Wrth i’r Ardd Fotaneg ddathlu ei phen-blwydd yn 25 mlwydd oed, bu 2025 yn flwyddyn brysur a gwerthfawr arall i’r Tîm Gwyddoniaeth. Drwy gydol y flwyddyn, parhaodd ein gwaith i warchod fflora Cymru, wrth i ni deithio ledled y wlad i gasglu a bancio hadau o boblogaethau blodau gwyllt yn rhan o’n hymrwymiad hirdymor i ddiogelu fflora Cymru.
Ers ei sefydlu yn 2019, mae Banc Hadau Cenedlaethol Cymru wedi tyfu’n raddol, gyda’r tîm yn ceisio dod o hyd i rywogaethau â blaenoriaeth a chasglu hadau’n ofalus i’w storio fel rhwyd diogelwch allweddol ac adnodd cadwraethol i’r dyfodol.
Yn 2025 yn unig, casglwyd dros 200,000 o hadau o 25 o rywogaethau gwahanol ledled Cymru! Mae cyfanswm yr hadau a fanciwyd yn golygu bod 11% o fflora Cymru bellach wedi’u cadw’n ddiogel yn ein banc hadau — llwyddiant sylweddol wrth ystyried bod Cymru yn gartref i bron 1,500 o rywogaethau planhigion blodeuol.
Fel erioed, rydym wedi gweithio mewn cydweithrediad agos â Banc Hadau’r Mileniwm, gan ein bod wedi cyfrannu at ddau o’i brosiectau’r flwyddyn hon: Prosiect Casglu Hadau Coed y DU a Phrosiect Fflora dan Fygythiad y DU. Mae’r ddau brosiect yn hanfodol i ddiogelu amrywiaeth enetig rhywogaethau planhigion brodorol gan eu bod yn sicrhau argaeledd hadau ar gyfer ymchwil, cadwraeth, ac adferiad rhywogaethau am ddegawdau i ddod.
Cynllunio ar gyfer y tymor nesaf
Dechreuodd y flwyddyn yn yr un modd ag arfer — wrth y ddesg â digon o waith cynllunio. Drwy’r gaeaf a’r gwanwyn, buom yn edrych trwy gofnodion a mapiau, er mwyn ceisio penderfynu ar y safleoedd mwyaf addawol ar gyfer ein rhywogaethau targed. Unwaith yn rhagor, bu cysylltiadau lleol, tirfeddianwyr, a sefydliadau cadwraeth yn hynod werthfawr, wrth iddynt rannu eu gwybodaeth am leoliadau posibl a rhoi caniatâd i ni gael mynediad i’w tir. Rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb a fu’n helpu ac yn cefnogi ein hymdrechion i fancio hadau’r flwyddyn hon.
Wedi misoedd o ymchwilio, cynllunio gofalus, a rhai tripiau rhagchwilio i ddod o hyd i boblogaethau targed, dechreuodd y tymor casglu hadau ynghanol mis Gorffennaf, o’r diwedd. Aethom ati’n fwy lleol i ddechrau, wrth i ni ymweld ag ystod o safleoedd ar draws Sir Gaerfyrddin a Morgannwg, cyn i waith maes yr haf brysuro.
Sicrhau amseru cywir yw un o’r pethau mwyaf allweddol wrth gasglu hadau. Yn ddelfrydol, rydym yn casglu’r hedyn wedi iddo aeddfedu’n llwyr — wrth iddo ddechrau cwympo o’r planhigyn yn naturiol. Gall casglu’n rhy gynnar olygu nad yw’r hedyn wedi aeddfedu nac yn hyfyw; gall ei adael yn rhy hwyr olygu nad oes unrhyw beth ar ôl i’w gasglu o gwbl. Mae’r tymheredd a’r tywydd yn chwarae rhan bwysig o ran pa mor gyflym y mae planhigion yn blodeuo a hadau’n datblygu, felly gall sicrhau’r amseru perffaith fod yn heriol.
I le buom yn mynd a’r hyn fuom yn ei gasglu
Mynyddoedd Du, Sir Gaerfyrddin
Un o’r safleoedd mwyaf llwyddiannus ar gyfer casglu hadau’r flwyddyn hon oedd Chwarel y Mynydd Du ym Marc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; buom yno ddwywaith yn chwilio am dair rhywogaeth darged wahanol. Daethom o hyd i’r Tormaen Llydandroed yn ffynnu wrth droed clogwyni’r chwarel a’r llethrau sgri. Wrth i ni gasglu llus llawn sudd, roedd ein bysedd wedi’u staenio’n borffor. Ar ddiwrnod rhewllyd ddiwedd Tachwedd, aethom yn ôl i wneud rhagor o waith maes i gasglu hadau Grug, sy’n blodeuo ac yn bwrw ei hadau dipyn yn hwyrach. Dyma dri chasgliad llwyddiannus o hadau o un safle gwerthfawr iawn!

