Mae’r Ardd Fotaneg yn orlawn o ryfeddodau ffwngaidd wrth i’r hydref ein cyrraedd yn swyddogol. Er bod ffyngau yn bresennol trwy gydol y flwyddyn, mae tywydd oerach a gwlypach yr hydref yn darparu’r amodau delfrydol i ffyngau gynhyrchu eu cyrff hadol – y rhannau o’r ffwng sy’n cynhyrchu’r sborau sy’n caniatáu atgenhedlu. Nid oes dim amser gwell i fynd ati i chwilota am ffyngau!
Hafan i Ffyngau
Mae tirwedd amrywiol yr Ardd Fotaneg a’i chymysgedd o gynefinoedd yn darparu’r lloches berffaith i amrywiaeth anhygoel o rywogaethau ffwngaidd – pob un mor rhyfedd a rhyfeddol â’r nesaf. O goetiroedd a dolydd i lawntiau, gwelyau blodau, a hyd yn oed tomenni compost, mae pob cornel yn cynnig rhywbeth unigryw i’r organebau hyn. Mae’r Ardd hefyd yn gartref i lu o wahanol rywogaethau o blanhigion, gan alluogi ffyngau i greu’r cysylltiadau mycorhisol hanfodol y mae eu hangen ar yr organebau i ffynnu.



Dathlu Diwrnod Ffyngau y DU
Ar y 5ed o Hydref, buom yn dathlu Diwrnod Ffwng y DU; diwrnod cyfan wedi’i neilltuo i’r deyrnas ffwngaidd hynod ddiddorol. Croesawyd arbenigwyr lleol a hyd yn oed athro i roi sgyrsiau a theithiau i rannu eu gwybodaeth am ffyngau a’u dirnadaeth ohonynt. Chwiliodd y rhai a oedd yn bresennol ym mhob twll a chornel, gan syllu’n ofalus ar y ddaear, darganfod rhywogaethau mewn ardaloedd newydd, a chael sylwi ar yr organebau anhygoel hyn yn fanwl.
Archwilio’r Dolydd
Dechreuodd y diwrnod gyda thaith boblogaidd iawn gan yr ecolegydd lleol, a chyn-Bennaeth Dehongli yr Ardd, Bruce Langridge.
Wrth i’r rhai a oedd yn bresennol ymlwybro trwy gynefinoedd glaswelltog yr Ardd, cawsant eu swyno gan y ffyngau bychain o dan eu traed. Gwelodd y plant, â’u llygaid craff, rai o’r cawsiau llyffant lleiaf, gan ychwanegu cyffro at ganfyddiadau’r grŵp. Un uchafbwynt o’r fath oedd y Cap Cwyr Mêl (Hygrocybe reidii), a basiwyd o gwmpas i bawb gael arogli ei arogl mêl, gan swyno’r rhai a allent ei ganfod.
Darganfyddiadau Cyffrous yng Nghae Gwair
Cafwyd rhai darganfyddiadau hefyd yng Nghae Gwair, ein dôl wair arbrofol. Yn 2019, defnyddiwyd gwair gwyrdd i adfer y ddôl, ac ers hynny mae rhywogaethau newydd wedi bod yn ymddangos bob blwyddyn, gan gynnwys ffyngau! Ar daith ‘Dolydd a Glaswelltiroedd’ Bruce, daeth y cyfranogwyr o hyd i bum rhywogaeth o gapiau cwyr, gan ddod â chyfanswm y capiau cwyr a gofnodwyd yng Nghae Gwair i chwech:
- Gliophorus psittacina – y Cap Cwyr Seithliw
- Cuphophyllus virgineus – y Cap Cwyr Gwyn
- Hygrocybe reidii – y Cap Cwyr Mêl
- Hygrocybe clorophana – y Cap Cwyr Aur
- Hygrocybe cereacea — y Cap Cwyr Menyn
- Porpolomopsis calyptriformis – y Cap Cwyr Balerina

(Porpolomopsis calyptriformis)


