12 Tach 2025

Gŵyl BioBlitz 2025: Penwythnos o Gofnodi Bywyd Gwyllt

Ellyn Baker

Ar benwythnos heulog ym mis Gorffennaf eleni, cynhaliwyd ein Gŵyl BioBlitz gyntaf erioed yn yr Ardd Fotaneg – digwyddiad cyffrous 48 awr gyda’r nod o gofnodi cynifer o rywogaethau â phosibl. Bu i ni groesawu arbenigwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr i’r Ardd, gan ddod â dros 25 o sefydliadau cadwraeth o bob cwr o Gymru ynghyd. Roedd yn benwythnos i’w gofio, yn llawn cofnodi, ac yn ddathliad mawr o fywyd gwyllt a chadwraeth Cymru!

Roedd y BioBlitz yn ras yn erbyn amser i ddod o hyd i gynifer o rywogaethau â phosibl a’u cofnodi dros y 48 awr er mwyn creu ciplun o’r fioamrywiaeth yma yn yr Ardd Fotaneg. Cyflwynwyd y cofnodion trwy ap LERC Cymru, gyda’n canolfan gofnodion leol, Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (WWBIC), wrth law i goladu cofnodion a chynorthwyo gydag ymholiadau.

Dysgwch ragor am gofnodion biolegol, a’r modd y gallwch gyflwyno cofnodion yma.

Ciplun o’r Cofnodion

Bu i lu o gofnodwyr arbenigol ac amatur ein helpu trwy nodi a chofnodi bywyd gwyllt ar draws ystod o grwpiau tacsonomaidd – o blanhigion ac anifeiliaid, yr holl ffordd i lawr at ffyngau microsgopig. Cyflwynwyd cyfanswm o 999 o gofnodion biolegol, a oedd yn cynrychioli dros 486 o dacsonau gwahanol. Mae hynny’n golygu bod dros 12% o’r holl fioamrywiaeth a gofnodwyd yn flaenorol ar y safle wedi cael eu gweld mewn dim ond 48 awr!

Cofnodion Newydd

Cawsom gofnod o 77 o dacsonau a oedd yn newydd i’r safle – rhywogaethau nad ydynt erioed wedi cael eu cofnodi yn yr Ardd o’r blaen.

Ymhlith y rhain yr oedd 17 o gofnodion o ffyngau a 39 o gofnodion o bryfed a oedd yn newydd i’r safle. Mae’r niferoedd hyn yn debygol o gynyddu wrth i arbenigwyr barhau i adnabod a chofnodi sbesimenau a gasglwyd ganddynt. Felly, gallai fod yna rai rhywogaethau newydd cyffrous sydd eto i’w nodi!

Yn fwyaf nodedig, cynhyrchodd yr ŵyl record sirol newydd: Gwenynen Dorchlym y Rhych (Lasioglossum malachurum), rhywogaeth gwenyn nad yw erioed wedi cael ei chofnodi yn Sir Gaerfyrddin o’r blaen, a dim ond yn anaml y mae wedi’i gweld yng Nghymru.

Darganfyddiad diddorol arall oedd corryn pitw bach yn y Tŷ Trofannol; roedd yn llai nag ychydig filimetrau o ran maint, ac yn perthyn i’r genws Quamtana. Dyma’r tro cyntaf i’r corryn hwn, sydd yn ôl pob tebyg yn tarddu o Affrica, gael ei ddarganfod yn y DU – mae hyn yn amlygu pwysigrwydd cofnodi biolegol wrth ddod o hyd i rywogaethau estron a’u tracio.

Roedd yna syrpreis ymhlith y rhywogaethau planhigion newydd a gofnodwyd yn ystod y BioBlitz – Triaglog Goch (Centranthus ruber). Mae hon yn rhywogaeth gyffredin ledled y safle, felly roedd yn syndod ei bod yn un o’n rhywogaethau a gofnodwyd o’r newydd. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd cofnodi hyd yn oed rywogaethau cyffredin iawn, gan fod y cofnodion yn awgrymu bod y rhywogaeth hon yn brin iawn, ond gwyddom nad yw hynny’n wir.

