22 Rhag 2025

Dylunio Dôl

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Pedwar mis yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fel Artist Preswyl ar brosiect Llysieufa Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol – gan Lily Tiger

Ddechrau mis Gorffennaf, dechreuais fy nghyfnod preswyl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Roedd derbyn y cynnig yn gyfle hynod gyffrous. Pan oeddwn i’n blentyn, byddwn yn ymweld â’r gerddi gyda’r teulu. Mae gennyf atgofion melys o ddilyn brigau a dail i lawr y nant a rhedeg o amgylch y tŷ gwydr gyda’m chwiorydd, er mwyn dod o hyd i’n brawd coll, Sioni Brigyn … (rydyn ni’n dal i chwilio, sori dad!). Heb os, roedd fy niwrnod cyntaf yno fel pe bawn i’n camu’n ôl i’m plentyndod!

Ymgeisiais am y cyfle ar gefn prosiect arall ar Ynys Enlli fis Medi diwethaf, lle roeddwn yn cydweithio â hen ffrind ysgol, y biolegydd a’r meddyg llysieuol, Sophia Goard. Wrth ddewis hen lyfr botanegol ar hap, a oedd yn cynnwys rhestr o enwau Saesneg, Lladin a Chymraeg ar blanhigion Cymru, cefais fy ysbrydoli gan gyfoeth a manylder y broses o enwi planhigion rhanbarthol. Yn ystod cyfres o weithdai cyfranogol a synhwyraidd, cafodd y cyfranogwyr gyfle i greu enwau newydd ar blanhigion, gan ysgogi cysylltiad personol a thacsonomeg enwi ddychmygus.

Roedd cydweithio â’r Gardd yn gyfle i ymchwilio ymhellach i enwau planhigion Cymru, gan weithio gyda chasgliad helaeth y llysieufa o 30,000 o blanhigion gwasgedig. Roeddwn yn arbennig o awyddus i archwilio’r rhywogaethau sy’n diflannu: Beth mae’r enwau Cymraeg neu Saesneg yn ei ddweud wrthym am eu rolau ecolegol neu eu harwyddocâd diwylliannol? Pwy sy’n cofio amdanynt? Pa blanhigion sydd wedi’u disodli? Pa ddiben sydd i enwi rhywbeth nad yw bellach yn bodoli?

Fel sy’n gyffredin i lawer o brosiectau creadigol, newidiodd amlinelliad yr ymchwil wrthi i mi dreulio mwy o amser yn yr Ardd, gan ddysgu wrth draed y cadwraethwyr, y garddwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio yma, ac archwilio hanesion y safle. O blasty a thir ystâd yr 17eg ganrif, i ffermydd dan berchnogaeth y cyngor yn yr 1930au, ac yna’n ardd fotaneg gyfoes a gwarchodfa natur erbyn y 2000au. Dyma’r math o wybodaeth a olchodd drosof pan oeddwn yn blentyn, ond eto a daniodd gyffro am ymateb yn fwy penodol i’r lleoliad.

Byddai ymchwilio i enwau planhigion Cymru yn orchwyl hirdymor yn rhan o’m hymarfer creadigol – tasg i’w chwblhau fesul tipyn dros y blynyddoedd i ddod. Ond, am y tro, roeddwn am weithio yn y presennol gan ymateb yn uniongyrchol i’r Ardd ei hunain. Roedd Anysia, sy’n fyfyrwraig ar leoliad yn yr Ardd, wedi dweud wrthyf am ymwneud â phopeth posibl yma. Dyna gyngor y bu i mi ei ddilyn, heb os. I mi, roedd yr haf fel gwersyll gwyddoniaeth i oedolion!

“Mae gallu cerdded trwy ddolydd blodau gwyllt brodorol yn brofiad anarferol iawn i erddi botaneg”

Pan gyrhaeddais ym mis Gorffennaf, roedd dolydd Trawsgoed a Waun Las yn llawn bwrlwm pryfaid a blagur bendigedig y Bengaled, y Gribell Felen, Pysen y Ceirw a Ffacbysen y Berth, ymhlith planhigion eraill. Mae gallu cerdded trwy ddolydd blodau gwyllt brodorol yn brofiad anarferol iawn i erddi botaneg. Roedd cymryd rhan yn y Gŵyl BioBlitz yn gyfle gwych i archwilio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las a dysgu mwy am dechnegau cofnodi bioamrywiaeth. Wrth fonitro’r rhywogaethau dolydd, fe wnaeth y Gribell Felen ennyn fy niddordeb yn arbennig fel perlysieuyn lled-barasitig y cyfeirir ato fel ‘gwneuthurwr dolydd’ gan Laura, un o’r Tîm Gwyddoniaeth.

