Mae hydref yn amser cyffrous o’r flwyddyn, gyda llawer o ffyngau rhyfedd a godidog yn ymddangos. Mae llawer o ffyngau sy’n aros yn gudd yn y pridd am y rhan fwyaf o’r flwyddyn yn atgenhedlu pan fydd y tywydd yn oerach ac yn llaith yn yr hydref. Dyma’r amser perffaith i weld eu cyrff ffrwytho, neu fadarch cyfarwydd sy’n tyfu uwchben y ddaear. Mae’r rhain yn amrywio o fadarch Amanita’r Gwybed coch eiconig i’r Parasiwt Celyn bach, bron yn ficrosgopig. Mae ffyngau’n dod ym mhob siâp, lliw a maint, a gallwch weld amrywiaeth eang ohonynt yma, gyda dros 350 o rywogaethau wedi’u cofnodi yn yr Ardd Fotaneg!
Mae’n flwyddyn doreithiog i gapiau cwyr a ffwng glaswelltiroedd eraill, felly nawr yw’r amser perffaith i ddod i archwilio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las a gweld a allwch chi ddarganfod rhai o’r madarch lliwgar a phrin hyn drosoch eich hun!
Beth yw cap cwyr?
Mae capiau cwyr yn deulu o ffwng glaswelltir lliwgar, yn aml gyda chapiau cwyraidd neu lithrig. Maent yn amrywio o liwiau coch tywyll ac ysgarlad, i arlliwiau o oren, melyn, gwyrdd, brown, llwyd a hyd yn oed pinc! Fe’u ceir mewn glaswelltiroedd sydd yn isel mewn maetholion nad ydynt wedi’u ‘gwella’ yn amaethyddol – heb eu haredig na’u gwrteithio, sy’n golygu bod y borfa barhaol a reolir yn organig yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yn addas iawn. Mae glaswelltiroedd yng Nghymru yn arbennig o bwysig i’r rhywogaethau hyn ac efallai eu bod ymhlith y lleoedd gorau yn y byd i ddod o hyd i’r ffwng glaswelltir prin yma.
Pa mor brin yw capiau cwyr?
Mae’r mathau o gynefinoedd glaswelltir pori parhaol lle mae capiau cwyr yn ffynnu yn dod yn fwyfwy prin yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae llawer o rywogaethau capiau cwyr wedi’u rhestru fel rhai sydd dan fygythiad o ddifodiant yn ôl Rhestr Goch Rhywogaethau dan Fygythiad yr IUCN – mae ganddynt yr un statws bygythiad â’r Morfuwch, y Llewpard Eira neu hyd yn oed yr Arth Wen.
Mae’r ffwng cyfatebol i’r rhywogaethau dan fygythiad hyn yn byw yma yn yr Ardd Fotaneg! Gellir dod o hyd i o leiaf ddeg rhywogaeth o ffwng glaswelltir sydd dan fygythiad mewn un cae yn unig ymA, o’r enw Cae Cap Cwyr. Maent yn lledaenu ar draws y safle cyfan ac yn cael eu canfod mewn mwy o leoedd bob blwyddyn. Mae hyn yn gyffrous ac yn galonogol iawn – newyddion da i’r rhywogaethau dan fygythiad hyn.
“Mae angen i ni ddeall a gwerthfawrogi bod Cymru wedi’i bendithio â’r fraint o fod yn geidwad rhai o’r ffyngau prinnaf hyn sydd ar y Ddaear.” – Bruce Langridge, ecolegydd lleol
Ble i weld capiau cwyr yn yr Ardd Fotaneg
Gellir gweld capiau cwyr ar draws yr Ardd Fotaneg mewn ardaloedd o laswellt byr, gan gynnwys ar y lawntiau o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr a Thŷ Melyn ac ymylon glaswellt wedi’i dorri.
I gael y cyfle gorau o weld y capiau cwyr prinnach a mwy lliwgar, bydd angen i chi fentro i Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las – dilynwch y llwybr glas i gyrraedd Cae Cap Cwyr (rhif 5 ar y map). Cadwch lygad allan wrth i chi gerdded drwy’r glaswellt ac efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus i weld rhai o’r madarch lliwgar hyn. Y llethr i’ch de wrth i chi gerdded mewn i’r cae yw’r ardal orau i’w gweld.
Yr hydref a’r gaeaf yw’r amseroedd gorau i ddod o hyd i’r ffyngau hyn. Dros yr wythnosau diwethaf, mae staff a gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur yn chwilio am, adnabod a chofnodi llawer o rywogaethau.
Rhai rhywogaethau i edrych amdanynt
O’r 30 rhywogaeth o gapiau cwyr sydd wedi’u cofnodi yn yr Ardd yn flaenorol, mae o leiaf 15 o’r rhain eisoes wedi’u gweld eleni, gan gynnwys:

(Porpolomopsis calyptriformis)

(Cuphophyllus russocoriaceus)

(Hygrocybe punicea)

(Gliophorus psittacinus)

(Hygrocybe chlorophana)

(Gliophorus irrigatus)

(Hygrocybe splendidissima)

(Cuphophyllus pratensis)

(Hygrocybe reidii)
Pam mae capiau cwyr yn ffynnu yma?
Yn yr Ardd Fotaneg, rydym yn rheoli ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las fel fferm organig, heb ychwanegu unrhyw wrteithiau na phlaladdwyr. Mae gwartheg duon Cymreig yn pori rhai caeau i gadw’r glaswellt yn isel, sy’n wych ar gyfer ffyngau. Rydym yn rheoli caeau eraill fel dolydd gwair, gan gymryd toriad ar ddiwedd yr haf i gynnal y lefel maetholion isel, gan ganiatáu i’r ffyngau ffynnu. Rydym yn rheoli’r tir i feithrin bioamrywiaeth, gan warchod y ffyngau hyn o bwysigrwydd cadwraeth ryngwladol, ynghyd â llawer o rywogaethau eraill.
Dysgwch fwy
Casglwch Ganllaw i Ffyngau Glaswelltir o’r mynediad ymwelwyr wrth i chi fynd i mewn neu lawrlwythwch yma.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am ffyngau glaswelltir drwy ddilyn Llwybr Llafar Waun Las. Mae’r bennod sy’n ymwneud â ffyngau glaswelltir i’w gael yma:
Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.