Uchafbwyntiau

Roeddem wedi cychwyn y digwyddiad ar y nos Wener trwy osod trapiau gwyfynod i ddechrau’r ras gofnodi, yn llawn cyffro o gael gweld pa rywogaethau y byddem yn eu darganfod yn y bore. Cyflwynwyd cyfanswm o 82 o gofnodion o wyfynod dros y penwythnos, yn cynnwys pum rhywogaeth a oedd yn newydd i’r safle: Cathan Poplys (Furcula bifida), Ton Wen Leiaf (Idaea fuscovenosa), Clai Smotyn Sgwâr (Xestia stigmatica), Pluwyfyn Trionglog (Platyptilia gonodactyla), a rhywogaeth Coleophora.

Uchafbwynt arall y penwythnos oedd cyfrif y clwydi ystlumod, lle cyfrifwyd dros 300 o Ystlumod Lleiaf Soprano yn dod allan o glwyd Bloc y Stablau wrth iddi nosi. Roedd yn anhygoel cael defnyddio synwyryddion ystlumod i wrando ar eu crïoedd ecoleoli yn y gwyll. Bu i ni hyd yn oed weld ystlum ifanc yn cropian allan o’r twll yn y to, ac yn hedfan am y tro cyntaf! Mae’r nifer hwn o ystlumod yn dangos bod gennym boblogaeth iach yn yr Ardd, sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth a’r niferoedd uchel o bryfed sy’n ffynnu yma.

Llwyddiant mwyaf y penwythnos oedd cael aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan yn y gwaith cofnodi biolegol a chadwraeth. Roedd yn wych i’r ymwelwyr a’r gweithwyr proffesiynol, fel ei gilydd, ryngweithio a rhannu straeon cofnodi. Cyflwynwyd cofnodion gan 37 o unigolion gwahanol, yn weithwyr proffesiynol ac yn unigolion hollol newydd i gofnodi, a fu’n cydweithio i ddarganfod a nodi rhywogaethau ledled tirlun yr Ardd Fotaneg, ac yn mentro ymhellach i Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.

Y Gornel Gadwraeth

Bu i 25 o sefydliadau cadwraeth o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, ymuno â ni i rannu eu gwaith a’u straeon cadwraeth. Roedd pabell y Gornel Gadwraeth yn llawn dop o weithwyr proffesiynol bywyd gwyllt a gwirfoddolwyr brwdfrydig yn arddangos eu gwaith trwy gyfrwng gweithgareddau hwyliog i ennyn diddordeb yr ymwelwyr. Roedd y rhain yn cynnwys dadansoddi deietau dolffiniaid gan ddefnyddio DNA, edrych yn fwy manwl ar gennau o dan y microsgop, a dysgu am y ffordd orau i ofalu am bob math o fywyd gwyllt, o lygod pengrwn y dŵr, draenogod a moch daear, i blanhigion a ffyngau a phopeth rhyngddynt.

Roedd yna amrywiaeth wych o deithiau cerdded tywysedig, sgyrsiau addysgol, a gweithdai ymarferol a gynhaliwyd gan staff ac arbenigwyr a sefydliadau a oedd yn ymweld. Aeth y cyfranogwyr ati i adnabod pryfed cop a ffyngau ar lefel ficrosgopig, gan wella eu gallu i gofnodi rhywogaethau mwy anodd. I’r rheiny a oedd yn meddu ar allu mwy artistig, roedd gweithdai llifynnau planhigion ar gael, a oedd yn defnyddio technegau dyrnu a llifo bwndel – roedd y rhain yn dipyn o hwyl.

Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n ymwneud â chynllunio, cynnal a chefnogi’r digwyddiad gwych hwn – roedd yn ymdrech tîm wirioneddol, ac yn gyfraniad ystyrlon at fonitro bioamrywiaeth. Gobeithiwn weld pob un ohonoch eto’r flwyddyn nesaf ar gyfer Gŵyl BioBlitz 2026!

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y BioBlitz, cofnodi biolegol, a sut i gyflwyno cofnodion, defnyddiwch y dolenni canlynol:


Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.