19 Tach 2020

Uchafbwyntiau o Banc Hadau Cenedlaethol Cymru

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Yn 2018, ymunodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru â Phartneriaeth Banc Hadau’r Mileniwm y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew, i helpu i lansio Banc Hadau Cenedlaethol Cymru. Bellach, wrth i Fanc Hadau’r Mileniwm ddathlu ei ben-blwydd yn ugain, mae ein banc hadau newydd wedi dod yn adnodd hanfodol ar gyfer gwarchod rhai o’r planhigion sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yng Nghymru.

Banc Hadau’r Mileniwm yw arweinydd y byd ym maes gwyddor hadau a gwarchod hadau, a, gyda’i gymorth, llwyddodd Dr Kevin McGinn, Swyddog Gwyddoniaeth Tyfu’r Dyfodol, i sefydlu ein banc hadau ein hunain. Gallwch ddarllen mwy yn y blog hwn am ei brofiad o sefydlu Banc Hadau Cenedlaethol Cymru a pham y mae banciau hadau yn adnodd mor hanfodol ar gyfer cadwraeth.

Ymunais â’r Ardd Fotaneg yn 2019 yn y rôl Cynorthwyydd Cadwraeth Caru Natur Cymru – rôl sy’n cynnwys casglu a bancio hadau planhigion glaswelltir a hadau sydd dan fygythiad yng Nghymru. Roeddwn yn ffodus iawn i gael treulio blwyddyn yn gweithio ym Manc Hadau’r Mileniwm ar leoliad yn ystod fy ngradd BSc, ac rwyf wrth fy modd i gael defnyddio fy sgiliau i helpu i warchod planhigion Cymru.

 

Pam yr aethom ati i greu Banc Hadau Cenedlaethol Cymru?

Mae Banc Hadau’r Mileniwm wedi casglu llawer iawn o rywogaethau gwyllt o bob cwr o’r byd a bron pob rhywogaeth o blanhigion yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, fel yr oedd yn 2018, nid oedd 75% o’n fflora brodorol wedi’u casglu o boblogaethau Cymru.

Mae bancio hadau o boblogaethau Cymru yn sicrhau bod hadau genetig amrywiol sydd wedi’u haddasu orau i gynefinoedd Cymru ar gael i’w cadw a’u hadfer.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn casglu hadau o rywogaethau sydd mewn perygl difrifol, a hynny o leoedd a chynefinoedd anhygoel.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Hadau’r Mileniwm am ddarparu hyfforddiant a chymorth technegol parhaus, ac am help arbenigwyr lleol, recordwyr Cymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon, a Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Dyma rai o uchafbwyntiau ein casgliadau:

 

Y tegeirian llydanwyrdd mawr – Platanthera chlorantha

Rydym wedi dod o hyd i lawer o’n casgliadau cyntaf o Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yn fferm weithio organig, ac yn frithwaith hyfryd o ddolydd a thir pori llawn blodau gwyllt. Mae gan y dolydd o amgylch y gwarchodfeydd amrywiaeth anhygoel o fflora, ac un o’r prif atyniadau yw’r tegeirian llydanwyrdd mawr.

Er ei fod yn ffynnu yn Waun Las, mae bellach yn olygfa anghyffredin ledled Cymru wrth i ddolydd gwair traddodiadol gael eu colli trwy ddulliau amaethyddol mwy dwys. Mae llawer o flodau gwyllt glaswelltir yn llai cyffredin nag yr oeddent yn arfer bod, gan eu gwneud yn flaenoriaeth uchel ar gyfer bancio hadau.

Felly, rydym wedi bod yn casglu amrywiaeth eang o rywogaethau glaswelltir o’n gwarchodfa, ynghyd â’r tegeirian llydanwyrdd mawr. Mae’r casgliadau hyn yn amddiffyn y rhywogaeth, ond gallwn hefyd ddefnyddio’r hadau ar gyfer prosiectau adfer neu ailgyflwyno o amgylch Cymru.

Eleni, rydym wedi dechrau menter newydd, sef hadau wedi’u cynaeafu’n gynaliadwy o Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, i sicrhau bod blodau gwyllt Cymru ar gael er mwyn i chi greu eich dôl eich hun gartref. Mae pob dim sy’n cael ei werthu yn helpu i ariannu gwaith elusennol yr Ardd Fotaneg, er enghraifft y banc hadau.