(Saxifraga hypnoides)


Maenhad Gwyrddlas
Uchafbwynt arall oedd ein hymweliad ag Arfordir Southerndown i gasglu’r Maenhad Gwyrddlas, rhywogaeth sydd dan fygythiad yng Nghymru. Mae ei flodau porffor prydferth i’w gweld ym mis Mai a mis Mehefin. Erbyn i ni ymweld â’r safle ganol mis Awst, roeddent wedi datblygu ac aeddfedu’n hadau gwyn, sgleiniog â hadgroen caled iawn — amseru perffaith ar gyfer casglu.
Fodd bynnag, datgelodd profion torri yn y maes fod nifer o’r hadau’n wag. Ar ôl dod o hyd i rai hadau oedd yn llawn ac yn iach, aethom ati i barhau â’r casgliad, gan ofalu peidio â chasglu mwy na’r terfyn 10% rydym yn ei ddilyn ar gyfer poblogaethau bach. Talodd ein gwaith ar ei ganfed a chawsom gasgliad o dros 500 o hadau iach, gan ychwanegu rhywogaeth werthfawr arall sydd dan fygythiad at gasgliad ein banc hadau.



Crwynllys y Rhos
Roeddem yn llawn cyffro i gasglu un planhigyn yn arbennig, sef Crwynllys y Rhos — planhigyn prin mewn corsydd asidig a rhostiroedd gwlyb, sydd bellach i’w ganfod mewn ychydig safleoedd ar Ynys Môn yn unig. Daeth tirfeddianwyr i gwrdd â ni a’n tywys i boblogaeth ysblennydd o gannoedd o flodau Crwynllys y Rhos glas golau, siâp trwmped.
Ar un adeg, bu galw mawr am y rhywogaeth garismatig hon ymhlith casglwyr planhigion Fictoraidd. Yn ein llysieufa hanesyddol, mae sawl sbesimen a gasglwyd yn 1891 — o safle sy’n agos iawn at y lleoliad hwn — yn cynnwys mwy nag 20 o blanhigion unigol wedi’u gwasgu ar un ddalen. Roedd dychwelyd i’r un ardal i gasglu hadau fwy na chanrif yn ddiweddarach wedi gwneud y foment hon yn un arbennig o ingol. Mae’r boblogaeth yn ffynnu, sy’n galonogol iawn, a llwyddasom i gasglu bron 30,000 o hadau heb beryglu gallu’r planhigyn i atgenhedlu yn y gwyllt.



Coed a Llwyni
Un o gasgliadau mwyaf heriol y flwyddyn oedd y dasg o gasglu Afalau Surion o safle rhyfeddol yng ngogledd Cymru. Bu’r tîm yn casglu hadau o 20 coeden unigol ar draws y safle mawr, gan gario 20 kg o afalau ar eu cefnau i’r car — roedd y llwybr yn mynd ar i lawr drwy’r siwrnai yn ôl, diolch i’r drefn!
Yr ail rywogaeth goed ar ein rhestr darged oedd y Gelynnen. Mae ei aeron coch golau yn arwydd adnabyddus bod y Nadolig ar ddod. Trodd yr hyn a ddechreuodd fel trip rhagwilio sydyn yn Aber Mawddach, ger Dolgellau, yn gasgliad digymell, pan ddaethom o hyd i aeron a oedd wedi aeddfedu’n gynnar ac yn barod i’w casglu ganol mis Medi. Ledled y wlad, roeddem wedi sylwi bod nifer o ffrwythau ac aeron wedi aeddfedu’n gynharach nag arfer yn 2025, o ganlyniad i’r tywydd cynnes estynedig dros yr haf, o bosibl.
Roedd y Ddraenen Ddu yn rhywogaeth arall a gasglwyd yn gynharach na’r disgwyl, a hynny ar safle cyfagos ar hyd Llwybr Mawddach. Ar ôl cael trafferth dod o hyd i lwyni addas a oedd yn dwyn ffrwyth yn yr ardal yn 2024, roedd dychwelyd yn 2025 i ganfod planhigion yn llawn eirin surion bach yn rhyddhad. Roedd y casgliad a gafwyd o ganlyniad hyd yn oed yn fwy boddhaol ar ôl dwy flynedd o ymdrechion i sicrhau hadau o’r rhywogaeth hon.



