn a all wrthsefyll plâu, afiechyd, a heriau’r hinsawdd. Felly, mae casglu’r hadau hyn yr un mor hanfodol ar gyfer diogeledd bwyd ag ydyw ar gyfer cadwraeth.
Mae’r rhestr darged yn cynnwys rhywogaethau prin megis Meillionen y Gorllewin (Trifolium occidentale), y Feillionen Rychog (T. striatum) a’r Feillionen Arw (T. scabrum), ynghyd â rhywogaethau mwy cyffredin, yn enwedig gweiriau a meillion eraill. Bu i ni hyd yn oed gasglu rhai rhywogaethau yma yn yr Ardd Fotaneg, gan gynnwys Llyriad yr Ais (Plantago lanceolata) o Gae Trawscoed, a Letys Pigog (Lactuca serriola) a Mefus Gwyllt (Fragaria vesca) o’r tu allan i’r Ganolfan Wyddoniaeth!
Mae’r ymdrechion hyn yn golygu ein bod bellach wedi llwyddo i fancio 10% o fflora Cymru, a hynny o un boblogaeth o leiaf!


Y Camau Nesaf: Prosesu Hadau
Gyda’n tymor casglu hadau wedi dod i ben, rydym bellach yn troi ein sylw at brosesu yn y labordy. Mae hyn yn cynnwys glanhau pob casgliad, a gwahanu’r hadau oddi wrth yr us a’r malurion gan hidlo â llaw a defnyddio peiriannau allsugno. Ar ôl eu glanhau, mae’r hadau’n cael eu cyfrif, eu pwyso, eu gwirio o ran ansawdd a’u sychu, ac wedyn cânt eu storio yn y rhewgell. Hefyd, bydd hanner pob casgliad yn cael ei anfon i’r MSB i’w storio’n ddiogel yn eu cyfleuster tanddaearol, cyfleuster sy’n ddiogel rhag bomiau, llifogydd ac ymbelydredd!
Profion Egino

Yn ôl yn y Ganolfan Wyddoniaeth, rydym hefyd yn cynnal profion egino ar gasgliadau ein banc i asesu eu hyfywedd.
Mewn amgylchedd glân i atal halogiad, rhoddir yr hadau ar blatiau agar, sy’n darparu’r lleithder a’r maethynnau angenrheidiol. Yna caiff y platiau hyn eu symud i ddeorydd, lle mae lefelau’r tymheredd a’r golau yn cael eu rheoli i gyd-fynd â gofynion egino pob rhywogaeth. Mae’r broses egino yn cael ei monitro’n wythnosol nes nad oes mwy o hadau’n egino, a chyfrifir yr hyfywedd o hyn.
Hyd yn hyn, mae profion egino wedi cael eu cwblhau ar gyfer 15 o’n casgliadau banc, ac mae’r hyfywedd cyfartalog wedi bod yn 94%. Trwy barhau i fonitro’r casgliadau hyn, byddwn yn gallu tynnu sylw at unrhyw ddirywiad mewn hyfywedd dros amser. Fodd bynnag, gydag arferion storio gofalus (sef eu sychu i leithder cymharol o 15% a’u storio ar -20℃), disgwylir i’r rhan fwyaf o hadau bara am ddegawdau, hyd yn oed canrifoedd!
Prosiectau cadwraeth
Nid dim ond rhewi hadau ar gyfer y dyfodol yw unig ddiben y banc hadau – rydym hefyd yn defnyddio’r casgliadau a’r cyfleusterau i gynorthwyo prosiectau cadwraeth ac ailgyflwyno.
Tafol y Traeth (Rumex rupestris)
Nod un prosiect o’r fath, a arweiniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), oedd ailgyflwyno Tafol y Traeth (Rumex rupestris), sydd dan fygythiad byd-eang, ym Mae Dwnrhefn. Roedd y rhywogaeth hon wedi diflannu o’r ardal leol yn ddiweddar oherwydd erydiad a chwymp creigiau. Diolch i’r drefn, roedd hadau o’r boblogaeth hon eisoes wedi cael eu casglu a’u lluosogi yn yr Ardd Fotaneg cyn iddi ddiflannu, a defnyddiwyd yr hadau hyn i dyfu mwy o blanhigion ar gyfer y prosiect ailgyflwyno.
Ym mis Ebrill eleni, plannodd timau o’r Ardd Fotaneg, CNC ac Arfordir Treftadaeth Morgannwg 66 o blanhigion plwg Tafol y Traeth mewn safleoedd a ddewiswyd yn ofalus o amgylch Bae Dwnrhefn. Cofnodwyd union leoliad pob un, a bydd CNC yn parhau i’w monitro dros y blynyddoedd nesaf i bennu llwyddiant y boblogaeth a ailgyflwynwyd. Rydym yn obeithiol y bydd y cam ailgyflwyno hwn yn sicrhau dyfodol y rhywogaeth brin hon yng Nghymru!


Mwsogl Troellog (Tortula canescens)
Mae prosiect cadwraeth cyffrous arall yn ymwneud â Tortula canescens, sef mwsogl prin sydd bellach wedi’i gyfyngu i ddau leoliad yn unig yng Nghymru. Yn rhan o brosiect Natur am Byth!, ac mewn cydweithrediad â Plantlife, rydym wedi bod yn arbrofi gyda dulliau o dyfu’r rhywogaeth hon ex situ. Y nod yw hybu poblogaethau gwyllt yng Ngororau Cymru ym Mhowys.
I berffeithio ein technegau, bu i ni gynnal treialon gyntaf gan ddefnyddio’r Tortula subulata mwy cyffredin. Trwy arbrofi gydag amrywiol ddulliau sterileiddio pridd a gosodiadau deorydd gwahanol, canfuom fod y mwsogl yn tyfu orau mewn set ddeori ar 20°C a chyda 24 awr o olau. Ar ôl i ni fireinio’r broses, bu i ni gymhwyso’r dulliau hyn i’r sborau gwerthfawr a gasglwyd o T. canescens.
Mae’r rhywogaeth hon bellach yn tyfu’n dda yn y deorydd, a bydd y cam nesaf yn golygu treialu trawsblaniadau o’r mwsogl i ardaloedd yn yr Ardd Fotaneg er mwyn monitro eu llwyddiant mewn amodau naturiol. Yn y pen draw, nod y prosiect Natur am Byth! yw fod y planhigion a dyfwyd gennym yn cael eu plannu yn y gwyllt i gryfhau poblogaeth y Gororau.
Yn y cyfamser, mae staff Plantlife yn gwella’r safle gwreiddiol ar gyfer y rhywogaeth, gan arbrofi gyda chlirio prysgwydd a phori geifr i greu cynefin mwy ffafriol i gefnogi adferiad y mwsogl.



Parhau â’r Genhadaeth
Mae ein gwaith eleni yn amlygu natur foddhaus a heriol bancio hadau. Er ein bod yn gwneud cynnydd cyson tuag at ein nod hirdymor o fancio holl fflora Cymru, rydym hefyd yn defnyddio ein harbenigedd i gefnogi prosiectau cadwraeth yn uniongyrchol ar lawr gwlad. O storio hadau i ailgyflwyno planhigion a mwsoglau prin, mae’r banc hadau yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth gyfoethog Cymru.
Rydym yn llawn cyffro ein bod yn adeiladu ar yr ymdrechion hyn, gan ddiogelu fflora Cymru un hedyn ar y tro!
Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.