 

Gold y Môr – Galatella linosyris

Erbyn 2019, roedd Banc Hadau Cenedlaethol Cymru wedi’i sefydlu, ac roeddem yn barod i fentro allan ledled Cymru i ddechrau casglu rhai o’n rhywogaethau targed.

Yr haf hwnnw, trefnwyd taith gasglu i’r Gogarth, carreg frig galchfaen syfrdanol sy’n ymwthio allan i Fôr Iwerddon ger Llandudno. Mae’r cyfuniad o bridd tenau, prin ei faethynnau, a phori’r geifr fferal sy’n crwydro’r garreg frig, yn creu arddangosfeydd hyfryd o flodau gwyllt o’r gwanwyn hyd at yr hydref.

Yn ystod ein taith casglwyd rhai o’r arbenigwyr glaswelltir calchaidd cyffredin, gan gynnwys rhosyn y graig (Helianthemum nummularium) a’r gellast (Carlina vulgaris). Fodd bynnag, roeddem hefyd yn targedu preswylydd nad yw’n cael ei weld yn aml ar y Gogarth – gold y môr.

Ac yntau’n berthynas i lygad y dydd a dant y llew, mae gold y môr yn hoffi tyfu ar gopaon glaswelltog clogwyni a llethrau calchfaen. Mae’n blanhigyn sy’n blodeuo’n hwyr, ac sydd i’w weld mewn poblogaethau bach mewn lleoliadau arfordirol yn unig. Mae’r Gogarth yn gartref i’r boblogaeth fwyaf yng Nghymru, ond mae hefyd i’w weld mewn sypiau bach ar hyd arfordiroedd Sir Benfro a Gŵyr, lle mae yna laswelltiroedd tebyg ar ben y clogwyni.

Llwyddodd Dr Kevin McGinn a minnau i ddod o hyd i boblogaeth o gold y môr ar sgarp serth, lle roedd yn tyfu wedi’i gysgodi rhag yr elfennau – a chegau llwglyd geifr y Gogarth.

Gellir cael blas ar fflora’r Gogarth, gan gynnwys rhai o’r rhywogaethau yr ydym wedi bancio eu hadau, yn yr ardal ‘Cadw er mwyn ein Dyfodol‘ yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

Creigafal y Gogarth –  Cotoneaster cambricus

Mae’r Gogarth yn gartref i blanhigion endemig na ellir eu darganfod yn unman arall yn y wlad – un planhigyn o’r fath yw creigafal y Gogarth.

Mae’r Cambricus cotoneaster yn llwyn gnotiog nad yw wedi’i ddarganfod yn naturiol mewn unrhyw leoliad arall erioed, a dyma’r unig rywogaeth o greigafal sy’n frodorol i Brydain Fawr. Nid yn unig y

mae’n endemig, ond mae mewn perygl difrifol; ar un adeg dim ond chwe phlanhigyn gwreiddiol oedd ar ôl yn y gwyllt.

Ychwanegwyd 11 o blanhigion at y boblogaeth, a dyfwyd trwy amaethu. Fodd bynnag, mae’n dal i fod dan fygythiad o orbori a gan rywogaethau creigafal anfrodorol ymledol y gall groesi â nhw. Roedd Gardd Fotaneg Treborth yn ddigon caredig i roi casgliad, ac rydym wedi bod yn casglu ffrwythau o blanhigyn wedi’i drin yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, gan sicrhau goroesiad hirdymor y rhywogaeth fregus hon.

 

Crafanc yr Ŷd – Ranunculus arvensis

Ar un adeg yn olygfa gyfarwydd ar hyd a lled ein tirwedd, mae planhigion âr blynyddol bellach ymhlith y rhywogaethau o blanhigion sy’n diflannu gyflymaf yng Nghymru. Gan fod arferion ffermio wedi newid dros y 100 mlynedd ddiwethaf, mae planhigion megis melyn yr ŷd a phabïau, a oedd unwaith mor eang fel eu bod yn cael eu hystyried yn chwyn, bellach yn brin iawn.