Prosiectau Cadwraeth
Rydym hefyd wedi bod ynghlwm wrth brosiectau cadwraeth gwahanol yn 2025, gan ddefnyddio ein casgliadau, ein cyfleusterau, a’n harbenigedd i hwyluso ymchwil a chadwraeth weithredol yn achos poblogaethau gwyllt.
Tlysau Mynydd Eryri
Mae’r timau Garddwriaeth a Gwyddoniaeth wedi bod yn cydweithio i dyfu deunydd ar gyfer y prosiect Natur am Byth! Tlysau Mynydd Eryri mewn cydweithrediad â Plantlife a Gardd Fotaneg Treborth. Bwriad y prosiect yw gwarchod cynefinoedd ac achub rhywogaethau planhigion blodeuol mynyddig, rhedyn, a choed yn Eryri. Tyfwyd planhigion yn y twneli polythen, a bydd casgliadau o’r banc hadau a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yn cael eu defnyddio’n uniongyrchol i dyfu deunydd ar gyfer y prosiect hwn.
Gold y Môr
Yn 2025, roeddem hefyd yn ffodus i allu croesawu aelod o staff dan hyfforddiant o’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn rhan o’n prosiect Natur am Byth!. Mae Amy Burchmore wedi bod gyda ni ers mis Ebrill 2025, ac mae wedi bod yn brysur yn lledaenu planhigion Gold y Môr, sydd dan fygythiad o ddifodiant ac sydd i’w cael mewn tri lleoliad yng Nghymru yn unig.
Cafodd arbrofion croesbeillio eu gwneud ar flodau o dair poblogaeth wahanol (Gŵyr, Sir Benfro, a’r Gogarth yn Llandudno) i weld a fyddent yn bwrw hadau’n well. Os caiff hadau hyfyw eu cynhyrchu’n llwyddiannus trwy groesbeillio, gall y rhain gael eu defnyddio i dyfu mwy o ddeunydd planhigion i ychwanegu at y poblogaethau sydd eisoes yn bodoli ar y safleoedd.
Mwsoglau prin
Rydym hefyd wedi parhau i dyfu dwy rywogaeth brin o fwsogl, Tortula canescens a Bartramia stricta, yn rhan o brosiect Natur am Byth! Gororau Cymru mewn cydweithrediad â Plantlife.
Mae’r ddwy rywogaeth wedi bod yn tyfu’n dda yn y deorydd yn y labordy, ac maent bellach wedi cael eu plannu yn yr Ardd Glogfeini er mwyn gweld sut y maent yn gwrthsefyll cael eu trawsblannu i amodau mwy naturiol. Bwriad cam nesa’r prosiect yw plannu’r deunydd yr ydym wedi’u tyfu yn y gwyllt i gryfhau’r poblogaethau yn y Gororau.


Un Flwyddyn, 25 Rhywogaeth
Mae edrych yn ôl ar gyflawniadau’r flwyddyn wir wedi tanlinellu’r cydweithrediad a’r ymrwymiad sy’n ofynnol i wneud ein gwaith yn bosibl. O dirfeddianwyr i arbenigwyr lleol a rannodd eu gwybodaeth ac a roddodd groeso i ni ar eu tir, i sefydliadau partner, staff dan hyfforddiant a chyd-weithwyr ar draws yr Ardd, mae holl lwyddiannau’r flwyddyn hon wedi’u selio ar gydweithrediad. Mae arnom angen help pawb i gadw a gwarchod amrywiaeth planhigion gwerthfawr Cymru!
Edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith a gweld pa anturiaethau casglu hadau sydd i ddod yn 2026…
Os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith a gweld y Banc Hadau ar waith, ymunwch â ni am daith y tu ôl i’r llenni o’r Banc Hadau a’r Llysieufa. Dysgwch fwy ac archebwch docynnau drwy’r ddolen isod:
Mae prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yn digido ein llysieufa ac yn cael ei ariannu gan fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