Gan fod yr haf eleni wedi bod yn un heulog dros ben, dechreuodd sawl peth fynd i had ychydig yn gynharach nag arfer. Gwyliais flodau’r Gribell Felen yn troi’n gapsiwlau hadau swnllyd, tebyg i lusernau papur. Yna, roeddwn am greu fy llusern fy hun. Gofynnais i Matt dorri ychydig o’r helygen ger cae chwarae’r plant, ac arbrofais gyda gwahanol siapiau’r pennau hadau, gan daenu’r papur dros y ffurfiau… gyda’r egin syniad o daflunio delweddau a ffilmiau o’r gwaith ymchwil ar y ffurfiau hyn maes o law.

Wrth siarad â thîm y Ganolfan Wyddoniaeth, datgelwyd rhagor o wybodaeth am borfeydd toreithiog o rywogaethau, a’r modd y mae’r niferoedd wedi gostwng ers cychwyn amaethyddiaeth ddiwydiannol; gostyngiad o 97% ers yr 1930au. Roeddwn yn awyddus i ddarganfod rhagor, ac yn meddwl tybed a allai’r Gribell Felen fod yn symbol o’r sgwrs am gadwraeth, a’r galw am dir ar gyfer cynhyrchu bwyd a hyfywedd economaidd i ffermwyr. Roedd yna rywbeth am natur led-barasitig y planhigyn i fodoli mewn mwy nag un lleoliad a oedd yn adleisio yn nadleuon ehangach ei gymeriad. Mewn ymdrech i glywed mwy am y problemau o ran cydymffurfio â rhai o’r deddfwriaethau amgylcheddol, cyfwelais â ffermwr lleol a ddechreuodd ei yrfa ar un o’r hen ffermydd ar y safle.

Roedd gwrando ac atgyfnerthu yn rhan fawr o’m proses yn yr Ardd. Dyma gyfnod o gasglu ac ymresymu, gyda ffocws arbennig ar y stori y tu ôl o’r ddôl. Wrth feddwl am y dolydd sy’n clustogi’r tŷ gwydr, meddyliais i ba raddau y mae eu cymeriad gwyllt yn herio’r syniad beth y dylai gardd “daclus” fod. Wrth weithio gyda’r Tyfwyr Byw’n Dda, grŵp o bobl sy’n gwella yn dilyn anaf i’r ymennydd a salwch niwrolegol, dysgais sut mae garddio’n cefnogi’r broses o ailddysgu sgiliau echddygol ac yn helpu i ailystyried syniadau am adferiad llinol. Yn y cyd-destun hwn, daeth y gwrthgyferbyniad rhwng y dolydd a thaclusrwydd yr ardd furiog i fod yn drosiad ar gyfer ysgwyd syniadau caeth am drefn, a chreu gofod ar gyfer ffyrdd eraill o feddwl. Fesul pâr, aethom ati i lunio llusernau pennau hadau, a gwasgu blodau o’r tomenni compost ac o doriadau dolydd y blodau gwyllt.

Ar yr un pryd,  treuliais fwy o amser yn y dolydd, a phan gafodd y glaswellt ei dorri ddechrau mis Medi, cefais chwip o syniad! Meddyliais a oedd modd i mi wneud papur o doriadau’r dolydd (ar ôl i’r hadau gael eu hidlo), fel cofnod amgen o ddolydd gwair y flwyddyn hon. Daeth yr wythnosau nesaf i fod yn gyfnod arbrofol, wrth i mi archwilio sut i wneud darnau mawr o bapur o’r deunydd.

Adeiladais fowld a decl 1×1 metr, ac arbrofi gyda thanc dyfrllys a dau bwll padlo bach gwahanol i ddal y pwlp. Cefais fenthyg pot enfawr o’r gegin i helpu i dorri’r ffeibrau i lawr. Es ati i ddinistrio cymysgwr llaw, prynu dyfais frawychus ac iddo lafn troellog (a oedd yn dda i ddim), ac ailbwrpasu gridiau plannu fel rhac sychu. Ar ôl gwylio sawl fideo YouTube, defnyddiais sudd ocra i rwymo’r cwbl, a thwriais am bapur gwastraff ym miniau’r swyddfa i gryfhau’r pwlp. Yn y pen draw, roeddwn wedi troi cefn ar y mowld yn gyfan gwbl. Daeth datrysiad arall i’r amlwg trwy i mi wasgu cymysgedd y ddôl yn syth ar y gridiau – yn debycach i papier-mâché neu adeiladu clom na dull gwneud papur traddodiadol.