Erbyn hyn, mae sawl rhywogaeth âr bron â diflannu’n llwyr yn y gwyllt, gan gynnwys nodwydd y bugail (Scandix pecten-veneris) a chrafanc yr ŷd (Ranunculus arvensis). Roeddem yn ffodus i gael dau gasgliad o’r rhywogaethau prin hyn wedi’u rhoi i Fanc Hadau Cenedlaethol Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dim ond mewn un cae ym Mro Morgannwg y ceir crafanc yr ŷd; fodd bynnag, mae’r boblogaeth hon bellach dan fygythiad gan waith datblygu. Cymerwyd camau i achub y boblogaeth olaf hon trwy ei thrawsleoli i safle newydd a bancio hadau o’r planhigion gwreiddiol. Mae’r hadau hyn wedi’u storio yn y banc hadau bellach, ac ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynllun i luosogi’r planhigion hyn a chynyddu nifer yr hadau.

 

Dibynlor tormaenaidd – Oenanthe pimpinelloides

Er gwaethaf yr anawsterau a achosodd pandemig COVID-19 i’r tymor gwaith maes, mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r banc hadau. Er bod y cyfyngiadau symud wedi ein hatal rhag gwneud unrhyw gasgliadau yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, aethom ati i droi ein sylw at rywogaethau sy’n gosod hadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Y rhywogaeth darged gyntaf oedd y dibynlor tormaenaidd, planhigyn prin â blodau gwyn, sy’n berthynas i’r foronen, ac sy’n tyfu cloron sfferig. Mae ganddo feinwe tebyg i sbwng, sy’n amgylchynu’r hadau bregus.

Mae’r dibynlor tormaenaidd yn weddol gyffredin mewn rhannau o Loegr, ond yng Nghymru mae wedi’i gyfyngu i Wastadeddau Gwent – tirwedd unigryw o gaeau gorlifdir, sydd â ffosydd a dyfrffyrdd yn ei chroesi. Ar y daith hon daeth Julian Woodman, Arbenigwr Planhigion Fasgwlaidd ar gyfer Adnoddau Naturiol Cymru, i ymuno â mi, ac mae ei wybodaeth am fflora Cymru heb ei ail. Mae aelodau teulu’r foronen yn hynod o anodd eu hadnabod, a gan fod angen i ni sicrhau bod ein casgliadau’n cael eu cofnodi’n gywir, roedd cael arbenigwr wrth law yn amhrisiadwy.

 

Y Benboeth Gulddail – Galeopsis angustifolia

Ym mis Medi, aeth Kevin ati i geisio casglu hadau’r benboeth gulddail o un o’r tair poblogaeth sydd wedi goroesi yng Nghymru, ar Gŵyr. Mae’r benboeth gulddail yn rhywogaeth fach ond tlws sy’n tyfu’n fwy cyffredin fel planhigyn âr blynyddol; fodd bynnag, mae ei niferoedd wedi dirywio’n enbyd yng Nghymru, gan ddilyn tynged debyg i rywogaethau âr eraill.

Mae’r poblogaethau yng Nghymru bellach yn goroesi ar draethau graean, fel Gŵyr. Fodd bynnag, mae bodolaeth y poblogaethau hyn yn ansicr iawn. Dim ond 270 o blanhigion a ddarganfuwyd ym mhoblogaeth Gŵyr yn 2019, ond casglodd Kevin oddeutu 200 o hadau (10% o’r hadau a oedd ar gael er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar adfywio). Yn Lloegr, mae prosiect Back from the Brink wedi bod yn gweithio i adfer y poblogaethau gyda chymorth casgliadau a wnaed gan Fanc Hadau’r Mileniwm. Wedi i ni fancio poblogaeth Cymru yn ddiogel, gallwn wneud ein rhan i helpu i warchod y rhywogaeth ledled y Deyrnas Unedig gyfan.

 

Maenhad Gwyrddlas – Lithospermum purpureocaeruleum

Casgliad arall i mi ei wneud eleni oedd y maenhad gwyrddlas, planhigyn coetir prin sydd i’w weld mewn cwpl o safleoedd ar hyd arfordir Sir Forgannwg. Mae’r maenhad gwyrddlas yn blanhigyn lluosflwydd ymgripiol a oedd yn tyfu i fyny clogwyn cylchlithredig, cysgodol.

Yn ystod yr haf, bydd y blodau’n newid o goch i borffor wrth iddynt ddatblygu, ac wrth i gemeg y celloedd ddod yn fwy alcalïaidd.

Mae’r enw ‘Lithospermum’ yn golygu ‘hadau cerrig,’ sy’n cyfeirio at ffrwyth y planhigyn. Mae gan y ffrwyth gapsiwl gwyn sgleiniog sy’n eithriadol o galed ac yn rhoi ei enw i’r rhywogaeth (yn y llun isod).