Yn ddiweddar, fe wnes i raddio mewn Bioleg o Brifysgol Caerwysg, ac roeddwn yn gyffrous i ddychwelyd i’r Ardd Fotaneg er mwyn dechrau fy rôl newydd fel Cynorthwyydd Ymchwil a Chasgliadau Quentin Kay. Rwyf nawr wedi gorffen fy mhedwar mis cyntaf. Yn 2021-2022, fe wnes i dreulio blwyddyn fel Myfyriwr Gwyddoniaeth ar Leoliad fel rhan o fy ngradd, a wnaeth darparu profiadau ardderchog i fi, gan gynnwys casglu a phrosesu hadau a chasglu samplau Cylchlys Ymledol, Campanula patula, ar gyfer dadansoddiad genetig poblogaeth. Mae cael y cyfle i barhau gyda’r gwaith yma fel fy swydd gyflogedig cyntaf yn gyffrous, yn ogystal â pharhau rhodd botanegwr uwch ei glod o Abertawe, Quentin Kay.
Rwyf yn angerddol am natur a chadwraeth, a fy mhrif uchelgais yw cyfrannu at y frwydr yn erbyn colled bioamrywiaeth fyd-eang. Mae planhigion yn rhan hanfodol o bob ecosystem, felly mae gwarchod yr organeddau yma yn dyngedfennol ar gyfer iechyd y blaned gyfan.
Pwysigrwydd Banc Hadau Cenedlaethol Cymru
Mae ystadegau brawychus, fel Rhestr Data Coch Cymru sy’n amcangyfrif bod un mewn chwech o blanhigion y wlad yn wynebu difodiant, yn tanlinellu brys ein hymdrechion cadwraeth. Datgelodd prosiect Atlas Planhigion Cymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon 2020 fod 40% o rywogaethau planhigion yng Nghymru wedi lleihau yn eu dosbarthiad ers 1950. Mae bancio hadau yn arf hanfodol ar gyfer diogelu rhywogaethau planhigion a’u hamrywiaeth genetig ar gyfer y dyfodol. Trwy storio hadau yn y tymor hir, mae banciau hadau yn gweithredu fel polisi yswiriant, gan sicrhau bod hadau o darddiad amrywiol ar gael ar gyfer ymdrechion cadwraeth ac ymchwil yn y dyfodol.
Ein ffocws yw fflora Cymru, ac ar ddechrau 2023, roedd ein casgliad ym Manc Hadau Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 181 o dderbyniadau o 101 tacsa. Ond, mae llawer mwy i’w wneud.
Fy ngwaith more belled
Yn 2023 yn unig, gwnaeth yr Ardd 26 o gasgliadau hadau yn cynnwys 20 o rywogaethau gwahanol o safleoedd ledled Cymru fel rhan o Brosiect Banc Hadau’r Mileniwm, sef Fflora Dan Fygythiad y DU. Rhoddodd hyn dros 100,000 o hadau i ni eu glanhau, prosesu, cyfri a gwirio eu hansawdd, cyn cael eu storio yn y rhewgell, gan gyfrannu at ein hadnodd gwerthfawr o hadau a warchodir ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi bod yn brysur yn glanhau a phrosesu’r casgliadau hadau hyn, sydd wedi golygu llawer o hidlo â llaw a defnyddio’r peiriannau allsugno. Mae’n werth chweil cael hadau pur ar y diwedd, a selio’r pecynnau i’w storio’n ddiogel yn y rhewgell am flynyddoedd lawer i ddod.