Roeddwn yn awyddus i wybod a fyddai’r papur yn egino. Er mwyn efelychu tymheredd a golau’r gwanwyn, es i ac Ellyn ati i osod y taflenni sych yn y deorydd. Fel hud a lledrith – trodd y sgwariau papur yn welyau hadau: dôl yn tyfu o’r ddôl. Mewn ffordd braidd yn artiffisial, roedd y broses yn adleisio egwyddorion gwair gwyrdd: defnyddio toriadau llystyfiant i ailhadu tir.

 “Dysgais fod tir, yn ecolegol, bob amser yn symud tuag at fod yn goedwig; heb lysysyddion mawr yn pori, byddai dolydd yn dychwelyd i goetiroedd. Mewn gwirionedd, mae ymyrraeth ddynol – fel arfer trwy bori neu gynaeafu gwair – yn cynnal bioamrywiaeth yn hytrach na’i difa.”

Roedd sgyrsiau â’r Tîm Gwyddoniaeth wedi newid fy ffordd o feddwl am “wylltni.” Dysgais fod tir, yn ecolegol, bob amser yn symud tuag at fod yn goedwig; heb lysysyddion mawr yn pori, byddai dolydd yn dychwelyd i goetiroedd. Mewn gwirionedd, mae ymyrraeth ddynol – fel arfer trwy bori neu gynaeafu gwair – yn cynnal bioamrywiaeth yn hytrach na’i difa. Mae’n awgrymu nad yw bodau dynol, yn eu hanfod, yn aflonyddu ar natur, ond eu bod yn hytrach yn rhan o’r system wrth iddynt siapio a chynnal glaswelltiroedd cyfoethog mewn rhywogaethau.

Yn hanesyddol, mae’r stori’n atgyfnerthu hyn: yn dilyn yr oes iâ ddiwethaf, dechreuodd mwsoglau a phlanhigion arloesol gytrefu tir a oedd wedi dod i’r golwg o’r newydd; datblygodd porfeydd, perlysiau a hesg dros amser. Ehangodd porfeydd Ewropeaidd, gyda’u cyfoeth amrywiol o rywogaethau, ochr yn ochr ag amaethyddiaeth gynnar 6,000 o flynyddoedd yn ôl, pan ddechreuodd pobl glirio coetiroedd. Cafodd y cynefinoedd hyn eu cynnal gan ffermio dwysedd isel am filoedd o flynyddoedd: pori, torri, a chynaeafu gwair.

Mae’r arddangosfa yn frodwaith o’r holl ymchwil. Yn y canol, mae yna ddarn mawr 1×1 metr o bapur y ddôl wedi’i atgyfnerthu a’i hau â hadau blodau gwyllt. Mae hwn yn adlewyrchu’r cwadratu a ddefnyddiwyd ar gyfer samplu bioamrywiaeth yn y dolydd yn yr oriel, bydd y papur yn ffurfio “dôl sy’n arnofio” wrth i’r hadau egino a thyfu a’i droi’n arlliw o wyrdd. Oddi tano, mae yna gweddillion o doriadau’r ddôl heb eu prosesu fel atgof o’r hyn a fu.

O gwmpas muriau’r oriel, mae yna ddarnau eraill o bapur sy’n cyfateb i bapur llysieufa traddodiadol. Bydd y rhain yn cynnwys argraffiadau boglynnog amryw o flodau gwyllt y ddôl trwy’r tymhorau.

I gyd-fynd â’r gwaith, mae yna raglen ddogfen sain sy’n cydblethu’r sgyrsiau ag arbenigwyr ar ddolydd, cadwraethwyr, a ffermwyr, gan gynnig cyd-destun i’r prosiect a’r cwestiynau sy’n deillio ohono.

Mae’r arddangosfa i fod i’w gweld yn yr Ardd yn Oriel yr Ardd o Ionawr 8fed i 18fed 2026. Mae manylion yr arddangosfa i’w gweld drwy glicio yma.

Ar y 9fed o Ionawr am 11yb bydd hefyd trafodaeth Holi ac Ateb anffurfiol rhwng Lily ac El James, Swyddog Ymgysylltu Gwyddoniaeth yr Ardd, yn myfyrio ar gyfnod Lily yn yr Ardd ac yn archwilio’r dulliau a’r syniadau a luniodd ddatblygiad ei chysyniad terfynol.

Gyda diolch i HOLL dîm yr Ardd Fotaneg, o’r Ganolfan Wyddoniaeth i’r twneli polythen, y gwirfoddolwyr a’r fferm, a hynny am oddef fy nghampau gwirion wrth i mi adael darnau o borfa ac aroglau rhyfedd yn y Ganolfan Wyddoniaeth.


Mae prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yn digido ein llysieufa ac yn cael ei ariannu gan fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

This image has an empty alt attribute; its file name is Welsh_stamp_colour_PNG-1024x1024.png