Mae hyn yn newyddion gwych, gan fod capiau cwyr yn ddangosyddion allweddol ar gyfer ecosystemau iach, bioamrywiol, sy’n ffynnu mewn priddoedd diymyrraeth, isel eu maeth, y mae gennym ddigonedd ohonynt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Mae’r darganfyddiadau hyn yn arwydd o lwyddiant ein harferion ffermio a rheoli tir organig, ac yn tanlinellu pwysigrwydd adfer a gwarchod glaswelltiroedd llawn rhywogaethau.
Dirnadaethau gan yr Athro David Hawksworth CBE
Roedd yn fraint i ni gael yr Athro David Hawksworth, CBE, yn rhannu ei wybodaeth helaeth am ffyngau. Gyda dros 50 mlynedd o brofiad ymchwil, bu’r Athro Hawksworth yn trafod hollbresenoldeb ffyngau, sy’n treiddio i bob rhan o’n bywydau – o’u rôl mewn meddygaeth a diogelwch bwyd i’w heffaith ar yr amgylchedd. Er gwaethaf rôl hanfodol ffyngau ym mywyd beunyddiol, mae mwyafrif y rhywogaethau heb eu darganfod o hyd; mae’r Athro Hawksworth yn amcangyfrif mai dim ond tua 6% o rywogaethau ffwngaidd y byd yr ydym wedi’u nodi, gan adael miliynau eto i’w henwi (Hawksworth & Lücking, 2017).
Mwy o Ryfeddodau Mycolegol
Uchafbwynt arall i’r diwrnod oedd taith gan y mycolegydd arbenigol, Emma Williams o Coal Spoil Fungi, a arweiniodd yr ymwelwyr trwy archwiliad o amrywiaeth ffwngaidd yr Ardd. Gyda’i llygad craff a chyfoeth helaeth o wybodaeth, cyflwynodd y gynulleidfa i lu o rywogaethau newydd ac anarferol, pob un yn amrywio o ran siâp, maint, lliw, a hyd yn oed arogl!
Roeddem hefyd yn llawn cyffro i gael cwmni Plantlife eleni, a ddaeth â rhai sbesimenau capiau cwyr i’r ymwelwyr gael edrych arnynt yn fanylach. Gallwch chithau hefyd ymwneud ag adnabod glaswelltiroedd pwysig trwy gymryd rhan yng nghynllun Cyfrif Capiau Cwyr Plantlife, gan helpu i gofnodi capiau cwyr mewn unrhyw gynefinoedd glaswelltog yn eich ardal chi.
Diwrnod i’w Gofio
Roedd Diwrnod Ffyngau y DU yn ddathliad gwych o fywyd ffwngaidd yn yr Ardd Fotaneg a thu hwnt. Cafodd plant ac oedolion, fel ei gilydd, eu swyno gan yr organebau hynod ddiddorol hyn, gan ddysgu am eu hecoleg a’u cadwraeth, ac edrych ar eu manylion cywrain yn fanwl o dan y microsgop.
Aeth llwybr cod QR ac iddo ddarluniau artistig hardd ag ymwelwyr ar daith i ddysgu am rywogaethau gwahanol a sut i’w hadnabod. Roedd hyd yn oed y cyfle i ymwelwyr greu eu rhywogaeth madarch eu hunain trwy baentio madarch pren.
Dim ond Megis Dechrau y mae Tymor y Ffyngau!
Os colloch y digwyddiad, peidiwch â phoeni – dim ond newydd ddechrau y mae tymor y ffyngau. Nawr yw’r amser perffaith i fynd allan ac archwilio’r rhyfeddodau ffwngaidd sydd o’r golwg yng ngolwg pawb. Cofiwch, mae ffyngau ym mhobman!
Deunydd Darllen Pellach
Hawksworth, D.L., Lücking, D. (2017). Fungal Diversity Revisited: 2.2 to 3.8 Million Species, Microbiology Spectrum.
Capiau cwyr a Ffyngau’r Glaswelltir: Canllaw adnabod a rheoli. Plantlife Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am fyd rhyfeddol ffyngau’r Ardd, gwrandewch ar ddwy bennod o bodlediad Y Pot Blodyn i glywed Bruce Langridge ac Emma Williams yn trafod eu hangerdd a’u gwybodaeth am ffyngau ymhellach.
Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.