Yn ogystal, rwyf wedi bod yn cynnal profion egino i asesu hyfywedd. Nid yw’r profion hyn wedi cael eu cynnal ar ein casgliadau wedi’u bancio o’r blaen, a fydd yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i hyfywedd ein hadau. Mae hyn bwysig iawn er mwyn casglu data cychwynnol i fonitro sut mae hyfywedd yn lleihau yn y degawdau i ddod. Hyd yn hyn, rwyf wedi sefydlu profion egino ar gyfer tair rhywogaeth o chwe chasgliad, gan ddefnyddio ein deoryddion i roi amodau egino addas i’r rhywogaeth. Mae’r rhywogaethau hyn yn cynnwys Helys Pigog, Salsola kali, Gludlys Gogwyddol, Silene nutans, sydd wedi dangos cyfraddau egino da, a’r Gegiden Pibellaidd, Oenanthe fistulosa, sydd newydd gael eu hau. Gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn yn gallu ymgorffori’r profion egino mewn i dyfu planhigion ar gyfer arddangosfa fflora Cymreig newydd yn yr Ardd Fotaneg.
Dull arall yr wyf wedi’i ddysgu ar gyfer asesu hyfywedd hadau yw profi tetrasoliwm, techneg sy’n gwahaniaethu rhwng hadau byw a hadau marw trwy staenio meinwe byw â lliw pinc bywiog. Cefais fy nghyflwyno i’r dull hwn yn ystod arddangosiad a drefnwyd gan Kevin McGinn, ein Curadur Banc Hadau a Llysieufa, ar gyfer Prosiect Morwellt gyda hadau morwellt. Ers hynny, rwyf wedi profi dwy rywogaeth ychwanegol yn llwyddiannus: Tafolen y Traeth, Rumex rupestris, a’r dyfrllys Potamogeton × griffithii.
Mae sicrhau cyflawnder a chywirdeb ein cofnodion banc hadau wedi bod yn agwedd bwysig arall o fy rôl, gan gynnwys diweddaru IrisBG, ein meddalwedd rheoli casgliadau, gyda’r holl ddogfennaeth berthnasol, fel ffurflenni caniatâd tirfeddianwyr a chaniatâd safleoedd cadwraeth. Cynhaliais wiriad stoc drylwyr o’r oergell a’r rhewgelloedd yn y Banc Hadau i sicrhau bod popeth mewn trefn, a bod yr holl gofnodion yn gyfredol ac yn gywir. Mae mynd i’r afael â defnyddio meddalwedd IrisBG hefyd wedi bod yn gromlin ddysgu serth, ond rwy’n hapus i ddweud fy mod bellach yn cael gafael ar bethau.
Rwyf hefyd wedi bod yn helpu i drefnu gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth, lle bydd y Tîm Gwyddoniaeth yn rhannu mewnwelediadau i’r Herbariwm a’r Banc Hadau, gan gynnwys gweithgareddau am fecanweithiau gwasgaru hadau. Byddaf hefyd yn rhoi cyflwyniad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan dynnu sylw at y gwaith effeithiol a wnaed yn fy rôl newydd.
Gwaith i ddod
Gan edrych i’r dyfodol, fy her nesaf bydd i gynllunio gwaith maes ar gyfer casgliadau hadau eleni, sy’n cynnwys nodi rhywogaethau targed, pennu’r safleoedd casglu hadau gorau a sicrhau caniatâd tirfeddianwyr a safleoedd cadwraeth. Byddwn yn cyfrannu at brosiectau sy’n cael eu rhedeg gan Fanc Hadau’r Mileniwm, gan gynnwys casglu hadau o amrywiaeth o rywogaethau coed brodorol, yn ogystal â gwneud casgliadau o berthnasau cnwd gwyllt. Mae gennym lawer o’r rhywogaethau yma yn yr Ardd Fotaneg yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd allan yn y maes ar deithiau casglu a gweld y planhigion hyn yn y gwyllt.
I grynhoi, mae fy nhaith fel Cynorthwyydd Ymchwil a Chasgliadau wedi bod yn gromlin ddysgu fawr yn ymchwilio i fyd planhigion ac yn cymryd camau cadwraeth weithredol i’w cadw. Rwy’n falch iawn i fod yn chwarae rhan i sicrhau parhad fflora Cymru am genedlaethau i ddod!
Mae Ellyn wedi ysgrifennu’r blog hwn ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain a Diwrnod Menywod Rhyngwladol Menywod fel rhan o brosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yr Ardd Fotaneg, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.